Awydd Darllen Mwy?

Delwedd o bobl yn darllen gan Beth Blanfordd // Illustration of people reading by Beth Blandford.

ARGYMHELLION DARLLEN

Ddim yn siŵr beth i’w ddarllen? Chwilio am argymhellion? Rhowch gynnig ar bodlediadau sy’n trafod llyfrau. Mae podlediad Colli’r Plot a Caru Darllen yn trafod llyfrau o bob math, yn ogystal â chyfweld awduron. Maen nhw hefyd yn cynnwys rhestr ddarllen gyda phob pennod, felly does dim angen gwneud nodyn neu grafu pen wrth geisio cofio teitlau’r llyfrau oedd yn swnio’n ddifyr, dim ond edrych yn ôl ar y rhestr!

Neu beth am alw yn eich siop lyfrau leol? Mae gan lyfrwerthwyr gyfoeth o wybodaeth. O lyfrau gan awduron newydd sydd newydd gyrraedd y silffoedd i hen ffefrynnau gan awduron adnabyddus, gall staff y siop eich cynghori. Mae sawl siop hefyd yn cynnal digwyddiadau a darlleniadau a fydd yn siŵr o danio’r awydd i ddechrau darllen cyfrol newydd. Galwch draw!

RHESTRAU AMRYWIOL

 Mis Hanes LHDTC+

CYD-DDARLLEN

Does dim rhaid i ddarllen fod yn rhywbeth y byddwch chi’n ei wneud ar eich pen eich hun. Mae bod yn aelod o Glwb Darllen yn gyfle i drafod llyfrau penodol mewn manylder, i rannu awgrymiadau a chyfnewid syniadau – a chyfle i roi’r byd yn ei le dros baned neu beint!

Mae ’na glybiau darllen ar draws Cymru, sy’n croesawu aelodau newydd o hyd. Mae Llyfrau Lliwgar yn glwb llyfrau LHDTC+ sy’n cyfarfod yn fisol yn Pontio ym Mangor a’r Chapter yn Gaerdydd. Mae Clwb Darllen Caernarfon yn cyfarfod yn Llety Arall, tra bod clybiau hefyd yn cyfarfod mewn llyfrgelloedd ar draws Cymru. Dim clwb yn eich ardal chi? Beth am sefydlu un? Cyfle i ddarllen, i drafod llyfrau a chymdeithasu – beth well ar ddechrau blwyddyn newydd?

YMUNWCH Â’CH LLYFRGELL LEOL

Eisiau darllen rhywbeth hollol wahanol i’r arfer ond ddim eisiau prynu’r llyfr nes eich bod yn hollol siŵr y byddwch chi’n ei fwynhau? Ymunwch â’ch llyfrgell leol!

Nid yn unig mae modd benthyg amrywiaeth anhygoel o lyfrau, yn rhai hen a newydd, yn Gymraeg a Saesneg, ond mae hefyd modd manteisio ar lu o wasanaethau eraill. Mae Borrow Box yn ap i aelodau llyfrgell ar gyfer benthyg e-lyfrau a llyfrau llafar yn y ddwy iaith, tra bod Libby yn rhoi mynediad i ystod eang o gylchgronau yn electroneg, gan gynnwys cylchgronau Cymraeg, yn rhad ac am ddim.

 

DEFNYDDIWCH FFOLIO

Mae mor hawdd i’r hyn a welwn ni ar ein ffôn ein diflasu a sugno’n hegni, gan ein temtio i sgrolio’n ddiddiwedd ac yn ddigyfeiriad. Beth am lawrlwytho llyfr i’ch ffon drwy ffolio.cymru?

Mae Ffolio yn gwerthu e-lyfrau o Gymru yn Gymraeg a Saesneg, gan hefyd gefnogi eich dewis o lyfrwerthwr heb unrhyw gost ychwanegol i chi. Mae llyfrau newydd fel Sgen i’m Syniad gan Gwenllian Ellis neu glasuron fel Cerddi T. H. Parry-Williams, ar gael ar flaen eich bysedd wrth aros am y bws neu fwyta eich cinio.

 

EICH DEWIS CHI

Yn hytrach na darllen y llyfrau mae pawb yn honni y dylech chi eu darllen, darllenwch y rhai sy’n mynd â’ch bryd, sy’n eich denu i droi atyn nhw. Ac os nad ydych chi’n eu mwynhau, peidiwch â theimlo bod yn rhaid pydru ’mlaen a darllen hyd y dudalen olaf un. Mae bywyd yn rhy fyr! Efallai nad hwn yw’r llyfr i chi, neu efallai nad dyma’r amser i ddarllen y gyfrol arbennig hon – felly rhowch gynnig ar lyfr arall. Mae mwy na digon i bawb ar y silff!