Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn hynod o falch o gyhoeddi mai cyfrol llawn hwyl a sbri gan Huw Aaron fydd y llyfr £1 Cymraeg newydd ar gyfer Diwrnod y Llyfr 2021.

Yn ei ffordd ddihafal ei hun, mae’r cartwnydd a’r darlunydd dawnus o Gaerdydd wedi mynd ati i greu Ha Ha Cnec i blant bach a mawr ei fwynhau ar Ddiwrnod y Llyfr nesaf sef 4 Mawrth 2021.

Fel mae’r teitl yn ei awgrymu, bydd y gyfrol yn fwrlwm o jôcs a chartwnau doniol ynghyd ag ambell un o gymeriadau unigryw Huw.

I ddathlu cyhoeddi’r teitl, mae’r Cyngor Llyfrau wedi trefnu cystadleuaeth arbennig i ddod o hyd i’r 150 o gymeriadau o lyfrau plant Cymru sydd wedi cael eu cuddio gan Huw mewn poster prysur.

Cystadleuaeth
Mae cystadleuaeth ‘Ble yn y byd, Boc?’ ar agor i ysgolion ac i unigolion o bob oedran, ac mae gwobrau gwych i’w hennill.

Bydd enillydd categori’r ysgolion yn derbyn pentwr o lyfrau, gyda thaleb llyfrau £50 yn ail wobr.

Y brif wobr yn y categori unigol fydd darn gwreiddiol o waith celf Huw sy’n ymddangos yn Ha Ha Cnec a phentwr o lyfrau, gyda thocyn llyfr £20 yn ail wobr.

Wrth siarad am y gystadleuaeth, dywedodd Huw Aaron: “Dw i wedi arlunio llun o barti arbennig iawn ar gyfer y gystadleuaeth, lle mae’r gwesteion i gyd yn gymeriadau o lyfrau plant a theledu Cymru – rhai newydd, rhai o’m mhlentyndod, a rai sy’n hen iawn erbyn hyn! Mae ’na 150 i’w henwi – ond bydd angen help mam a dad (ac efallai Mam-gu neu Taid!) i adnabod nhw i gyd. Pob lwc!”

Mae manylion pellach am y gystadleuaeth i’w gweld ar www.mellten.com a’r dyddiad cau yw 31 Ionawr 2021. Cyhoeddir enwau’r enillwyr ar Ddiwrnod y Llyfr 4 Mawrth 2021.

Bydd modd prynu copi o Ha Ha Cnec (Y Lolfa) am £1 neu ddefnyddio’r tocyn llyfr £1 a roddir i bob plentyn i nodi Diwrnod y Llyfr 2021 ar 4 Mawrth.

Bydd Stori Cymru – Iaith a Gwaith, a ysgrifennwyd gan yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd ac a gyhoeddwyd gan Wasg Carreg Gwalch, hefyd ar gael eto eleni am £1. Dyma lyfr sy’n adrodd hanes Cymru a gwaith ei phobl drwy gyfrwng stori, llun a chân.

Bydd fersiynau hygyrch o’r llyfrau ar gael, gan gynnwys fersiynau braille, print bras a sain, diolch i gefnogaeth yr RNIB.

Dywedodd Angharad Sinclair, Rheolwr Ymgyrchoedd Hyrwyddo Darllen Cyngor Llyfrau Cymru: “Nod Diwrnod y Llyfr yw sicrhau bod gan bob plentyn gyfle i gael eu llyfr eu hunain a’u helpu i fwynhau’r profiad o ddarllen er pleser, gyda’r holl fuddiannau a ddaw yn sgil hynny. Rydym wrth ein bodd felly bod Huw Aaron wedi cytuno i greu llyfr newydd a fydd, gyda chyfrol Myrddin ap Dafydd, yn sicrhau dewis da o lyfrau Cymraeg am £1 i blant ar Ddiwrnod y Llyfr 2021.”

Mae’r poster sydd yn sail i’r gystadleuaeth yn ymddangos yn llyfr newydd Ble mae Boc? Ar goll yn y chwedlau gan Huw Aaron a gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Tachwedd 2020 ac sydd wedi’i ddewis yn Llyfr y Mis gan y Cyngor Llyfrau ar gyfer mis Rhagfyr 2020.

Diwrnod y Llyfr
Yng Nghymru, caiff ymgyrch Diwrnod y Llyfr ei chydlynu gan y Cyngor Llyfrau a’i chefnogi gan Lywodraeth Cymru a Waterstones.

Bob blwyddyn, drwy gydweithio â llu o gyhoeddwyr a llyfrwerthwyr, mae Diwrnod y Llyfr yn trefnu rhestr o deitlau penodol am £1 yr un ar gyfer plant a phobl ifanc, a chenhadaeth Diwrnod y Llyfr yw eu hannog i fwynhau llyfrau a darllen drwy roi cyfle iddyn nhw gael eu llyfr eu hunain.

Bydd manylion pellach am ddathliadau Diwrnod y Llyfr 2021 yng Nghymru yn cael eu cyhoeddi yn y Flwyddyn Newydd.