
Mae hyrwyddo darllen er pleser yn un o brif swyddogaethau’r Cyngor Llyfrau.
Caiff y gwaith ei arwain gan ein Hadran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen, dan arweiniad y pennaeth Helen Jones.
O Ddiwrnod y Llyfr i gystadlaethau darllen, mae hi a’i thîm yn trefnu ystod eang o ddigwyddiadau a gweithgareddau bywiog bob blwyddyn er mwyn ennyn diddordeb plant mewn llyfrau.
Er mwyn gwneud gwahaniaeth go iawn a chael effaith pellgyrhaeddol, mae’r Adran yn gweithio’n agos gydag ysgolion, llyfrgelloedd a sefydliadau sy’n rhannu’r un amcanion.
Manylion Cyswllt
Pennaeth – Helen Jones helen.jones@llyfrau.cymru
Rheolwr Cynlluniau Hyrwyddo Darllen – Angharad Wyn Sinclair angharad.sinclair@llyfrau.cymru
Gweinyddydd – Sian Evans sian.evans@llyfrau.cymru
Gweinyddydd – Eirlys Parry eirlys.parry@llyfrau.cymru