Straeon o Gymru ac Affrica:
Llwyddiant wrth gyhoeddi llyfr o straeon teuluol

Eleni, bydd teuluoedd a phlant sy’n aelodau o Gymdeithas Affrica Gogledd Cymru yn gweld eu stori hwy eu hunain mewn print wrth i’r Lolfa baratoi i gyhoeddi Y Bysgodes – stori a grëwyd mewn gweithdai gyda’r awdur Casia Wiliam a’r darlunydd Jac Jones.

Cydlynwyd y prosiect gan y rhaglen BLAS yn Pontio, Canolfan Gelfyddydau Bangor – sefydliad a chanddo berthynas hirhoedlog gyda Chymdeithas Affrica Gogledd Cymru. Roedd hwn yn un o nifer o weithgareddau a dderbyniodd gyllid gan Grant Cynulleidfaoedd Newydd Cyngor Llyfrau Cymru yng ngwanwyn 2022.

Crëwyd Y Bysgodes mewn cyfres o weithdai gydag artistiaid o Gymru ac Affrica, lle trafodwyd syniadau a straeon traddodiadol o Affrica a Chymru, a gwahanol ffyrdd o adrodd straeon. Yna bu Casia Wiliam, sy’n awdur llyfrau plant, yn gweithio gyda’r teuluoedd i greu stori newydd sbon, gan gael ei hysbrydoli gan y gweithdai er mwyn plethu traddodiadau a syniadau o Affrica a Chymru i mewn i’r naratif. Pan oedd y stori’n gyflawn, bu’r darlunydd Jac Jones yn gweithio gyda’r plant a’u teuluoedd i drafod y cymeriadau a sut y byddent yn edrych yn y stori orffenedig.

Bydd y Lolfa, gyda chymorth grant cyhoeddi o Gyngor Llyfrau Cymru, yn cyhoeddi’r llyfr yn Gymraeg ac yn Saesneg, a bydd copïau ar werth yn y gwanwyn.

Dywedodd Dr Salamatu J Fada, Cyfarwyddwr Cymdeithas Affrica Gogledd Cymru: “Mae hwn yn un prosiect a lwyddodd i dynnu diwylliant Cymru a rhannau o ddiwylliannau Affricanaidd Ghana a Nigeria, yn benodol, at ei gilydd. Roedd y teuluoedd i gyd wedi mwynhau datblygu’r syniadau dan arweiniad yr hwyluswyr amrywiol oedd yn rhan o’r prosiect. Rydym wrth ein bodd gyda’r broses ac yn edrych ymlaen yn eiddgar at weld y llyfr yn cael ei gyhoeddi. Diolch yn fawr.”

Yn ogystal, arweiniodd y prosiect at greu cyfleoedd i alluogi Tiwtoriaid dan Hyfforddiant i gymryd rhan a datblygu eu sgiliau hwyluso hwy eu hunain, y gallent eu defnyddio ar gyfer prosiectau cymunedol a chydweithredol yn y dyfodol. Roedd Olaitan Olawande a Marie-Pascale yn Diwtoriaid dan Hyfforddiant fel rhan o’r cynllun, gan weithio gyda’r teuluoedd i ddatblygu eu stori.

Dywedodd Olaitan: “Roedd yn brofiad anhygoel i weld sut roedd teuluoedd yn gweithio gyda’i gilydd i greu stori. Roedd y mewnbwn gan wahanol genedlaethau’n golygu bod modd creu rhai syniadau a chysyniadau newydd. Rwy’n credu bod gweithio gyda theuluoedd a’r broses hon o adrodd straeon yn arwain at sgyrsiau agored rhwng teuluoedd; gall ddarparu gofod i blant a rhieni rannu straeon newydd a rhai sy’n bodoli eisoes, gan eu cymhwyso ar yr un pryd ar gyfer heriau go iawn. Does dim terfyn ar y dychymyg, a gellir dangos pwysigrwydd y teulu yn y broses o lunio stori. Mae’r llyfr cyhoeddedig yn un a fydd yn ennill ei le mewn hanes; yn ôl yr hen ddywediad, ‘mae’n cymryd pentref’ i greu rhywbeth gwirioneddol ryfeddol.”

Dywedodd Marie-Pascale: “Rwyf wedi mwynhau bod yn rhan o’r BRIODAS HON O DDIWYLLIANNAU sydd wedi dod â sawl gwên ac wedi arwain at gyfranogiad gwybyddol ein plant: fel OEDOLION yfory, byddant yn deall PRYDFERTHWCH AMRYWIAETH ac yn ei gynnal.”

Dywedodd yr awdur Casia Wiliam: “Gyda’i gilydd mae’r teuluoedd yma wedi creu chwedl newydd sbon sy’n llawn hen hud a lledrith. Mae hi’n plethu Cymru a Ghana, yn plethu syniadau a thraddodiadau storiol Cymreig ac Affricanaidd. Mae hi’n stori arbennig, ac mae’n rhaid i mi ddweud, dyma un o’r prosiectau mwyaf difyr a chyffrous i mi fod yn rhan ohono fel awdur. Dwi methu aros i glywed ymateb teuluoedd i’r llyfr pan y daw allan yn y gwanwyn yn Gymraeg ac yn Saesneg.”

Dywedodd Arwel Jones, Pennaeth Datblygu Cyhoeddi Cyngor Llyfrau Cymru: “Bu’n brofiad gwych i weld y prosiect hwn yn datblygu fel un o’r mentrau a gafodd fudd o’r Grant Cynulleidfaoedd Newydd. Dechreuodd y cyfan fel grŵp o deuluoedd a phlant yn archwilio syniadau a’u dychymyg i ddathlu diwylliannau Cymru ac Affrica a’u tynnu at ei gilydd drwy gyfrwng straeon. Erbyn y gwanwyn fe fydd llyfr gorffenedig ar gael, wedi’i gyhoeddi gan y Lolfa ac ar werth mewn siopau llyfrau, fel bod modd i deuluoedd ledled Cymru ei fwynhau.”

Mae Grant Cynulleidfaoedd Newydd Cyngor Llyfrau Cymru wedi dyfarnu cyllid i 43 o brosiectau gwahanol, gyda’r bwriad o greu cyfleoedd newydd a datblygu cynulleidfaoedd newydd o fewn y sector cyhoeddi yng Nghymru, diolch i gymorth gan Gymru Greadigol.

Pwrpas y grant yw cryfhau ac ehangu amrywiaeth y rhannau hynny o’r diwydiant cyhoeddi y mae’r Cyngor Llyfrau yn eu cefnogi ar hyn o bryd, ac mae’r grantiau’n rhoi blaenoriaeth benodol i fentrau cyhoeddi, awduron a chynulleidfaoedd newydd.