Llyfrau i Ddysgwyr

https://parallel.cymru/amdani/

Cyfres Amdani:

Cyfres Amdani – cyfres newydd gyffrous o lyfrau darllen yn arbennig ar gyfer oedolion sy’n dysgu Cymraeg.

Mae’r llyfrau wedi eu graddoli ar bedair lefel – Mynediad, Sylfaen, Canolradd ac Uwch.

Bydd y gyfres hon yn llenwi’r bwlch trwy roi cyfle i ddysgwyr Cymraeg fwynhau darllen am amrywiaeth o bynciau a themâu cyfoes.

Amdani

Lefel Mynediad:

Cyfres Amdani: Am Ddiwrnod!

Llyfr o gyfres Amdani, i ddysgwyr Lefel Mynediad. Mae’r nofel yn sôn am ddiwrnod ym mywyd Sophie, sydd ar ei ffordd i fod yn ecstra mewn ffilm, ond mae nifer o ddigwyddiadau yn ei rhwystro rhag cyrraedd y set. Mae’n gorfod ymweld â swyddfa’r heddlu sawl gwaith, ond does dim ots ganddi, oherwydd mae’n ffansïo’r plismon yno!

Cyfres Amdani: Wynne Evans – O Gaerfyrddin i Go Compare

Llyfr o gyfres Amdani, i ddysgwyr Lefel Mynediad. Bywgraffiad Wynne Evans. Darlun personol a gonest iawn o hanes Wynne a’i deulu, ei brofiadau fel tenor enwog, a’i ymdrech fel oedolyn i ddysgu Cymraeg.

Cyfres Amdani: Ditectif Elsa B

Llyfr o gyfres Amdani, i ddysgwyr Lefel Mynediad. Mae Elsa Bowen yn gweithio fel ditectif preifat; fel arfer mae’n ymchwilio i dwyll yswiriant. Ond mae hynny’n newid ar y bore Mercher yma. Mae sylw Elsa B ar siop lyfrau Cymraeg yn nhre Caernarfon lle mae pethau annisgwyl yn digwydd.

Cyfres Amdani: Stryd y Bont

Llyfr o gyfres Amdani, i ddysgwyr Lefel Mynediad. Mae Stryd y Bont yn dilyn hanes pobl sy’n byw ar yr un stryd mewn tref yng Nghymru. Pa gyfrinachau sydd ganddyn nhw? Pwy sy’n adnabod pwy? Ac a ydy cymeriadau Stryd y Bont yn adnabod eu cymdogion o gwbl?

Lefel Sylfaen:

Cyfres Amdani: Y Stryd

Llyfr o gyfres Amdani, i ddysgwyr Lefel Sylfaen. Un noson. Un stryd. Ac mae gan bob person ym mhob tŷ broblem. Sut mae Nina yn mynd i ddweud ei newyddion wrth Dafydd? Pam mae Magi yn gorfod ail feddwl am Xavier? Beth mae Sam yn mynd i wneud am y broblem fawr? Sut mae bywyd Huw yn mynd i newid am byth? Bydd un nos Wener yn newid popeth.

Cyfres Amdani: Y Fawr a’r Fach – Straeon o’r Rhondda

Llyfr o gyfres Amdani, i ddysgwyr Lefel Sylfaen. Cyfrol o straeon byrion sy’n ymwneud â rhyw hanesyn o bentre penodol yn y Rhondda.

Cyfres Amdani: Teithio drwy Hanes

Llyfr o gyfres Amdani, i ddysgwyr Lefel Sylfaen. Casgliad o 40 o ysgrifau byrion am brif ddigwyddiadau a themâu hanes Cymru, gyda map ar ddechrau’r llyfr yn dangos y teithiau.

Lefel Canolradd:

Cyfres Amdani: Y Llythyr

Llyfr o gyfres Amdani, i ddysgwyr Lefel Canolradd. Ym mhentref bach Treddafydd yng Nghymoedd de Cymru, mae Megan a Huw yn dod yn gariadon. Ond a fydd eu cariad yn ddigon cryf i oroesi’r amgylchiadau? Mae marwolaeth, eu teuluoedd, a’r blynyddoedd ar wahân i gyd yn eu herbyn nhw.

Cyfres Amdani: Gêm Beryglus

Llyfr o gyfres Amdani, i ddysgwyr Lefel Canolradd. Addasiad Cymraeg Pegi Talfryn o Man Hunt gan Richard MacAndrew. Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn enwog am ei harddwch naturiol ac am y llwybrau cerdded. Ond mae’r lle yn cyrraedd y newyddion am reswm arall; mae pobl yn cael eu lladd yn yr ardal.

Cyfres Amdani: Croesi’r Bont

Llyfr o gyfres Amdani, i ddysgwyr lefel Canolradd. Cyfrol o straeon byrion amrywiol sy’n llawn hiwmor, gan awdures sydd wedi dysgu Cymraeg ei hun. Ymysg y straeon mae stori antur, stori dditectif a stori wyddonias.

Lefel Uwch:

Cyfres Amdani: Cofio Anghofio

Llyfr o gyfres Amdani, i ddysgwyr Lefel Uwch. Stori deimladwy am ymdrech dwy chwaer i ddod i delerau â dementia eu mam, a’i effaith ar eu bywydau. Addasiad Cymraeg Elin Meek o Forget to Remember gan Alan Maley.

Cyfres Amdani: Trwy’r Ffenestri

Llyfr o gyfres Amdani, i ddysgwyr Lefel Uwch. Addasiad Cymraeg gan Manon Steffan Ros o Windows of the Mind gan Frank Brennan. Dyma gasgliad o straeon byrion difyr a fydd yn siwr o wneud i chi feddwl. Dewch i adnabod cymeriadau cymhleth, lleoliadau pell, a straeon fydd yn aros yn eich meddwl am amser maith.

Cyfres Amdani: Cyffesion Saesnes yng Nghymu

Llyfr o gyfres Amdani, y ddysgwyr Lefel Uwch. Mae Katie newydd symud i Gymru gyda’i gŵr newydd, Dylan. Yn ôl Dylan roedden nhw am fyw mewn tŷ enfawr ond mae pethau’n mynd o’i le ac mae’n rhaid i’r ddau symud i fyw gyda’i rieni. Sut fydd teulu Dylan yn ymdopi gyda’r ymyrwriag yn eu plith a hithau’n Saesnes hollol ddi-glem?