Yr Athro M. Wynn Thomas – Cadeirydd

Yr Athro M Wynn Thomas

Yr Athro M. Wynn Thomas yw deilydd Cadair Emyr Humphreys mewn Ysgrifennu Saesneg yng Nghymru ym Mhrifysgol Abertawe, ac mae’n gyn-Gyfarwyddwr a sylfaenydd CREW (Canolfan Ymchwil i Lenyddiaeth ac Iaith Saesneg Cymru).

Mae’n arbenigwr mewn barddoniaeth Americanaidd ac yn nwy lenyddiaeth Cymru fodern, ac wedi bod yn Athro ar ymweliad ym Mhrifysgolion Havard a Tubingen.  Bu’n Gadeirydd Gwasg Prifysgol Cymru, ac yn Gadeirydd Pwyllgor Llenyddiaeth Cyngor y Celfyddydau am bum mlynedd. Ar ôl gweithredu fel Cadeirydd Academi Awduron Cymru, Yr Academi Gymreig, cafodd ei ethol yn Gymrawd yr Academi yn 2000 ac yn 2012 fe’i gwnaed yn Gymrawd Er Anrhydedd Coleg Cenedlaethol Cymru. Fe’i etholwyd yn Gymrawd yr Academi Brydeinig yn 1996, a derbyniodd anrhydedd uchaf gan yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2000. Mae yn Gymrawd ac yn gyn Is-Lywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru.