Cyhoeddi Rhestr Fer Gwobrau Tir na n-Og 2020

Cyhoeddi Rhestr Fer Gwobrau Tir na n-Og 2020

Mae llyfrau sy’n mynd i’r afael â rhai o’r pynciau mawr sy’n poeni plant a phobl ifanc ymhlith y cyfrolau ar restr fer Gwobrau Tir na n-Og 2020 sy’n cael ei chyhoeddi heddiw (dydd Gwener, 27 Mawrth 2020).

Mae’r rhestr fer o lyfrau Cymraeg yn y categori uwchradd yn ymdrin ag iechyd meddwl, anhwylderau bwyta a mewnfudo tra bod y categori cynradd yn cynnwys llyfrau stori am oddefgarwch, materoliaeth mewn cymdeithas a hanes menywod ysbrydoledig o Gymru.

Straeon wedi’u lleoli ar hyd arfordir a mynyddoedd Cymru am ddreigiau, chwedloniaeth, hud a lledrith sy’n cael sylw yn y rhestr fer ar gyfer llyfrau Saesneg.

Dathlu gwaith awduron a darlunwyr a gyhoeddwyd yn ystod 2019 y mae Gwobrau Tir na n-Og 2020, sy’n cael eu trefnu gan Gyngor Llyfrau Cymru a’u noddi gan CILIP Cymru (sef cymdeithas llyfrgellwyr a gweithwyr gwybodaeth Cymru).

Mae tri phrif gategori: llyfrau Cymraeg ar gyfer plant oedran cynradd, llyfrau Cymraeg ar gyfer oedran uwchradd, a llyfrau Saesneg ac iddynt gefndir Cymreig dilys ar gyfer oedran cynradd neu uwchradd.

Rhestr Fer Gymraeg (Cynradd)

• Y Ddinas Uchel – Huw Aaron (Atebol 2019). Mae Petra’n byw mewn dinas o dyrau a phawb yn treulio pob dydd yn eu codi’n uwch ac yn uwch. Llyfr stori-a-llun am fateroliaeth cymdeithas gyda neges gadarnhaol wedi ei chyfleu mewn ffordd dyner, lawn hiwmor.

• Genod Gwych a Merched Medrus – Medi Jones-Jackson (Y Lolfa 2019). Llyfr lliwgar am 14 o fenywod ysbrydoledig o bob rhan o Gymru gan gynnwys Tori James, Laura Ashley, Eileen Beasley, Amy Dillwyn a Haley Gomez. Llyfr llawn hwyl, ffeithiau, posau a gweithgareddau.

• Pobol Drws Nesaf – Manon Steffan Ros a Jac Jones (Y Lolfa 2019). Llyfr stori-a-llun sy’n ein hannog i beidio â beirniadu rhywun sy’n ymddwyn ac yn edrych yn wahanol i ni, ac yn dangos bod rhaid parchu pawb.

Rhestr Fer Gymraeg (Uwchradd)

• Byw yn fy Nghroen – Gol. Sioned Erin Hughes (Y Lolfa 2019). Profiadau dirdynnol deuddeg o bobl ifanc sydd wedi gorfod brwydro gyda salwch a chyflyrau hirdymor, gan gynnwys afiechydon meddyliol a chorfforol fel cancr, nam ar y golwg, OCD, iselder a gorbryder.

• Tom – Cynan Llwyd (Y Lolfa 2019). Nofel i oedolion ifanc am Tom, bachgen 15 oed sy’n byw mewn fflat gyda’i fam ac yn gyfeillgar gyda chymydog 81 oed. Nofel ddirdynnol sy’n ymdrin â bwlio, gwrthdaro, mewnfudwyr, trais a salwch.

• Madi – Dewi Wyn Williams (Atebol 2019). Stori gref am ferch yn ei harddegau sy’n byw gydag anorecsia a bwlimia ac sy’n ceisio cuddio’r cyflwr.

Dywedodd cadeirydd panel beirniaid y llyfrau Cymraeg, Gwawr Maelor Williams o Adran Addysg Prifysgol Bangor: “Roedd darllen 40 o lyfrau gwreiddiol i blant ac oedolion ifanc fel aelodau panel Tir na n-Og 2020 wir yn brofiad gOgoneddus – ie, gydag O fawr arall. Roedd yr arlwy a gyhoeddwyd gan y cyhoeddwyr yn cynnig ffurfiau, lleoliadau, profiadau a chymeriadau amrywiol dros ben – y cyfan yn gwneud y profiad o gloriannu yn her ac yn hwyl, yn bleser a chyfrifoldeb yr un pryd.

“Roedd ’na leisiau i’w clywed gan y cyhoeddwyr eleni. Lleisiau awduron newydd, cyffrous ac unigryw. Llyfrau gan bobl ifanc i bobl ifanc. Canmoler y cyhoeddwyr am hyn. Ynghanol antur a ffantasi mae llais i lesiant plant, llais i ferched Cymru, llais i wydnwch meddwl ac iechyd meddwl a llais i bobl ifanc ag anhwylderau a chyflyrau corfforol. Gyda mwy nag un gyfrol ar gyfer oedolion ifanc roedd troi’r tudalennau yn ddirdynnol.”

Rhestr Fer Saesneg

• The Secret Dragon – Ed Clarke (Puffin 2019). Antur hudolus yn cyfuno gwyddoniaeth, dreigiau a chyfeillgarwch wedi’i lleoli ar arfordir Cymru.

• Max Kowalski Didn’t Mean It – Susie Day (Puffin 2019). Stori gyfoes am deuluoedd, am fod yn fachgen ac am ymdopi â cholled; llyfr llawn cydymdeimlad wedi’i osod yn Eryri.

• Storm Hound – Claire Fayers (Macmillan Children’s Books 2019). Antur ffantasi wedi’i gosod ym mynyddoedd Cymru, yn cyfuno chwedloniaeth Nordig a Chymreig.

• Where Magic Hides – Cat Weatherill (Gomer 2019). Casgliad amrywiol o saith stori newydd sbon, wedi’u gosod yng Nghymru, lle mae’r cymeriadau’n dod ar draws brenhinoedd a throliau, ceffylau gwyllt a defaid o bob lliw wrth iddyn nhw ddysgu sut mae darganfod hud yn y straeon o’u cwmpas.

Dywedodd cadeirydd panel beirniaid y llyfrau Saesneg, Eleri Twynog: “Mae pob un o’r pedwar llyfr ar y rhestr fer o safon uchel iawn – o’r cloriau, y darlunio a’r dyluniad i gymeriadau cryf a dawn adrodd stori wych. Wrth i ni fynd o’r Fenni i Ogwr ac Eryri rydyn ni’n cael ymdeimlad cryf o le, sy’n un o brif feini prawf y wobr yma. Mae mor bwysig bod plant ar hyd a lled Cymru yn gallu gweld eu hunain yn cael eu hadlewyrchu rhwng dau glawr a bod gan blant y tu hwnt i Gymru ffenest ar ddiwylliant arall.”

Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru, Helgard Krause: “Mae Gwobrau Tir na n-Og yn gyfle i ni ddathlu doniau ein ysgrifenwyr a’n darlunwyr sy’n creu cynnwys o’r radd flaenaf ar gyfer ein plant a’n pobl ifanc. Mae’r gwobrau hefyd yn adlewyrchu’r pynciau hynny sydd o bwys i’r gynulleidfa yma, gan ymwneud â rhai o bynciau llosg y dydd – o anhwylderau bwyta a phroblemau iechyd meddwl i gwestiynau’n ymwneud ag amrywiaeth, ehangu gorwelion a pharchu eraill. Dyma arwydd pellach o’r ffordd mae darllen yn gallu cefnogi ein hiechyd a’n lles, yn ogystal â datblygu sgiliau a bod yn bleser ynddo’i hun.”

Caiff enwau’r enillwyr eu cyhoeddi ym mis Mai 2020 ac mae manylion pellach am deitlau’r rhestr fer i’w cael ar wefan lyfrau gwales.com.

Coronafeirws: Diweddariad y Cyngor Llyfrau 24 Mawrth 2020

Coronafeirws: Diweddariad y Cyngor Llyfrau 24 Mawrth 2020

Yn dilyn cyflwyno mesurau llymach i geisio arafu lledaeniad coronafeirws, mae swyddfeydd y Cyngor Llyfrau yng Nghastell Brychan a’n Canolfan Ddosbarthu yn Aberystwyth bellach ynghau am o leiaf dair wythnos.

Mae nifer o’n staff yn dal i weithio, gan gyflawni eu dyletswyddau o gartref wrth i ni barhau i wneud pob dim o fewn ein gallu i gefnogi’r diwydiant cyhoeddi mewn amgylchiadau eithriadol a sicrhau ein bod yn dod trwy’r cyfnod hwn.

Golyga hyn y bydd y gwasanaethau canlynol ar gael o hyd i’r sector:

• Arweiniad strategol a gweithredol, yn cynnwys edrych ar anghenion y sector llyfrau ehangach gyda Llywodraeth Cymru.

• Cyngor a chynllunio ariannol (mererid.boswell@llyfrau.cymru)

• Prosesu taliadau rheolaidd i’r diwydiant megis grantiau cyhoeddi, cefnogaeth i staff golygyddol, cymorth i awduron a gweithwyr llawrydd eraill (arwel.jones@llyfrau.cymru).

• Gwasanaethau golygu (huw.meirionedwards@llyfrau.cymru)

• Gwasanaethau dylunio (sion.ilar@llyfrau.cymru).

• Hyrwyddo llyfrau a darllen er pleser ar lwyfannau digidol ac eraill (mari.sion@llyfrau.cymru).

Gellid cysylltu gyda staff yn y swyddi uchod naill ai drwy eu cyfeiriadau ebost gwaith neu drwy post@llyfrau.cymru. Dylai siopau llyfrau gysylltu gyda’u swyddog gwerthu arferol.

Y Ganolfan Ddosbarthu

Mae cau’r Ganolfan Ddosbarthu yn ergyd wrth gwrs i’n gweithgaredd ni fel sefydliad a’r sector yng Nghymru a thu hwnt. Ond mae iechyd a lles ein cymunedau gwahanol yn flaenoriaeth ar hyn o bryd, ac mae’n rhaid i ni dynnu ynghyd a gwneud ein cyfraniad at yr ymdrechion i atal lledaeniad y feirws.

Ni fydd y Ganolfan Ddosbarthu yn gallu derbyn na danfon stoc yn ystod y cyfnod hwn ac felly rydyn ni’n gofyn i’n cyhoeddwyr ni i ohirio anfon llyfrau, cylchgronau ac adnoddau eraill hyd nes byddwn yn ail-agor.

Bydd staff rheoli’r Ganolfan ar gael i ateb unrhyw gwestiynau sydd gan gwsmeriaid a’r cyfeiriad ebost gorau ar gyfer ymholiadau yw post@llyfrau.cymru.

Gwobrau Tir na n-Og

Byddwn yn bwrw mlaen gyda’n cynlluniau i gyhoeddi rhestr fer gwobrau llenyddiaeth plant Tir na n-Og 2020 ar ein gwefan ac ar y cyfryngau ddydd Gwener yma 27 Mawrth. Y bwriad yw cyhoeddi enwau’r enillwyr ym mis Mai ond nid ydym wedi pennu dyddiadau newydd eto yn dilyn canslo cynhadledd flynyddol CILIP Cymru ac Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd lle yr oedd y seremonïau i’w cynnal.

Mae’n diwydiant, fel gweddill y wlad, yn wynebu heriau gwirioneddol di-gyffelyb ac mae’n amhosib proffwydo maint a chwmpas yr effaith ar hyn o bryd. Serch hynny, ni fydd pylu ar ein cenhadaeth graidd fel sefydliad na’n cyfraniad at ddiwylliant, addysg a’r iaith Gymraeg. Yn y cyfamser, rhaid canolbwyntio ar warchod ein pobl a chefnogi’n cymunedau.

Cadwch yn saff. Byddwch garedig. Ac arhoswch adre er mwyn arbed bywydau.

HELGARD KRAUSE

Prif Weithredwr

Coronafeirws: Diweddariad y Cyngor Llyfrau 24 Mawrth 2020

Coronafirws: Diweddariad gan Gyngor Llyfrau Cymru

Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn monitro datblygiadau yn ofalus ac yn cyflwyno cyfres o fesurau arbennig mewn ymateb i’r sefyllfa a’r canllawiau diweddaraf.

Y nod yw cymryd camau priodol i sicrhau ein bod yn gallu parhau gyda’n gwaith pwysig o gefnogi’r diwydiant cyhoeddi wrth wneud pob dim sy’n ymarferol bosib i helpu lleihau lledaeniad posib y firws, a thrwy hynny gwarchod ein staff a’n rhanddeiliaid.

• Mae ein Canolfan Ddosbarthu llyfrau ac adnoddau yn Glanyrafon, Aberystwyth, yn dal i weithredu ond mae ynghau i ymwelwyr allanol, ac eithrio’r sawl sy’n dod â deunydd neu’n danfon deunydd hanfodol i ardal ddynodedig o’r warws drwy drefniant ymlaen llaw. Os am wneud trefniant o’r fath, cysylltwch â’r Ganolfan ar 01970 624455 neu canolfan.ddosbarthu@llyfrau.cymru.

• O ddydd Mercher 18 Mawrth 2020, mae mwyafrif y staff yn ein prif swyddfa yng Nghastell Brychan yn gweithio o gartref. Maen nhw’n parhau i gynnig ein gwasanaethau arferol megis golygu llyfrau, dylunio a gweinyddu grantiau, ac fe fyddan nhw’n defnyddio’u manylion cyswllt gwaith arferol (ffôn ac e-bost).

• Mae Castell Brychan ynghau i ymwelwyr yn ystod y cyfnod hwn. Ni fydd staff yn teithio i gyfarfodydd wyneb-yn-wyneb gyda chysylltiadau allanol, gan ddefnyddio systemau fideo neu ffôn ar gyfer cyfarfodydd o’r fath. Y manylion cyswllt ar gyfer ymholiadau cyffredinol yw 01970 624151 neu castellbrychan@llyfrau.cymru.

• Rydym wedi canslo neu ohirio pob un o’n digwyddiadau cyhoeddus tan ddiwedd mis Mai, yn cynnwys lansiadau llyfrau ac ymweliadau ysgol. Byddwn yn ail-asesu’r sefyllfa yng ngoleuni’r amgylchiadau ar y pryd ond yn y cyfamser, rydym yn cynllunio ac yn trafod trefniadau amgen ar gyfer hyrwyddo llyfrau a darllen.

• Rydym mewn cysylltiad cyson gyda chyhoeddwyr, llyfrwerthwyr, dosbarthwyr ac eraill er mwyn sicrhau ein bod yn deall yr heriau sy’n eu hwynebu nhw ac yn gweithio gyda nhw i gynnig cymorth a chefnogaeth ymarferol. Rydym yn annog y diwydiant yng Nghymru i gysylltu gyda ni i drafod unrhyw bryderon busnes sydd ganddyn nhw.

• I bobl sy’n hunan-ynysu ac yn chwilio am ddeunydd darllen, mae gennym gyfres o restrau darllen ar wefan gwales.com. Mae’r rhestrau arbennig yma’n cynnwys cyhoeddiadau sy’n addas at ystod o oedrannau a diddordebau gwahanol, yn ogystal â manylion am ein gwerthwyr gorau, teitlau newydd, llyfrau’r mis, adolygiadau a mwy.

Rydym ni’n gwybod bod hwn yn gyfnod hynod o heriol i bawb ac y gall y sefyllfa sydd ohoni barhau am beth amser eto.

Mae’n cenhadaeth ni yn y Cyngor Llyfrau yn gwbl ddigyfnewid ac fe fyddwn yn gwneud pob dim o fewn ein gallu i gefnogi’r diwydiant cyhoeddi a’n cymuned ni, gydol y dyddiau pryderus ac ansicr hyn.

HELGARD KRAUSE

Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru

Coronafeirws: Diweddariad y Cyngor Llyfrau 24 Mawrth 2020

Cymorth ychwanegol ar gyfer y sector cyhoeddi yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyllid cyfalaf ychwanegol ar gyfer Cyngor Llyfrau Cymru i fuddsoddi mewn systemau technoleg a fydd yn helpu’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru i dyfu.

Mae £750,000 ychwanegol wedi cael ei sicrhau gan gyllideb 2020–21, a bydd yn caniatáu i Gyngor Llyfrau Cymru gyflwyno system TG integredig newydd i reoli’r gwaith o werthu, cyflenwi a dosbarthu llyfrau, a fydd hefyd yn cefnogi gwaith cyhoeddwyr Cymru.

Mae £145,000 o gyllid cyfalaf ychwanegol i Gyngor Llyfrau Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol wedi rhoi hwb arall i’r diwydiant cyhoeddi llyfrau yng Nghymru. Mae’r sector cyhoeddi wedi cael ei nodi fel sector ar gyfer twf yn dilyn lansio Cymru Greadigol ym mis Ionawr. Mae diwydiant cyhoeddi iach yn rhan hanfodol o hunaniaeth ddiwydiannol Cymru, a bydd cymorth gan Gymru Greadigol ar gyfer Cyngor Llyfrau Cymru yn helpu i ategu gwasanaethau hanfodol ar gyfer y diwydiant cyhoeddi yn Gymraeg a Saesneg.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas: “Ar Ddiwrnod y Llyfr pan fyddwn ni’n dathlu storïau a’n cariad at ddarllen, dw i wrth fy modd ein bod yn gallu cefnogi Cyngor Llyfrau Cymru i fuddsoddi yn y rhan hanfodol hon o economi Cymru. Bydd hyn yn rhoi hwb sylweddol i Gyngor Llyfrau Cymru, yn ogystal â’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru yn gyffredinol. Mae cefnogi diwydiant cyhoeddi dwyieithog llwyddiannus yng Nghymru nid yn unig yn cyfrannu at ein strategaeth twf economaidd ehangach ar gyfer y diwydiannau creadigol yng Nghymru, ond mae hefyd yn cefnogi nifer o fentrau microfusnes, sydd yng nghefn gwlad Nghymru yn bennaf ac yn cyfrannu at eu heconomi leol.”

Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am gefnogi ein cynlluniau cyffrous i uwchraddio ein systemau TG, gan sicrhau ein bod yn parhau i gystadlu â’r diwydiant cyhoeddi ledled y DU a’r tu hwnt. Mae ein canolfan ddosbarthu yn darparu gwasanaeth rhagorol ar gyfer cyhoeddwyr a gwerthwyr llyfrau, a bydd yn gallu cynnig gwasanaeth gwell byth yn dilyn yr uwchraddiad hwn i’r system. Drwy fuddsoddi mewn cyfres o welliannau trawsnewidiol, byddwn ni’n helpu busnesau cyhoeddi a gwerthu llyfrau i dyfu, ac o ganlyniad yn helpu economi sylfaenol Cymru a’r diwydiannau creadigol – yn ogystal â hyrwyddo darllen.”