Cyhoeddir enwau enillwyr Gwobrau Cymraeg Tir na n-Og 2019 Cyngor Llyfrau Cymru o lwyfan Eisteddfod yr Urdd, Caerdydd a’r Fro, brynhawn Iau, 30 Mai.

Fi a Joe Allen yn rhoi Cymru ar y Map... ond beth am Llyfr Glas Nebo?

Cyhoeddir enwau enillwyr Gwobrau Cymraeg Tir na n-Og 2019 Cyngor Llyfrau Cymru o lwyfan Eisteddfod yr Urdd, Caerdydd a’r Fro, brynhawn Iau, 30 Mai.

Enillwyr y categori cynradd  yw Elin Meek o Gaerfyrddin a Valériane Leblond o Langwyryfon, am y gyfrol  Cymru ar y Map  (Rily), llyfr atlas darluniadol sy’n dangos Cymru ar ei gorau.

Enillydd y categori uwchradd  yw Manon Steffan Ros, a hynny gyda’i chyfrol  Fi a Joe Allen  (Y Lolfa), sy’n cynnig y cyfle i ail-fyw cyffro’r Ewros ym 2016 wrth i ni ddilyn Marc Huws, bachgen o Fangor, a’i dad ar antur fythgofiadwy yn Ffrainc.

Dywedodd Bethan Mair, Cadeirydd y Panel Beirniaid: “Doedd dim amheuaeth ymhlith holl aelodau’r panel ynghylch enillydd y categori cynradd  –  roedd Cymru ar y Map yn ddewis unfrydol gennym oll. Dyma lyfr gwirioneddol wreiddiol, arloesol a rhagorol, a ddyluniwyd yn fendigedig, sy’n cyfuno cynifer o agweddau ar iaith, hanes, daearyddiaeth, diwylliant, treftadaeth a chelf Cymru, nid yn unig ar gyfer yr oedran cynradd, ond i bawb.”

Ychwanegodd “Fe sylwodd Bethan Gwanas yn ei blog am y wobr eleni nad oeddem ni’r beirniaid wedi rhannu’r rhestr fer yn llyfrau cynradd ac uwchradd. Y gwir oedd ein bod ni’n ei gweld hi’n anodd categoreiddio am fod cynifer o’r llyfrau ar y rhestr  –  a’r ddau lyfr buddugol yn enwedig  –  yn pontio oedrannau a chyfnodau. Un peth oedd yn amlwg oedd bod  Fi a Joe Allen  yn llyfr a gyffyrddodd yn ddwfn ymhob un ohonom.”

Dywedodd hefyd: “O ystyried cymaint o glod haeddiannol a bentyrrwyd ar  Llyfr Glas Nebo,  bydd rhai’n siŵr o ddweud ein bod ni’n wallgo i beidio â gwobrwyo’r gyfrol honno. Dyma fy ymateb i: Os ydych chi wedi mwynhau unrhyw gyfrol arall gan Manon, darllenwch  Fi a Joe Allen  –  boed blentyn, arddegyn neu oedolyn  –  a phenderfynwch drosoch eich hun!”