Alexander John

Helȏ! Fy enw i yw Alexander John, a dwi’n dod o Lantrisant yn ne Cymru. Dwi’n 17 mlwydd oed ac yn fyfyriwr Blwyddyn 13 yn astudio Bioleg, Daearyddiaeth a Llenyddiaeth Saesneg. Byddaf yn cychwyn ar fy astudiaethau mewn Archaeoleg ac Anthropoleg ar ddechrau’r flwyddyn academaidd nesaf. Dwi’n llawn cyffro o gael bod ar y Panel Pobl Ifanc, gan fy mod yn ddarllenwr brwd sy’n angerddol am gyflwyno pobl ifanc i rychwant eang o lenyddiaeth. Dwi’n arbennig o hoff o ddarllen nofelau am ddarfodaeth, a hefyd y clasurol o Rwsia. Mae gen i ddiddordeb mawr mewn chwedloniaeth, ac yn enwedig chwedlau a phroffwydoliaethau o Gymru. Fy hoff lyfr yw The Sailor that fell from Grace with the Sea gan Yukio Mishima. Y tu hwnt i ddarllen, fy niddordebau yw nofio, canu’r gitâr a’r bas, cymryd rhan mewn cloddio archeolegol, syrffio a chwarae gemau fideo.