ENILLWYR GWOBRAU TIR NA N-OG 2022

Cymeriadau cofiadwy a nofel dwymgalon am adeg y rhyfel ddaeth i’r brig yng Ngwobrau Tir na n-Og 2022. Cyhoeddwyd enwau enillwyr y Gwobrau Cymraeg yn Eisteddfod yr Urdd, Sir Ddinbych ar ddydd Iau, 2 Mehefin 2022 a’r Wobr Saesneg ar raglen y Radio Wales Arts Show ar nos Wener, 20 Mai 2022.

 

Y tri llyfr a ddaeth i’r brig yng Ngwobrau Tir na n-Og 2022 oedd Gwag y Nos gan Sioned Wyn Roberts (Atebol), Y Pump, gol. Elgan Rhys (Y Lolfa) a The Valley of the Lost Secrets gan Lesley Parr (Bloomsbury).

 

CATEGORI CYMRAEG – CYNRADD

Gwag y Nos gan Sioned Wyn Roberts (Atebol 2021) oedd yn fuddugol yn y categori Cymraeg oedran cynradd 2021. Dyma nofel sy’n dod â’r cyfnod Fictoraidd a byd creulon y wyrcws yn fyw trwy anturiaethau Magi, rebel a phrif gymeriad hoffus a direidus y stori. Dilynwn Magi wrth iddi fynd o wyrcws Gwag y Nos i Blas Aberhiraeth, gan gwrdd â chymeriadau cofiadwy ar hyd y ffordd fel Mrs Rowlands, Nyrs Jenat a Cwc. Wrth ddilyn sawl tro annisgwyl yn y stori, rydyn ni a Magi eisiau gwybod yr ateb i un cwestiwn – beth yw cyfrinach dywyll Gwag y Nos?

CATEGORI CYMRAEG – UWCHRADD

Enillydd y categori Cymraeg uwchradd yn 2022 oedd Y Pump,  gol. Elgan Rhys (Y Lolfa 2021). Mae Y Pump yn dilyn criw o ddisgyblion yn Ysgol Gyfun Llwyd, wrth iddynt ddarganfod y pŵer sydd gan eu harallrwydd pan maen nhw’n dod at ei gilydd fel cymuned. Cawn ein tywys gan safbwyntiau unigryw Tim, Tami, Aniq, Robyn a Cat gan ddod i adnabod realiti cymhleth bod yn berson ifanc ar yr ymylon heddiw. Drwy gydweithio â’r golygydd Elgan Rhys, mae pum ysgrifennwr ifanc wedi gweithio ar y cyd ag awduron mwy profiadol i greu’r gyfres uchelgeisiol, arbrofol, bwerus yma.

Teitlau ac awduron y pum cyfrol unigol yw Tim (gan Elgan Rhys a Tomos Jones), Tami (gan Mared Roberts a Ceri-Ann Gatehouse), Aniq (gan Marged Elen Wiliam a Mahum Umer), Robyn (gan Iestyn Tyne a Leo Drayton) a Cat (gan Megan Angharad Hunter a Maisie Awen).

CATEGORI SAESNEG

The Valley of the Lost Secrets gan Lesley Parr (Bloomsbury, 2021) – nofel dwymgalon wedi’i lleoli yng nghymoedd de Cymru – ddaeth i’r brig yng nghategori Saesneg Gwobrau Tir na n-Og 2022 ar gyfer llenyddiaeth plant a phobl ifanc.

 

 

MANYLION PELLACH