Cyngor Llyfrau Cymru yn rhan o ymgyrch Llywodraeth Cymru ‘i fynd â Chymru i’r Byd’

Fel rhan o Gronfa Cefnogi Partneriaid Cwpan y Byd Llywodraeth Cymru, mae Cyngor Llyfrau Cymru ymhlith y 19 sefydliad sy’n cefnogi tîm Cymru wrth iddynt fynd i Qatar ym mis Tachwedd.

Cyhoeddodd y Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, enwau’r prosiectau a fydd yn hybu a dathlu Cymru yn y twrnament. Bydd cyfanswm o £1.8 miliwn yn cael ei rannu ymhlith 19 prosiect, gan helpu i rannu gwerthoedd a gwaith ein cenedl i sicrhau gwaddol cadarnhaol a pharhaol i Gymru a phêl-droed yng Nghymru.

Mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi cael arian i ddarparu llyfrau ar thema pêl-droed am ddim i lyfrgelloedd a banciau bwyd ledled Cymru, er mwyn dod â hud pêl-droed i ddarllenwyr a dathlu campau tîm Cymru.

Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr y Cyngor Llyfrau: “Rydyn ni wrth ein bodd i gael bod yn rhan o’r rhaglen gyffrous yma ac i ddefnyddio angerdd y dathliad o lwyddiant Cymru yng Nghwpan y Byd i sbarduno cariad at ddarllen a helpu pobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau llythrennedd.

Mae gan ddarllen a gweithgarwch corfforol rôl bwysig i’w chwarae yn ein hiechyd a’n lles ac mae Straeon Campus yn dod â’r ddwy elfen at ei gilydd. Boed yn helpu cefnogwyr pêl-droed i ddarganfod llyfrau y byddan nhw’n eu caru, neu’n darparu rhywfaint o ysbrydoliaeth i annog cyfranogiad mewn pêl-droed, gemau a chwaraeon, bydd plant a phobl ifanc yn gallu dewis o ddetholiad eang o lyfrau ar thema pêl-droed i’w mwynhau yn ystod Cwpan y Byd ac i ddathlu lle Cymru yn y twrnament.”

Bydd prosiect Straeon Campus y Cyngor Llyfrau yn darparu detholiad o lyfrau diweddar ar thema pêl-droed, yn y Gymraeg a’r Saesneg, i lyfrgelloedd awdurdodau lleol ac i fanciau bwyd ledled Cymru. Bydd y llyfrau ar gael o ddechrau mis Tachwedd a bydd ystod eang o deitlau ar gyfer pob gallu darllen, o’r Cyfnod Sylfaen i oedolion. Bydd rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y Cyngor Llyfrau.

Yn ei ddatganiad dywedodd Vaughan Gething: “Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu ystod uchelgeisiol a chyffrous o weithgareddau i wneud yn fawr o’r cyfle unigryw a gynigir gan dîm pêl-droed dynion Cymru’n cymeryd rhan yng Nghwpan y Byd FIFA.

Dyma’r cyfle mwyaf arwyddocaol o ran marchnata a diplomyddiaeth chwaraeon a gyflwynwyd erioed i Lywodraeth Cymru o ystyried proffil y digwyddiad.

Rydym yn benderfynol o elwa ar y llwyddiant hanesyddol hwn a sicrhau buddion gwirioneddol i bobl yma yng Nghymru.”