Caru Darllen Ysgolion – Cynradd

Rydym ni wrth ein boddau bod y rhaglen Caru Darllen Ysgolion i ddarparu llyfr am ddim i bob disgybl rhwng 3 ac 16 oed mewn ysgolion gwladol yng Nghymru bellach ar y gweill. Allwn ni ddim aros i gael y llyfrau newydd i blant a theuluoedd!

Gyda chyngor ac awgrymiadau disgyblion ledled Cymru, rydym ni wedi dewis y llyfrau’n ofalus. Bydd digon o ddewis, fel y gall pawb ddod o hyd i’r union lyfr iddyn nhw.

Bydd y llyfrau’n cael eu dosbarthu i ysgolion cynradd gwladol drwy gydol 2022 a byddwn yn rhoi gwybod i’r ysgolion mewn da bryd, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cysylltu â’ch ysgol chi.

Yn y cyfamser byddwn ni’n rhannu ffilmiau, ysbrydoliaeth ar gyfer darllen a rhagor o wybodaeth yma, ac ar sianelau cyfryngau cymdeithasol y Cyngor Llyfrau.

Diolch i Lywodraeth Cymru am ariannu’r rhaglen Caru Darllen Ysgolion.