
Mae Canolfan Ddosbarthu’r Cyngor Llyfrau yn cynnig gwasanaeth dosbarthu cyfanwerthu i’r fasnach lyfrau yng Nghymru.
Wedi’i lleoli mewn adeilad pwrpasol ar Barc Menter Glanyrafon ar gyrion Aberystwyth, mae warws y Ganolfan yn cynnwys stoc eang o ddeutu hanner miliwn o lyfrau Cymraeg a llyfrau Saesneg o Gymru neu o ddiddordeb Cymreig.
Daw hyd at 1,300 o lyfrau newydd Cymraeg a llyfrau Saesneg o Gymru neu o diddordeb Cymreig o’r wasg yn flynyddol.
Nod y Ganolfan yw stocio pob llyfr posibl sydd o ddiddordeb Cymreig, lle gall cyhoeddwyr gynnig telerau cyfanwerthu.
Mae’r Ganolfan Ddosbarthu yn hunan-gynhaliol. Mae’n cynhyrchu incwm o’i gweithgareddau masnachol ac nid yw’n derbyn nawdd o’r pwrs cyhoeddus.
Manylion Cyswllt
Ebost: canolfan.ddosbarthu@llyfrau.cymru
Ffôn: 01970 624455
Pennaeth y Ganolfan Ddosbarthu – Arwel Evans arwel.evans@llyfrau.cymru
Pennaeth Gwerthu a Marchnata – Helena O’Sullivan helena.osullivan@llyfrau.cymru
Swyddog Gwybodaeth – Lowri Davies lowri.davies@llyfrau.cymru
Rheolydd Swyddfa – Glenys Jenkins glenys.jenkins@llyfrau.cymru