Eisiau cyflwyno llyfrau newydd i ddarllenwyr ifanc?
Eisiau llyfrau am ddim a phecyn adnoddau?
Eisiau trafod y llyfrau a straeon yna?
Cynllun cysgodi Tir na n-Og yw’r peth i chi!
Bwriad y cynllun cysgodi yw codi ymwybyddiaeth ymhlith plant a phobl ifanc am deitlau’r rhestr fer wrth gynnig cyfle i fwynhau darllen a thrafod y llyfrau â’u cyfoedion.
Gall ysgolion, llyfrgelloedd a grwpiau darllen eraill gofrestru i gymryd rhan yn y cynllun a bod yn feirniaid answyddogol i ddewis enillydd o blith y rhestr fer gan ddefnyddio’r pecyn cysgodi arbennig. Mae’r pecyn cysgodi’n cynnwys crynodeb o’r llyfrau, sylwadau gan y beirniaid swyddogol, gwybodaeth am yr awduron a chardiau pleidleisio.
Ar ôl cofrestru i gymryd rhan yn y cynllun cysgodi byddwn yn anfon un copi o lyfrau’r rhestr fer rydych yn ei chysgodi yn y post a chopi electronig o’r pecyn cysgodi atoch. Nifer cyfyngedig o lyfrau am ddim sydd ar gael, felly cofrestrwch yn gynnar i osgoi cael eich siomi.
Mae’r cyfnod cofrestru wedi dod i ben.
Mae pecynnau cysgodi Tir na n-Og bellach ar gael i’w lawrlwytho yma
