Molly

Shwmae! Molly ydw i, a dwi’n 17 mlwydd oed ac yn dod o Gaerfffili. Dwi mor falch i gael bob yn aelod o Banel Pobl Ifanc Cyngor Llyfrau Cymru 2023! Ar hyn o bryd dwi’n astudio Saesneg, Ffrangeg, Hanes a Seicoleg UG, ond yn fy amser hamdden dwi’n dwlu ar ddarllen. Dwi’n hoff iawn o lyfrau ffantasi, dystopia a nofelau ditectif ar gyfer oedolion ifanc. Dwi’n awyddus iawn, iawn i fod yn rhan o’r trafodaethau am ddarllen er pleser ymhlith pobl fel fi!