Llyfrau llawn hwyl a sbri, ynghyd â negeseuon cryf, yn cipio Gwobrau Cymraeg Tir na n-Og 2023

Cyhoeddwyd enillwyr categorïau Cymraeg Gwobrau Tir na n-Og mewn seremoni arbennig yn Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin heddiw, dydd Iau 1 Mehefin 2023. Mae’r llyfrau buddugol – Dwi Eisiau bod yn Ddeinosor gan Luned Aaron a Huw Aaron a Manawydan Jones: Y Pair Dadeni gan Alun Davies – yn dathlu pa mor unigryw yw bob plentyn, a’r pwysigrwydd o dderbyn yr hyn sy’n eich gwneud chi’n rhyfeddol. Ar ben hyn i gyd, mae’r ddau lyfr yn arddangos pa mor bwerus yw stori a chymeriadau da i sbarduno’r dychymyg.

Mae Gwobrau blynyddol Tir na n-Og, a sefydlwyd yn 1976, yn dathlu’r llyfrau gorau i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Trefnir hwy gan Gyngor Llyfrau Cymru gyda nawdd gan CILIP Cymru Wales, Sefydliad Siartredig Llyfrgellwyr a Gweithwyr Gwybodaeth Cymru.

Mae’r enillwyr yn derbyn gwobr ariannol o £1,000 trwy nawdd gan CILIP Cymru Wales, yn ogystal â thlws a gomisiynwyd yn arbennig ac a grëwyd gan ddylunwyr o Dawn’s Welsh Gifts, sydd wedi’u lleoli yn Aberystwyth a Thregaron.

Enillydd y categori oedran cynradd:

Dwi Eisiau bod yn Ddeinosor gan Luned Aaron a Huw Aaron (cyhoeddwyd gan Atebol) Dyma lyfr stori-a-llun sy’n llawn direidi a dychymyg. Mae’r prif gymeriad eisiau bod yn ddeinosor, neu’n “robot, roced, crocodeil neu ddraig” – i enwi dim ond rhai pethau ar ei restr! Yn hytrach na gweld y gwahaniaethau rhyngddo ef a’r creaduriaid eraill yn y llyfr, mae’n dod i sylweddoli ei fod yn unigryw yn ei ffordd ei hun – a does neb yn debyg iddo. A dyma, wrth gwrs, beth sy’n ei wneud yn arbennig. Mae hwn yn llyfr modern, doniol a lliwgar iawn sy’n trafod neges bwysig – rwyt ti’n ddigon da fel ag yr wyt ti.

Dywedodd Morgan Dafydd, Cadeirydd y Panel Beirniaid: “Ar ôl blynyddoedd tywyll y pandemig, roedd mwynhau llyfr hefo tipyn o hiwmor yn donig ac yn chwa o awyr iach. Mae’r odl yn llifo mor naturiol, a’r stori yn un mor chwareus. Byddai hwn yn llyfr addas i blentyn ei ddarllen yn annibynnol ond hefyd i’w rannu â rhiant. Gallai’r panel ddychmygu sawl oedolyn yn gwenu wrth gyd-ddarllen.

“Er mai gweddol fyr yw’r llyfr, mae’r gwaith arlunio yn lliwgar, yn glir, yn fodern ac yn drawiadol. Roedd y beirniaid yn hoff o’r neges, sef ‘bod yn gyfforddus yn dy groen dy hun’ gan fod y neges yn glir, heb fod yn bregethwrol, nac yn teimlo fel petai’n cael ei orfodi. Roedd pawb yn gytûn ei bod yn bwysig cael llyfrau ysgafn, llawn hiwmor er mwyn denu (a chadw) darllenwyr.”

Dywedodd Luned Aaron: “Mae’n golygu cymaint i ni ein dau ein bod wedi ennill Gwobr Tir na n-Og gyda’n llyfr stori-a-llun Dwi Eisiau Bod yn Ddeinosor, ac mi rydan ni’n ei chyfri hi’n wir fraint. Braf iawn hefyd ydi cael dod yn fuddugol ar y cyd! Diolch yn fawr i Rachel Lloyd o gwmni Atebol am ein cynorthwyo fel golygydd creadigol y gyfrol. Mae’r holl hyrwyddo sydd wedi bod ynghlwm â’r gystadleuaeth eleni wedi bod yn hyfryd dros ben, gyda gweithgareddau amrywiol fel y Cynllun Cysgodi, Helfa Drysor a chystadleuaeth arddangos y siopau llyfrau wedi ychwanegu at y bwrlwm.”

Ar ran Atebol, dywedodd Rachel Lloyd: “Mae Gwobr Tir na n-Og yn rhoi cyfle arbennig i dynnu sylw at lyfrau plant a phobl ifanc ac i ddathlu’r cyfoeth o gyhoeddiadau newydd a chyffrous sydd gyda ni yma yng Nghymru. Ry’n ni wrth ein bodd bod y gyfrol wedi plesio’r panel o feirniaid ac wedi llwyddo i ddod i’r brig eleni. Mae ennill y categori Cynradd yn anrhydedd fawr.”

Enillydd y categori oedran uwchradd:

Manawydan Jones: Y Pair Dadeni gan Alun Davies (cyhoeddwyd gan Y Lolfa) Gan gychwyn gyda darganfod corff marw, mae darllenwyr yn sylweddoli’n fuan iawn bod y llyfr hwn yn un llawn dirgelwch. Yna, rydym yn cwrdd â bachgen ifanc o’r enw Manawydan Jones sy’n wahanol i’r plant eraill mae’n eu hadnabod yn yr ysgol – ond dydy hynny ddim yn beth drwg. Dyna beth sy’n ei wneud e’n arbennig – yn ogystal â’r ffaith ei fod yn perthyn i Manawydan fab Llŷr o’r Mabinogi. A’r sylweddoliad hwn yw dechrau’r antur gyffrous.

Ond nid llyfr antur ffantasïol yn unig yw Manawydan Jones – mae hi hefyd yn stori deimladwy am deulu, cyfeillgarwch, hunaniaeth a pherthyn. Mae’n cyflwyno cymeriadau dewr, cryf a chofiadwy sy’n pwysleisio’r neges bwysig o ‘ddilyn eich llwybr eich hun’. Dyma nofel gyffrous sy’n croesi’r ffin rhwng y byd go iawn a’r byd hudol: dehongliad modern a ffres o hen chwedlau’r Mabinogi sy’n eu cyflwyno i genhedlaeth newydd o ddarllenwyr.

Dywedodd Morgan Dafydd, Cadeirydd y Panel Beirniaid: “Mae’r awdur, yn ei ymgais gyntaf ar ysgrifennu ar gyfer yr arddegau, yn rhoi rhyw dwist modern ar hen chwedlau’r Mabinogi. Pendilia’r stori rhwng y prif naratif, sef siwrne bachgen ifanc ar antur hudol, ac ymgais yr Heddlu sy’n ceisio datrys dirgelwch am lofrudd amheus. Roedd y darnau yma’n ychwanegu at y stori ac yn cysylltu’r byd go iawn gyda byd hudol ynys Fosgad. Byddai’r nofel yma’n apelio at unrhyw un sy’n hoff o antur, hanes a ffantasi.”

Dywedodd Alun Davies: “Dwi wrth fy modd ac yn falch iawn o ennill Gwobr Tir na n-Og eleni. Roedd y rhestr fer yn un gystadleuol iawn, a hoffwn estyn llongyfarchiadau gwresog i Manon Steffan Ros ac i Wyn a Efa Blosse Mason am greu cyfrolau mor wych. Y llyfr yma yw cychwyn antur Manawydan Jones, a dwi’n falch bod cymaint wedi ei fwynhau; gobeithio bod y darllenwyr yn edrych ’mlaen at weld mwy o’r cymeriad yn fuan.”

Dywedodd Lefi Gruffudd, Pennaeth Cyhoeddi Y Lolfa: “Rydyn ni’n hynod gyffrous fod Alun Davies wedi dod i’r brig eleni. Mae’n un o’n hawduron mwyaf talentog sydd wedi gweithio’n galed dros y blynyddoedd diwethaf. Roedd ei drioleg o nofelau i oedolion am y ditectif Taliesin MacLeavy yn gampweithiau, ac mae’r nofel Manawydan Jones: Y Pair Dadeni hefyd yn hynod ddarllenadwy a chrefftus wrth gyflwyno chwedlau Cymreig i’r arddegau.”

Mae rhestr fer Tir na n-Og 2023 yn cyflwyno darllenwyr ifanc i gast o gymeriadau cryf, chwedlonol a chreadigol, a’r cymeriadau hynny’n serennu mewn straeon rhyfeddol a dychmygus. Dyma’r teitlau eraill oedd ar restr fer y categorïau Cymraeg:

Categori oedran cynradd

  • Enwogion o Fri: Nye – Bywyd Angerddol Aneurin Bevan gan Manon Steffan Ros, darluniwyd gan Valériane Leblond (Llyfrau Broga)
  • Dros y Môr a’r Mynyddoedd gan awduron amrywiol, darluniwyd gan Elin Manon (Gwasg Carreg Gwalch)

Categori oedran uwchradd

  • Gwlad yr Asyn gan Wyn Mason, darluniwyd gan Efa Blosse Mason (Gwasg Carreg Gwalch)
  • Powell gan Manon Steffan Ros (Y Lolfa)

Dywedodd Amy Staniforth ar ran CILIP Cymru Wales: “Llongyfarchiadau fil i’r enillwyr ar eu camp aruthrol. Rydym yn falch o noddi Gwobrau Tir na n-Og eto eleni, gan barhau i helpu plant a phobl ifanc i ddarganfod y gorau o’r llyfrau o Gymru ac am Gymru.”

Eleni, mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi cyflwyno elfen newydd i’r gwobrau, sef Dewis y Darllenwyr – tlws arbennig sy’n cael ei ddyfarnu gan blant a phobl ifanc sy’n cymryd rhan yng Nghynllun Cysgodi Tir na n-Og. Cyhoeddwyd enillwyr Dewis y Darllenwyr hefyd yn ystod y seremoni heddiw lle’r enillodd Manon Steffan Ros yn y ddau gategori Cymraeg gyda’i llyfrau Enwogion o Fri: Nye – Bywyd Angerddol Aneurin Bevan a Powell.

    

Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Diolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r gystadleuaeth eleni, a llongyfarchiadau mawr i’r awduron buddugol – mae eu straeon wedi sefyll allan ymhlith y teitlau gwych niferus ar y rhestrau byr. A diolch arbennig eleni i’r holl blant a phobl ifanc sydd wedi cymryd rhan yn y Cynllun Cysgodi a chyfrannu mor frwdfrydig i wobrau Dewis y Darllenwyr.”

Bydd enillydd y wobr yn y categori Saesneg a’r tlws Dewis y Darllenwyr yn cael eu cyhoeddi ar The Review Show, Radio Wales, nos Wener 2 Mehefin 2023.