Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn croesawu’n gynnes gyhoeddiad y Prif Weinidog bod siopau llyfrau ymhlith y busnesau a fydd yn cael ailagor o ddydd Llun 22 Mehefin 2020.

Diogelwch staff a chwsmeriaid sy’n dod yn gyntaf ar bob cyfrif, wrth gwrs, ac rydym wedi bod yn gweithio gyda llyfrwerthwyr wrth iddynt baratoi i ailagor yn ddiogel yn unol â chanllawiau Covid-19. Nid pob siop efallai fydd yn dewis agor ei drysau’n syth ac fe fydd nifer ohonynt yn addasu eu horiau a’u ffyrdd o weithio. Er bod y cyhoeddiad yn un i’w groesawu, cam arall yw hwn ar y ffordd hir tuag at normalrwydd newydd a’n rôl ni fel Cyngor yw cefnogi’r sector drwy gydol yr amser.

Mae hwn yn gyfnod hynod heriol i ni i gyd, a thros y misoedd diwethaf rydym wedi gweld siopau llyfrau ar draws Cymru yn canfod ffyrdd dychmygus, dan amgylchiadau anodd, o barhau i gynnig gwasanaeth personol i’w cwsmeriaid. Mae nifer ohonynt wedi bod yn trefnu gweithgareddau ar-lein arbennig yn ogystal â gwerthu llyfrau drwy’r we neu dros y ffôn, gan ddanfon parseli drwy’r post neu â llaw yn lleol.

Hoffem ddiolch i’r holl lyfrwerthwyr am eu hymroddiad a’u dyfalbarhad, yn enwedig ar adeg pan mae llyfrau a darllen yn bwysicach nag erioed. Rydym yn ddiolchgar hefyd i Gymru Greadigol am hwyluso cyllid argyfwng ychwanegol i’r sector llyfrau gan Lywodraeth Cymru, sydd wedi helpu i gynnal siopau yn ogystal â chyhoeddwyr yn ystod y cyfnod anodd hwn.

A ninnau ar drothwy Wythnos Siopau Annibynnol (20–27 Mehefin), dyma gyfle o’r newydd i ni i gyd ddangos ein cefnogaeth i lyfrwerthwyr a dathlu eu cyfraniad pwysig i’n heconomi a’n cymunedau.

Mae manylion holl siopau llyfrau Cymru i’w cael ar gwales.com.