Mae manylion y rhaglen lawn ar gyfer  Gŵyl Llên Maldwyn  eleni wedi’u rhyddhau, gyda rhestr ddisglair o awduron blaenllaw yn cynnwys Horatio Clare, Syr Simon Jenkins a Clare Mackintosh.

Datganiad i’r wasg

Bellach yn ei hail flwyddyn, bydd Gŵyl Llên Maldwyn 2019 yn cael ei chynnal yn ystod y penwythnos 14-16eg Mehefin ym mhlas gwych ac hanesyddol Gregynog, ger y Drenewydd.

Fel yr Ŵyl agoriadol y llynedd, mae’r digwyddiad yn dathlu awduron sydd â chysylltiadau personol a llenyddol â Chymru a’r Gororau:

  • • Dewch i glywed barn Simon Jenkins sy’n aml yn ddadleuol ar bensaernïaeth Cymru.
  • • Cyfarfod â’r awdures lwyddiannus, Clare Mackintosh, a fydd yn siarad am ei gwaith a’i nofel newydd sbon, After the End.
  • • Dysgu am sut y mae canolbarth Cymru wedi ysbrydoli, ac yn parhau i ysbrydoli, awduron mor amrywiol ag Alan Garner a Tom Bullough.
  • • Gwrando ar straeon am anturiaethau ysgrifennu Horatio Clare o amgylch y byd, a sut y maen nhw wedi dylanwadu ar ei waith.
  • • Dysgu gan Andrew Green am sut y mae hanes Cymru’n gallu cael ei adrodd drwy 100 o’i gwrthrychau pwysicaf – a gweld rhai ohonyn nhw drosoch chi’ch hun
  • • Ystyried deilliant gwahanol i laniad D-Day yng nghwmni’r hanesydd milwrol, Peter Caddick-Adams.
  • • Cael eich ysbrydoli gan enillwyr Gwobrau Ysgrifennu y New Welsh Review 2019 mewn sgwrs â’r awdur Cynan Jones a golygydd NWR, Gwen Davies.

…a mwy.

Gall egin awduron fanteisio ar ddwy sesiwn amser cinio, un gyda’r asiant llenyddol gwych Cathryn Summerhayes, a’r ail yn ginio gweithio ymarferol gyda Gwen Davies a Julia Forster o’r New Welsh Review.

Meddai Simon Baynes, sefydlydd yr ŵyl: “Dwi wrth fy modd ein bod ni wedi gallu dod â’r fath amrywiaeth o ddoniau llenyddol i’r Ŵyl eleni. O awduron nofelau ias a chyffro i ysgrifenwyr yn y Gymraeg; o bensaernïaeth Cymru i hanes milwrol ‘beth petai’; o Bowys mewn ffuglen i’r talent ysgrifennu Cymreig mwyaf newydd, mae gan yr Ŵyl eleni yn sicr rywbeth at ddant pawb. ’Dyn ni hefyd wrth ein boddau’n cael cydweithio â Phlas Gregynog, cefnlen hollol addas ar gyfer straeon a darlleniadau, trafodaethau a pherlau llenyddol.”

Bydd yr Ŵyl hefyd yn rhyddhau ei rhaglen i’r plant cyn bo hir, yn cynnwys sesiynau gydag awduron a darlunwyr, a theithiau dan oruchwyliaeth drwy erddi Gregynog.

Mae llety ar gyfer y penwythnos yn ogystal ag amrywiaeth gwych o fwyd a diod ar gael ym Mhlas Gregynog. Ac unwaith eto bydd Siop Lyfrau Booka Croesoswallt yn rhedeg siop lyfrau’r Ŵyl.

Sut i gael gwybod mwy

Mae tocynnau ar werth ar-lein a manylion y rhaglen gyfan ar gael drwy wefan yr Ŵyl: https://montylitfest.wordpress.com/tickets/ .

I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen, ceisiadau am gyfweliadau, bywgraffiadau a lluniau’r siaradwyr, cysylltwch â: baynes@bodfach.com.

Mae tocynnau’r wasg ar gael am y penwythnos. Cysylltwch â baynes@bodfach.com.

Amdanom ni

Ymddiriedolaeth Gŵyl Llen Maldwyn sy’n rhedeg Gŵyl Llên Maldwyn. Ei nod yw dathlu ysgrifennu yng Nghymru a’r Gororau, gyda gŵyl flynyddol yn cylchdroi ymysg lleoliadau allweddol yn Sir Drefaldwyn. Cynhaliwyd yr Ŵyl gyntaf yn 2018 yn Neuadd Bodfach, Llanfyllin ac, yn 2020 bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal yn nhref Trefaldwyn.

https://montylitfest.wordpress.com