Eich cyfle chi i gefnogi llyfrau Cymru

M Wynn Thomas yn darllen

Wrth i Gyngor Llyfrau Cymru ddathlu ei ben-blwydd yn 60 oed eleni, mae’n chwilio am hyd at chwech o ymddiriedolwyr newydd i gynnal a chefnogi ei waith.

Mae Cadeirydd y Cyngor, Yr Athro M. Wynn Thomas, wedi bod yn ateb ychydig o gwestiynau isod er mwyn egluro natur y cyfraniad.

Mae rhagor o fanylion am sut i ymgeisio ar gyfer bod yn ymddiriedolwr i’w cael ar ein tudalen swyddi a gwirfoddoli neu ebostiwch swyddi@llyfrau.cymru i ofyn am becyn ymgeisio.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 12:00 ddydd Llun 8 Chwefror 2021.

 

 

Pam fod gan y Cyngor Llyfrau ymddiriedolwyr? 

Elusen yw Cyngor Llyfrau Cymru, a gafodd ei sefydlu yn 1961 i gefnogi’r diwydiant cyhoeddi yn y ddwy iaith yng Nghymru, i hybu diddordeb mewn llenyddiaeth ac, yn allweddol, i hyrwyddo’r gallu i ddarllen a darllen er mwyn pleser. Mae’r Cyngor Llyfrau yn derbyn arian gan Lywodraeth Cymru ac yn cynhyrchu ei incwm ei hun trwy weithgareddau masnachol. 

Beth yw rôl ymddiriedolwr gyda’r Cyngor Llyfrau? 

Cyfrifoldeb yr ymddiriedolwr yw gwarchod holl fuddiannau’r corff, gan gynnwys ei eiddo a’i enw da, a sicrhau fod y cyfan yn cael ei ddefnyddio er lles y diwydiant cyhoeddi. Mae ein gwaith yn llawer mwy na dosbarthu grantiau a dosbarthu llyfrau; mae’n cynnwys cydgysylltu holl agweddau’r diwydiant cyhoeddi yn ogystal â marchnata, cynnig gwasanaethau a threfnu gweithgareddau, fel Diwrnod y Llyfr a Gwobrau Tir na n-Og. 

Sut fath o berson neu brofiad mae’r Cyngor yn chwilio amdano? 

Yn bennaf, mae angen rhywun sy’n frwdfrydig o blaid cynnal a datblygu byd llyfrau byrlymus Cymru, ac sydd â digon o brofiad i fedru cynnig barn aeddfed am reolaeth a datblygiad y rhychwant o weithgareddau allweddol y mae’r Cyngor yn eu cynnal, sy’n gwbl allweddol i’r byd hwnnw. 

Gan fod maes gofal y Cyngor yn ddwyieithog, yn amlddiwylliannol, ac yn amlweddog, mae angen mawr am dîm o ymddiriedolwyr amrywiol iawn eu cefndiroedd a’u sgiliau. Mae gwaith y Cyngor yn cynnwys y byd llyfrau’n gyfan, o’r comisiynu, yr ysgrifennu a’r cyhoeddi i’r elfennau busnes. Yn sgil y chwyldro digidol, mae’r byd cyhoeddi yn fwy cyffrous o ddeinamig nag erioed o’r blaen, ac y mae Cymru yn glymblaid o gymunedau diwylliannol gwahanol, felly mae angen sicrhau fod gan y Cyngor gorff cyfatebol o ymddiriedolwyr. 

Sut fyddai person yn gallu gwneud gwahaniaeth drwy ddod yn ymddiriedolwr? 

Drwy gynnig gair o brofiad pwyllog yn ôl yr angen, a thrwy arfer eu sgiliau arbennig nhw wrth fynegi barn a chyngor. Yr ymddiriedolwyr yw Pwyllgor Gwaith y Cyngor ac mae nifer o is-bwyllgorau a phaneli’n adrodd yn ôl iddyn nhw. 

Fel Cadeirydd ar y Cyngor Llyfrau ers sawl blwyddyn erbyn hyn – beth ydych chi’n ei fwynhau am fod yn un o ymddiriedolwyr y Cyngor? 

Y boddhad a’r anrhydedd o arwain corff y mae ei waith o’r pwys mwya’ i Gymru gyfan. Y pleser o weld y corff hwnnw yn addasu ei hun mor fedrus yn barhaus i ofynion diwydiant a diwylliant sy’n newid o hyd. Y mae hefyd yn addysg i gael y fath olwg unigryw ar fyd cyhoeddi ac yn her i sylweddoli na fyddai gyda ni fyd llyfrau ein hunain yma yng Nghymru oni bai am gyfraniadau allweddol y Cyngor a haelioni Llywodraeth Cymru. 

Beth fyddech chi’n ei roi yn air o gyngor ar gyfer rhywun sy’n ystyried ymgeisio i fod yn ymddiriedolwr? 

Peidiwch â phetruso: mentrwch. Peidiwch ag oedi. Mae angen cymorth a chefnogaeth ar y Cyngor, felly rhowch gynnig arni yn ddiymdroi. Am wybodaeth bellach cysylltwch â swyddi@llyfrau.cymru