Mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi croesawu cyllid brys o £150,000 gan Lywodraeth Cymru i helpu’r sector llyfrau yn ystod yr argyfwng coronafeirws presennol.

Caiff y gronfa ei gweinyddu gan y Cyngor Llyfrau, yr elusen genedlaethol sy’n gyfrifol am gefnogi’r diwydiant llyfrau a hyrwyddo darllen yng Nghymru.

Mae’r arian ychwanegol ar gyfer y sector llyfrau yn rhan o becyn cynhwysfawr o gymorth gwerth £18m ar gyfer y sector diwylliant, celfyddydau a chwaraeon yng Nghymru a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ddydd Mercher 1 Ebrill 2020.

Wrth gyhoeddi’r gronfa, dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas: “Rydym wedi gwrando ar ein rhanddeiliaid yn y sectorau bregus hyn. Rydym yn deall bod hwn yn gyfnod ansicr i fusnesau a sefydliadau ar draws Cymru ac yn llawn cydnabod yr heriau anferthol a digynsail i wead bywyd Cymru a ddaw yn sgil coronafeirws. Mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o wneud pob dim posib i gefnogi’r gwytnwch, y creadigrwydd a’r bartneriaeth sy’n cael eu hamlygu gan y sector.

“Bydd y cam ychwanegol hwn yn galluogi’r sector i wrthsefyll y cyfnod anodd hwn a, gobeithio, i ffynnu o’r newydd – gan ddod â chymunedau ynghyd unwaith eto pan fydd yr argyfwng yma drosodd.”

Bydd y gronfa argyfwng yn cynnwys cymorth ar gyfer siopau llyfrau brics-a-morter annibynnol yng Nghymru i’w helpu i ymateb i bwysau llif arian a lleihau effaith coronafeirws.

Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru, Helgard Krause: “Rydym yn croesawu’n fawr y cyllid brys a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru heddiw i gefnogi’r sector llyfrau yng Nghymru. Mae’r rhain yn ddyddiau gofidus i unrhyw fusnes ac rydym yn arbennig o bryderus am yr effaith ar siopau llyfrau annibynnol sy’n gwneud cyfraniad mor bwysig i’n cymunedau a’n heconomi, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda nhw a’r sector cyhoeddi ehangach i gefnogi ein diwydiant trwy gydol y cyfnod anodd hwn.”

Mae’r gronfa argyfwng yn ychwanegol at y cymorth ar gyfer busnesau a’r hunangyflogedig a gyhoeddwyd eisoes gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

Bydd y Cyngor Llyfrau yn ymgynghori yn awr â’r diwydiant cyhoeddi ehangach i nodi’r meysydd eraill sy’n dioddef fwyaf o ganlyniad i’r pandemig.

“Yn y cyfnod cythryblus hwn mae’n rhaid i iechyd a lles pobl fod yn brif flaenoriaeth ond mae angen i ni hefyd sicrhau, pan ddown ni drwy’r pandemig hwn, bod gennym ni ddiwydiant cyhoeddi ffyniannus yng Nghymru o hyd. Mae’n gwneud cyfraniad sylweddol nid yn unig i’n heconomi a’n diwydiannau creadigol, ond yn ogystal â hynny mae un astudiaeth ar ôl y llall wedi amlygu buddion ehangach darllen o ran ein hiechyd meddwl yn ogystal â datblygu sgiliau allweddol a gwybodaeth,” ychwanegodd Ms Krause.

Gwefan lyfrau gwales.com

Cadarnhaodd Cyngor Llyfrau Cymru hefyd y bydd ei wefan lyfrau gwales.com yn ailagor ar gyfer archebion unigol gan y cyhoedd o ddydd Mercher, 1 Ebrill 2020 ymlaen.

Y nod yw helpu’r diwydiant cyhoeddi yn ogystal â chwrdd â’r galw am lyfrau yn ystod y cyfnod o hunanynysu, ar adeg pan mae llawer o siopau llyfrau wedi gorfod cau eu drysau dros dro.

Gall pobl sy’n prynu o wefan gwales.com enwebu siop lyfrau leol a fydd wedyn yn derbyn ei chomisiwn arferol ar gyfer bob gwerthiant.

Mae mwy nag 11,000 o deitlau Cymraeg neu deitlau am Gymru ar wefan gwales.com, a bydd pa lyfrau sydd ar gael yn dibynnu ar lefelau stoc presennol y Ganolfan Ddosbarthu gan na ellir derbyn stoc o’r newydd ar hyn o bryd ac mae rhai amserlenni cyhoeddi yn cael eu hadolygu.

Mae rhestr o siopau llyfrau annibynnol yng Nghymru sy’n cynnig gwasanaeth postio llyfrau ar-lein ar gael ar wefan y Cyngor Llyfrau.