Cyfleoedd cyhoeddi newydd ledled Cymru wrth i Gyngor Llyfrau Cymru gyhoeddi enwau derbynwyr Grant Cynulleidfaoedd Newydd

Heddiw, mae Cyngor Llyfrau Cymru, ynghyd â Cymru Greadigol, wedi cyhoeddi enwau’r rhai fydd yn derbyn £186,000 o arian grant i greu cyfleoedd newydd a datblygu cynulleidfaoedd newydd yn y sector cyhoeddi yng Nghymru.

Bydd y Grant Cynulleidfaoedd Newydd yn ariannu 13 o brosiectau yn y lle cyntaf, gyda phrosiectau’n amrywio o sefydlu cwmnïau cyhoeddi newydd sy’n eiddo i olygyddion ac awduron o gefndiroedd Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ac sy’n cael eu rhedeg ganddynt, i lwyfannau digidol ar gyfer cyrraedd cynulleidfaoedd newydd, mentora awduron o gefndiroedd heb gynrychiolaeth ddigonol, a phrosiectau cymunedol ar gyfer casglu ac adrodd straeon.

Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Roeddem wrth ein bodd fod Cymru Greadigol wedi ymateb mor gadarnhaol i’n cynnig i greu cyfleoedd newydd o fewn y sector cyhoeddi yng Nghymru. Diben y grant yw cryfhau a chynyddu amrywiaeth y rhannau o’r diwydiant cyhoeddi rydym ni yn y Cyngor Llyfrau yn eu cefnogi ar hyn o bryd, ac mae’r grantiau’n rhoi blaenoriaeth benodol i fentrau cyhoeddi, awduron a chynulleidfaoedd newydd.

“Roedd y panel annibynnol yn chwilio am brosiectau a fyddai’n ysgogi newid ble bynnag y maent yn y sector, ac roedd yn wych gweld cynifer o syniadau newydd a deinamig ymhlith y ceisiadau – boed hynny ar gyfer busnesau cyhoeddi newydd, lansio teitlau newydd, cynyddu amrywiaeth rhwydweithiau proffesiynol, neu weithio gyda chymunedau lleol i sicrhau bod lleisiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn cael eu clywed.

“Rydym yn falch o fod wedi gallu dyfarnu £186,000 o’r cyllid ar unwaith, ac mae rhai prosiectau wedi eu clustnodi ar gyfer datblygu a chydweithredu pellach yn ddiweddarach yn y flwyddyn.”

Dywedodd Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon: “Rwy’n falch iawn bod Cymru Greadigol wedi gallu darparu’r cyllid hwn a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol o ran cynyddu amrywiaeth yn y sector cyhoeddi yng Nghymru – a rhoi cyfle i grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol adrodd eu hanes. Mae’r Cyngor Llyfrau wedi creu rhaglen grantiau a fydd yn cefnogi ystod gyffrous ac eang o brosiectau ac rwy’n edrych ymlaen at eu gweld yn datblygu dros y misoedd nesaf.”

Roedd grantiau ar gael mewn 3 chategori: Band A – hyd at £2,500, Band B – £2,501 i £15,000 a Band C – £15,001 i £40,000, a dyfarnwyd cyllid i brosiectau yn y tri band. Mae’r ymgeiswyr llwyddiannus yn cynnwys:

Lucent Dreaming – cwmni cyhoeddi newydd (Band C)

Lucent Dreaming fydd y cwmni cyhoeddi llyfrau a chylchgronau cyntaf i gael ei ariannu yng Nghymru ac i fod o dan arweiniad ac yn cyflogi dau olygydd o liw amser llawn. Wedi’i sefydlu yn 2017, dechreuodd Lucent Dreaming fel cylchgrawn ysgrifennu creadigol, yn cael ei gyhoeddi ddwywaith y flwyddyn a’i redeg gan wirfoddolwyr, ar gyfer awduron newydd ac egin-awduron. Fodd bynnag, gyda’r cyllid newydd bydd yn datblygu i gynnwys cyhoeddi llyfrau, a’i nod yw cynnig llwyfan i awduron newydd ac egin-awduron, a meithrin golygyddion newydd a gweithwyr cyhoeddi proffesiynol o gefndiroedd a dan-gynrychiolir yng Nghymru. Mae Lucent Dreaming yn barod i dderbyn nofelau newydd i’w hystyried.

Dywedodd Jannat Ahmed, Prif Olygydd a chyd-sylfaenydd Lucent Dreaming: “Ar ôl sawl blwyddyn o gyhoeddi cylchgronau dan arweiniad gwirfoddolwyr, bydd y gronfa hon yn drawsnewidiol i mi, ac i’r diwydiant llyfrau yng Nghymru. Edrychwn ymlaen at gyhoeddi llyfrau gan awduron ac artistiaid sy’n dod i’r amlwg yn y DU, a mynd â Chymru a Lucent Dreaming at gynulleidfaoedd rhyngwladol.”

Just Another Poet – cyflwyno barddoniaeth i gynulleidfaoedd newydd, iau a mwy amrywiol yng Nghymru drwy gyfrwng llwyfannau digidol a symudol (Band B)

Sianel YouTube a sefydlwyd gan y bardd Taz Rahman o Gaerdydd ym mis Mai 2019 yw Just Another Poet. Mae’r sianel yn cynnwys cyfweliadau gyda beirdd a ffilmiau o ddigwyddiadau barddoniaeth, ac mae darpariaeth o raglenni dogfen llenyddol hygyrch ar y gweill a fydd yn cynnig golwg fanwl ar farddoniaeth a llenyddiaeth yng Nghymru. Byddai Taz yn ehangu cwmpas rhaglennu ac yn cyflwyno elfennau ychwanegol sy’n canolbwyntio ar dalent lenyddol sy’n dod i’r amlwg yng Nghymru, yn ogystal â thynnu sylw at bwysigrwydd siopau llyfrau a llyfrgelloedd i’r diwylliant llenyddol. Gyda’r cyllid grant, bydd Taz yn targedu cynulleidfa newydd ac amrywiol sy’n defnyddio dyfeisiau digidol symudol, yn gwneud defnydd o sianeli cyfryngau cymdeithasol i ehangu cwmpas diddordeb mewn barddoniaeth a llenyddiaeth yng Nghymru, yn ogystal â chynyddu amlygrwydd awduron o Gymru.

Graffeg – cylchgrawn digidol newydd i hwyluso ac annog mynediad i’r byd cyhoeddi ar gyfer pobl anabl (Band B)

Cwmni cyhoeddi yn Llanelli yw Graffeg, sy’n cyhoeddi llyfrau darluniadol ffeithiol a ffuglen ddarluniadol i blant. Amcan eu cynnig – cylchgrawn digidol sy’n hwyluso mynediad i yrfaoedd yn y byd cyhoeddi – yw mynd i’r afael â’r ffaith nad yw pobl anabl yn cael eu cynrychioli’n ddigonol mewn llenyddiaeth, a’r rhwystrau sy’n bodoli iddynt weithio fel awduron neu gyhoeddwyr.

Pontio, BLAS a Chymdeithas Affrica Gogledd Cymru – prosiect Clwb Darllen (Band A)

Nod y prosiect ar y cyd hwn rhwng Canolfan Celfyddydau Pontio ym Mangor, BLAS, prosiect Cyfranogi Celfyddydol y sefydliad, a Chymdeithas Affrica Gogledd Cymru, yw annog darllen er pleser a chael teuluoedd i ddarllen gyda’i gilydd. Yn ystod cyfres o weithdai, bydd teuluoedd o Gymdeithas Affrica Gogledd Cymru yn creu llyfr plant, a byddant wedyn yn derbyn copi ohono fel anrheg i’w gadw a’i fwynhau gartref gyda’i gilydd. Bydd yr awdur Casia Wiliam a’r artist Jac Jones yn gweithio gyda’r teuluoedd, ynghyd â sesiynau gyda storïwyr a cherddorion Cymreig ac Affricanaidd, i bori drwy straeon traddodiadol, ar lafar ac ar gân.

Dyrannwyd yr arian grant ar gyfer y prosiectau newydd ym mis Ebrill 2022. Mae’r rhestr lawn o brosiectau i’w gweld ar Grantiau | Cyngor Llyfrau Cymru.