Cyhoeddi enillydd cystadleuaeth darlunio llyfr stori-a-llun i blant

Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn falch o gyhoeddi enillydd cystadleuaeth arbennig a drefnwyd gydag Urdd Gobaith Cymru i ddarganfod talent newydd ym maes darlunio llyfrau plant.

Dyfarnwyd y wobr i Naomi Bennet, 21 oed, am ei gwaith celf ‘neilltuol o gain’ a’i ‘meistrolaeth o’r grefft o gyfleu naratif drwy lun’.

Y dasg i ymgeiswyr rhwng 18 a 25 oed oedd creu gwaith celf gwreiddiol i gyd-fynd â stori fer gan un o awduron plant amlycaf Cymru, Casia Wiliam.

‘Y Gragen’, stori ar fydr ac odl, yw testun y naratif, ac fel rhan o’r wobr, bydd y gerdd a’r darluniau buddugol yn ymddangos fel llyfr stori-a-llun a gyhoeddir gan Gyhoeddiadau Barddas yn ystod y misoedd nesaf.

Y bwriad yw sicrhau bod Y Gragen ar gael mewn siopau llyfrau a llyfrgelloedd ar hyd a lled Cymru, yn ogystal ag ar ffurf e-lyfr drwy wefan ffolio.cymru y Cyngor Llyfrau.

Daw Naomi Bennet yn wreiddiol o Thatcham, Berkshire, ac mi fydd hi’n graddio’r haf hwn gyda BA Anrhydedd mewn Darlunio o Brifysgol Fetropolitan Caerdydd: “Mae wedi bod mor gyffrous cael fy newis i weithio ar y prosiect hwn,” meddai Naomi. “Rwy’n teimlo’n ffodus iawn i gael y cyfle i ddechrau fy ngyrfa greadigol gyda llyfr mewn print.”

Beirniadwyd y gystadleuaeth gan Derek Bainton, artist graffeg llawrydd ac arholwr darlunio Addysg Uwch sy’n byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd. “Mae defnydd Naomi o liw a thrawiadau brwsh yn cyfleu egni, gonestrwydd, a themâu gobeithiol y stori,” dywedodd. “Mae’r ymagwedd ddarluniadol yn awgrymog a breuddwydiol, yn swreal a ffigurol. Mae’r darluniau o’r adroddwr ifanc mor agored fel eu bod yn gwahodd y darllenydd i’r naratif, gan roi digon o le i argraffiadau ac atgofion y darllenydd ei hun o’r traeth a’r môr gael eu cynnwys yn y stori. Mae ymdriniaeth Naomi o’r berthynas rhwng geiriau a lluniau yn gywrain ac yn adfywiol.”

Dywedodd Pennaeth Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen Cyngor Llyfrau Cymru, Helen Jones: “Llongyfarchiadau gwresog i Naomi, a diolch yn fawr i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r gystadleuaeth arbennig hon. Gall darluniadau wneud cyfraniad anfesuradwy at y grefft o adrodd stori, gan ehangu apêl llyfrau, yn enwedig felly llyfrau plant. Mae’n hollbwysig ein bod yn meithrin a hybu safon a thalent newydd yn y maes yma yng Nghymru.”

Dywedodd Siân Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd: “Mae wedi bod yn bleser cydweithio â Chyngor Llyfrau Cymru ar y gystadleuaeth yma. Prif bwrpas Eisteddfod yr Urdd yw rhoi cyfleoedd celfyddydol newydd i bobl ifanc, ac felly rydym yn hynod falch o gael cyhoeddi enw’r enillydd, Naomi Bennet, gan edrych ymlaen at ddathlu cyhoeddi’r llyfr yn fuan.”

Dywedodd Alaw Mai Edwards, Golygydd Creadigol Cyhoeddiadau Barddas: “Mi fydd yn fraint cael arwain ar y prosiect hwn. Mae’r llyfr yn ychwanegiad gwerthfawr i’n rhaglen o gyhoeddiadau fel gwasg. Fel rhan o’n meddylfryd i hyrwyddo a meithrin awduron a darlunwyr newydd, mae’r prosiect hwn wedi bod yn gyfle gwych i fuddsoddi mewn talent ifanc, newydd.”

Bydd y Cyngor Llyfrau yn parhau i weithio gyda’r Urdd i gynnal y gystadleuaeth i ddarlunwyr ifanc yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2023. Caiff y manylion eu cyhoeddi yn y Rhestr Testunau ym mis Medi 2022.