Bydd darllenwyr brwd Cymru yn ymuno â’i gilydd i ddathlu Diwrnod y Llyfr, sy’n cael ei gynnal eleni ar 5 Mawrth 2020.

Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn gwahodd ysgolion, siopau llyfrau, colegau, llyfrgelloedd, busnesau a theuluoedd i ymuno â’r dathliad blynyddol mwyaf o lyfrau a darllen yng ngwledydd Prydain ac Iwerddon, drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau a digwyddiadau ledled Cymru, yn ogystal â rhannu’r mwynhad o ddarllen.

I nodi Diwrnod y Llyfr 2020, mae’r Cyngor wedi cyhoeddi y bydd dau lyfr arbennig i blant ar gael i’w prynu am £1 yn unig, neu gall plant gyfnewid eu tocyn £1 Diwrnod y Llyfr am un o’r cyfrolau. Bydd fersiynau hygyrch o’r llyfrau hefyd ar gael, gan gynnwys fersiynau braille, print bras a sain, diolch i gefnogaeth yr RNIB.

Mae Darllen gyda Cyw gan Anni Llŷn, a gyhoeddwyd gan y Lolfa, yn dilyn hanesion y cymeriad poblogaidd Cyw a’i ffrindiau, ac mae’r llyfr wedi’i anelu at ddarllenwyr iau a theuluoedd sy’n dysgu Cymraeg gyda’u plant.

Mae Stori Cymru – Iaith a Gwaith, a ysgrifennwyd gan yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd ac a gyhoeddwyd gan Wasg Carreg Gwalch, yn adrodd hanes Cymru a gwaith ei phobl drwy gyfrwng stori, llun a chân.

Mae adrodd a rhannu straeon hefyd yn thema bwysig ar gyfer Diwrnod y Llyfr eleni gydag ymgyrch ledled Prydain i lansio ‘chwyldro darllen’ drwy rannu miliwn o straeon. Gall unrhyw un gymryd rhan yn yr ymgyrch: teuluoedd, ysgolion, siopau llyfrau a llyfrgelloedd, meithrinfeydd, ac ati. Ar ôl cofrestru ar worldbookday.com/share-a-million-stories, mae modd dod o hyd i bopeth sydd ei angen, gan gynnwys canllawiau, cwestiynau cyffredin ac awgrymiadau er mwyn rhannu stori.

Fel rhan o’r dathliadau, mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi lansio gêm gardiau Top Trumps arbennig i blant sy’n cynnwys cymeriadau o lyfrau Cymraeg hen a newydd. Bydd y cardiau’n siŵr o ddod â gwên i wynebau rhieni hefyd wrth weld rhai o hoff gymeriadau eu plentyndod yn y gêm megis Sam Tân a Siôn Blewyn Coch.

Bydd y Cyngor hefyd yn nodi Diwrnod y Llyfr trwy gynnal dau ddigwyddiad arbennig i blant yn Theatr Felinfach ar 4 Mawrth, a Theatr Glan-yr-Afon yng Nghasnewydd ar 5 Mawrth.

Bydd plant ysgolion yr ardal yn cael gwahoddiad i ddod i Theatr Felinfach i rannu straeon gyda rhai o awduron a darlunwyr Cymru, gan gynnwys Myrddin ap Dafydd, Casia Wiliam, Aneirin Karadog, Huw Aaron ac Elidir Jones.

Ar Ddiwrnod y Llyfr ei hunan, bydd plant yn mynd i Theatr Glan-yr-Afon i rannu straeon gyda’r cyflwynydd a’r awdur plant Lucy Owen, y storïwraig a’r awdur Atinuke, Mark Llewelyn Evans, awdur ABC of Opera, a’r darlunydd a’r awdur o’r Rhondda Siôn Tomos Owen.

Ac mewn digwyddiad arbennig yn Llandudno ddydd Iau 5 Mawrth 2020, bydd panel o chwech arbenigwr yn trafod manteision ‘bibliotherapi’ lle caiff llyfrau hunangymorth eu defnyddio i gefnogi iechyd meddwl a lles.

www.cllc.org.uk/newyddion-news/news-detail?id=13336

Yng Nghymru, mae ymgyrch Diwrnod y Llyfr yn cael ei gydlynu gan y Cyngor Llyfrau a’i gefnogi gan Lywodraeth Cymru a Waterstones. Bob blwyddyn, drwy gydweithio â llu o gyhoeddwyr a llyfrwerthwyr, mae Diwrnod y Llyfr yn trefnu rhestr o deitlau penodol am £1 yr un ar gyfer plant a phobl ifanc, a chenhadaeth Diwrnod y Llyfr yw eu hannog i fwynhau llyfrau a darllen drwy roi cyfle iddyn nhw gael eu llyfr eu hunain.

Yn ogystal â chael eu dosbarthu drwy’r drefn arferol yn ysgolion a meithrinfeydd, rhwng dydd Mercher 5 Chwefror a dydd Mawrth 17 Mawrth bydd tocyn £1 Diwrnod y Llyfr yn ymddangos ar bob blwch Happy Meal™ gan gwmni McDonald’s ym Mhrydain ac Iwerddon. Gall plant a theuluoedd ei gyfnewid am un o blith nifer o deitlau Diwrnod y Llyfr yn rhad ac am ddim, gan gynnwys y teitlau Cymraeg, neu gael gostyngiad o £1 oddi ar bris llyfr neu lyfr sain sy’n costio £2.99 neu fwy, yn eu siop lyfrau neu archfarchnad leol sy’n cymryd rhan yn y cynllun rhwng 27 Chwefror a 29 Mawrth.