Mae llyfrau sy’n mynd i’r afael â rhai o’r pynciau mawr sy’n poeni plant a phobl ifanc ymhlith y cyfrolau ar restr fer Gwobrau Tir na n-Og 2020 sy’n cael ei chyhoeddi heddiw (dydd Gwener, 27 Mawrth 2020).

Mae’r rhestr fer o lyfrau Cymraeg yn y categori uwchradd yn ymdrin ag iechyd meddwl, anhwylderau bwyta a mewnfudo tra bod y categori cynradd yn cynnwys llyfrau stori am oddefgarwch, materoliaeth mewn cymdeithas a hanes menywod ysbrydoledig o Gymru.

Straeon wedi’u lleoli ar hyd arfordir a mynyddoedd Cymru am ddreigiau, chwedloniaeth, hud a lledrith sy’n cael sylw yn y rhestr fer ar gyfer llyfrau Saesneg.

Dathlu gwaith awduron a darlunwyr a gyhoeddwyd yn ystod 2019 y mae Gwobrau Tir na n-Og 2020, sy’n cael eu trefnu gan Gyngor Llyfrau Cymru a’u noddi gan CILIP Cymru (sef cymdeithas llyfrgellwyr a gweithwyr gwybodaeth Cymru).

Mae tri phrif gategori: llyfrau Cymraeg ar gyfer plant oedran cynradd, llyfrau Cymraeg ar gyfer oedran uwchradd, a llyfrau Saesneg ac iddynt gefndir Cymreig dilys ar gyfer oedran cynradd neu uwchradd.

Rhestr Fer Gymraeg (Cynradd)

• Y Ddinas Uchel – Huw Aaron (Atebol 2019). Mae Petra’n byw mewn dinas o dyrau a phawb yn treulio pob dydd yn eu codi’n uwch ac yn uwch. Llyfr stori-a-llun am fateroliaeth cymdeithas gyda neges gadarnhaol wedi ei chyfleu mewn ffordd dyner, lawn hiwmor.

• Genod Gwych a Merched Medrus – Medi Jones-Jackson (Y Lolfa 2019). Llyfr lliwgar am 14 o fenywod ysbrydoledig o bob rhan o Gymru gan gynnwys Tori James, Laura Ashley, Eileen Beasley, Amy Dillwyn a Haley Gomez. Llyfr llawn hwyl, ffeithiau, posau a gweithgareddau.

• Pobol Drws Nesaf – Manon Steffan Ros a Jac Jones (Y Lolfa 2019). Llyfr stori-a-llun sy’n ein hannog i beidio â beirniadu rhywun sy’n ymddwyn ac yn edrych yn wahanol i ni, ac yn dangos bod rhaid parchu pawb.

Rhestr Fer Gymraeg (Uwchradd)

• Byw yn fy Nghroen – Gol. Sioned Erin Hughes (Y Lolfa 2019). Profiadau dirdynnol deuddeg o bobl ifanc sydd wedi gorfod brwydro gyda salwch a chyflyrau hirdymor, gan gynnwys afiechydon meddyliol a chorfforol fel cancr, nam ar y golwg, OCD, iselder a gorbryder.

• Tom – Cynan Llwyd (Y Lolfa 2019). Nofel i oedolion ifanc am Tom, bachgen 15 oed sy’n byw mewn fflat gyda’i fam ac yn gyfeillgar gyda chymydog 81 oed. Nofel ddirdynnol sy’n ymdrin â bwlio, gwrthdaro, mewnfudwyr, trais a salwch.

• Madi – Dewi Wyn Williams (Atebol 2019). Stori gref am ferch yn ei harddegau sy’n byw gydag anorecsia a bwlimia ac sy’n ceisio cuddio’r cyflwr.

Dywedodd cadeirydd panel beirniaid y llyfrau Cymraeg, Gwawr Maelor Williams o Adran Addysg Prifysgol Bangor: “Roedd darllen 40 o lyfrau gwreiddiol i blant ac oedolion ifanc fel aelodau panel Tir na n-Og 2020 wir yn brofiad gOgoneddus – ie, gydag O fawr arall. Roedd yr arlwy a gyhoeddwyd gan y cyhoeddwyr yn cynnig ffurfiau, lleoliadau, profiadau a chymeriadau amrywiol dros ben – y cyfan yn gwneud y profiad o gloriannu yn her ac yn hwyl, yn bleser a chyfrifoldeb yr un pryd.

“Roedd ’na leisiau i’w clywed gan y cyhoeddwyr eleni. Lleisiau awduron newydd, cyffrous ac unigryw. Llyfrau gan bobl ifanc i bobl ifanc. Canmoler y cyhoeddwyr am hyn. Ynghanol antur a ffantasi mae llais i lesiant plant, llais i ferched Cymru, llais i wydnwch meddwl ac iechyd meddwl a llais i bobl ifanc ag anhwylderau a chyflyrau corfforol. Gyda mwy nag un gyfrol ar gyfer oedolion ifanc roedd troi’r tudalennau yn ddirdynnol.”

Rhestr Fer Saesneg

• The Secret Dragon – Ed Clarke (Puffin 2019). Antur hudolus yn cyfuno gwyddoniaeth, dreigiau a chyfeillgarwch wedi’i lleoli ar arfordir Cymru.

• Max Kowalski Didn’t Mean It – Susie Day (Puffin 2019). Stori gyfoes am deuluoedd, am fod yn fachgen ac am ymdopi â cholled; llyfr llawn cydymdeimlad wedi’i osod yn Eryri.

• Storm Hound – Claire Fayers (Macmillan Children’s Books 2019). Antur ffantasi wedi’i gosod ym mynyddoedd Cymru, yn cyfuno chwedloniaeth Nordig a Chymreig.

• Where Magic Hides – Cat Weatherill (Gomer 2019). Casgliad amrywiol o saith stori newydd sbon, wedi’u gosod yng Nghymru, lle mae’r cymeriadau’n dod ar draws brenhinoedd a throliau, ceffylau gwyllt a defaid o bob lliw wrth iddyn nhw ddysgu sut mae darganfod hud yn y straeon o’u cwmpas.

Dywedodd cadeirydd panel beirniaid y llyfrau Saesneg, Eleri Twynog: “Mae pob un o’r pedwar llyfr ar y rhestr fer o safon uchel iawn – o’r cloriau, y darlunio a’r dyluniad i gymeriadau cryf a dawn adrodd stori wych. Wrth i ni fynd o’r Fenni i Ogwr ac Eryri rydyn ni’n cael ymdeimlad cryf o le, sy’n un o brif feini prawf y wobr yma. Mae mor bwysig bod plant ar hyd a lled Cymru yn gallu gweld eu hunain yn cael eu hadlewyrchu rhwng dau glawr a bod gan blant y tu hwnt i Gymru ffenest ar ddiwylliant arall.”

Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru, Helgard Krause: “Mae Gwobrau Tir na n-Og yn gyfle i ni ddathlu doniau ein ysgrifenwyr a’n darlunwyr sy’n creu cynnwys o’r radd flaenaf ar gyfer ein plant a’n pobl ifanc. Mae’r gwobrau hefyd yn adlewyrchu’r pynciau hynny sydd o bwys i’r gynulleidfa yma, gan ymwneud â rhai o bynciau llosg y dydd – o anhwylderau bwyta a phroblemau iechyd meddwl i gwestiynau’n ymwneud ag amrywiaeth, ehangu gorwelion a pharchu eraill. Dyma arwydd pellach o’r ffordd mae darllen yn gallu cefnogi ein hiechyd a’n lles, yn ogystal â datblygu sgiliau a bod yn bleser ynddo’i hun.”

Caiff enwau’r enillwyr eu cyhoeddi ym mis Mai 2020 ac mae manylion pellach am deitlau’r rhestr fer i’w cael ar wefan lyfrau gwales.com.