Llyfrau’n ymdrin â rhai o bynciau mawr y dydd sydd wedi cipio Gwobrau Tir na n-Og 2020 am lenyddiaeth plant a phobl ifanc yn Gymraeg.

Llyfrau’n ymdrin â rhai o bynciau mawr y dydd sydd wedi cipio Gwobrau Tir na n-Og 2020 am lenyddiaeth plant a phobl ifanc yn Gymraeg.

Pobol Drws Nesaf gan Manon Steffan Ros a’r darlunydd Jac Jones a ddaeth i’r brig yn y categori Cymraeg oedran cynradd. Llyfr llun a stori ar gyfer plant 3–7 oed yw hwn, yn ein hannog i barchu pawb ac i beidio â beirniadu rhywun sy’n edrych ac yn ymddwyn yn wahanol i ni.

Enillydd y categori Cymraeg uwchradd yw Byw yn fy Nghroen, a olygwyd gan Sioned Erin Hughes. Casgliad yw’r llyfr o brofiadau dirdynnol deuddeg o bobl ifanc sydd wedi gorfod brwydro gyda salwch a chyflyrau iechyd hirdymor. Mae’r cyfranwyr i gyd yn bobl ifanc rhwng 10 a 26 oed, sy’n trafod afiechydon meddyliol a chorfforol fel cancr, epilepsi, clefyd Crohn’s, spina bifida, nam ar y golwg, OCD, iselder a gorbryder.

Gwawr Maelor Williams o Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol Prifysgol Bangor oedd cadeirydd panel beirniaid llyfrau Cymraeg Tir na n-Og 2020: “Ni chloriennir Gwobr Tir na n-Og am ei harloesedd neu ei hunigrywedd yn unig neu am ei bod yn llenwi bwlch. Mae’r gyfrol Byw yn fy Nghroen yn llenyddiaeth hefyd, er nad dyma’i phrif fwriad. Mae’n rhaid wrth ysgrifennu grymus, rhaid wrth grefft a golygu tringar i ysgrifennu gydag argyhoeddiad a didwylledd, ac i dynnu’r darllenydd i grombil profiadau a gwewyr rhywun arall. Rydym yng nghwmni cyfrol bwysig ym maes llenyddiaeth i’r ifanc yma.”

Roedd Byw yn fy Nghroen (Y Lolfa) ar restr fer uwchradd Gymraeg Gwobrau Tir na n-Og 2020 gyda dau lyfr arall, sef Tom (Y Lolfa) gan Cynan Llwyd a Madi (Atebol) gan Dewi Wyn Williams.

Dywedodd golygydd Byw yn fy Nghroen, Sioned Erin Hughes: “Mi ydw i ar ben fy nigon ac yn falch fod y llyfr wedi cyflawni’r hyn roeddwn i’n gobeithio y byddai’n ei gyflawni, sef cynyddu ymwybyddiaeth, dealltwriaeth ac empathi ynghylch heriau iechyd ymysg pobl ifanc.”

Y ddau lyfr arall oedd ar y rhestr fer gyda Pobol Drws Nesaf (Y Lolfa) yn y categori cynradd Cymraeg eleni oedd Genod Gwych a Merched Medrus gan Medi Jones-Jackson (Y Lolfa) ac Y Ddinas Uchel gan Huw Aaron (Atebol).

Wrth drafod Pobol Drws Nesaf, dywedodd Gwawr Maelor: “Dyma gyfrol sy’n em fach oherwydd yr ieuad rhwng naratif a llun, a symlrwydd y stori yn rhuban mor naturiol o’i dechrau i’w diwedd. Mae crefft dau ar waith yn y llyfr. Mae hi’n stori sy’n hawdd ei dirnad a’i deall fel ag y mae hi ar y darlleniad cyntaf i ddarllenydd ifanc sy’n darllen ar ei ben ei hun bach. Does dim gwthio amlhiliaeth na’r iaith Gymraeg na’r angen i dderbyn pawb fel ag y maen nhw o gwbl yn y stori fach, ia, Gymreig hon. Ond maen nhw yna heb ddeud a dyma gamp partneriaeth awdur profiadol a darlunydd crefftus yn eu gem o lyfr, Pobol Drws Nesaf.”

Dyma’r pumed tro i’r awdur Manon Steffan Ros o Dywyn, Gwynedd, ennill Gwobr Tir na n-Og: “Mae’n gymaint o fraint cael Gwobr Tir na n-Og am lyfr sydd mor agos at fy nghalon â Pobol Drws Nesaf. Mae’r stori’n syml ac yn ysgafn, a dwi’n meddwl fod hynny’n bwysig am fod ganddi, mewn gwirionedd, neges fawr – fod angen i ni ddathlu ein gwahaniaethau, a pharchu pawb. Roedd hi’n bleser mawr cael cydweithio efo Jac unwaith eto, sydd wastad yn rhoi ychydig o hud a lledrith yn ei ddarluniau, ac yn darganfod yr hyn sydd rhwng y geiriau.”

Dywedodd y darlunydd Jac Jones: “Pan mae plentyn yn agor llyfr, unrhyw lyfr, mae’n cychwyn ar siwrnai tuag at ddeall hwyl, tristwch, ofn, gorfoledd a’r fraint o wneud dewisiadau. Mae llyfr rhagorol Manon, Pobol Drws Nesaf, yn cyffwrdd â phob un o’r rhain. Mae lliwiau palet natur yn cymysgu bob amser.”

Caiff Gwobrau Tir na n-Og eu trefnu’n flynyddol gan Gyngor Llyfrau Cymru i wobrwyo’r llyfrau gorau i blant a phobl ifanc yng Nghymru yn Gymraeg a Saesneg. Fe’u noddir gan gymdeithas y llyfrgellwyr, CILIP Cymru.

Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Mae safon yr enillwyr a’r holl lyfrau ar restr fer Gwobrau Tir na n-Og wedi bod yn rhagorol eleni a hoffwn ddiolch i bawb am eu gwaith a’u cyfraniadau gwerthfawr – yn awduron, yn olygyddion, yn ddarlunwyr ac yn gyhoeddwyr. Diolch iddyn nhw, rydym yn gallu sicrhau bod silffoedd ein siopau llyfrau, ein llyfrgelloedd a’n hysgolion yn cynnig dewis cyfoethog i blant a phobl ifanc sy’n eu sbarduno, eu hysbrydoli a’u hannog i ddarllen. Llongyfarchiadau gwresog i bawb.”

Dywedodd Amy Staniforth o CILIP Cymru: “Bydd llyfrgellwyr ar hyd a lled Cymru wrth eu bodd yn rhannu Pobol Drws Nesaf, Byw yn fy Nghroen a’r holl lyfrau gwych eraill ar restr fer Tir na n-Og 2020. Mae’n bwysig bod llyfrgelloedd yn cynnig deunydd Cymraeg sy’n adlewyrchu ac yn herio’r Gymru sydd ohoni, ac mae Gwobrau Tir na n-Og yn gyfle gwych i gofio ac i ddathlu hynny. Llongyfarchiadau i Manon Steffan Ros, Jac Jones a Sioned Erin Hughes. Daliwch ati os gwelwch yn dda!”

Cafodd enwau enillwyr Cymraeg Gwobrau Tir na n-Og 2020 eu cyhoeddi’n fyw ar raglen Heno ar S4C nos Wener, 10 Gorffennaf, gyda’r ddau deitl buddugol yn derbyn siec o £1,000 a cherdd gyfarch wedi’i chyfansoddi gan Fardd Plant Cymru, Gruffudd Owen, a’i dylunio gan yr artist Ruth Jên.

Cyhoeddwyd enillydd categori Saesneg Gwobrau Tir na n-Og 2020 ar y Radio Wales Arts Show nos Wener, 3 Gorffennaf, sef Claire Fayers o Gaerdydd am ei stori antur ffantasïol Storm Hound.