Sbarduno cariad at ddarllen: llyfr i bob disgybl ei gadw wrth i’r rhaglen Caru Darllen Ysgolion gael ei lansio

 

Bydd pob disgybl rhwng 3 ac 16 oed mewn ysgolion gwladol yng Nghymru yn derbyn eu llyfr eu hunain i’w gadw, wrth i Gyngor Llyfrau Cymru a Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, lansio’r rhaglen Caru Darllen Ysgolion heddiw, ddydd Iau, 26 Mai.

Roedd disgyblion Ysgol Hamadryad, Tre-biwt, Caerdydd, ymhlith y cyntaf i dderbyn eu llyfrau newydd. Daeth tua 70 o ddisgyblion ynghyd i ddathlu’r achlysur gyda’r awdur a’r darlunydd Huw Aaron mewn gweithdy arbennig i ddarganfod yr hwyl a geir wrth ddarllen … a bod unrhyw beth yn bosibl mewn llyfrau. Roedd Ysgol Hamadryad yn un o’r ysgolion ledled Cymru oedd wedi cyfrannu at yr ymgynghoriad i ddewis llyfrau yn ystod datblygiad y cynllun.

Trefnwyd yr ymweliad wrth i Gyngor Llyfrau Cymru lansio ei ymgyrch Caru Darllen Ysgolion i ddathlu darllen a’r budd a ddaw i ddarllenwyr o bob oed a gallu, gyda’r llyfrau am ddim yn dechrau cyrraedd yr ysgolion.

Daeth personoliaethau cyfarwydd megis y gyflwynwraig a’r awdur Mel Owen, a’r blogiwr Charlotte Harding (@Welsh Mummy Blogs) draw i sôn am eu profiadau nhw o ddianc i mewn i fyd llyfrau, a’r rhan bwysig sydd gan lyfrau i’w chwarae yn eu bywydau a’u teuluoedd nhw eu hunain. Ynghyd â’r artist Mace the Great a’r crëwr TikTok Ellis Lloyd Jones, maen nhw’n cefnogi’r ymgyrch trwy rannu eu cariad at ddarllen mewn ffilm fer a grëwyd ar gyfer y rhaglen Caru Darllen Ysgolion.

Dywedodd Mel Owen:Mae llyfrau’n gallu dy helpu i deimlo’n rhan o gymuned fyd-eang wrth agor dy feddwl i brofiadau falle dwyt ti ddim yn eu profi o ddydd i ddydd. P’un a fyddwn ni’n darllen i ymlacio neu ddarllen i gael ysbrydoliaeth, mae straeon yn ehangu ein holl orwelion.”

Dywedodd Charlotte: “I blant, mae cael mynediad at lyfrau a straeon yn gwneud cymaint o wahaniaeth i’w lles, ac yn eu helpu i ddatblygu eu dychymyg. Yn ystod y cyfnod clo, roedd fy mab yn cael cysur mawr mewn llyfrau. Does dim byd gwell na dal llyfr go iawn yn eich dwylo, ac mae cymaint o ddewis ar gael – mae ’na rywbeth i bawb.”

Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg: “Mae’n hyfryd bod yn Ysgol Hamadryad heddiw i weld y llyfrau’n cyrraedd fel rhan o’r rhaglen Caru Darllen Ysgolion, a’r plant yn gallu dewis eu llyfrau eu hunain. Hoffwn ddiolch i bawb fu’n rhan o gyflawni’r prosiect uchelgeisiol hwn, sy’n ganlyniad i ymdrech anferth ar y cyd rhwng cyhoeddwyr, ysgolion, llyfrwerthwyr, Llywodraeth Cymru a’r Cyngor Llyfrau. Rwy’n edrych ymlaen at weld rhagor o lyfrau’n cael eu dosbarthu i ragor o blant dros y misoedd sydd i ddod.”

Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Mae’r rhaglen Caru Darllen Ysgolion yn ymwneud â sbarduno cariad gydol oes at ddarllen, a helpu pawb i ddod o hyd i’r llyfr iawn iddyn nhw. Mae datblygu’r arfer o ddarllen yn rhoi manteision am oes, ac mae cael mynediad at lyfrau mor bwysig i blant a phobl ifanc. Dyna pam y bydd cam olaf y rhaglen, yn nes ymlaen yn y flwyddyn, yn cyflenwi casgliad o tua 50 o lyfrau’n rhad ac am ddim i lyfrgelloedd ysgolion, fel bod modd i ddisgyblion barhau â’u taith ddarllen.”

Gallwch wylio’r ffilmiau Caru Darllen Ysgolion, cael eich ysbrydoli i ddarllen, a dilyn yr ymgyrch ar wefan Cyngor Llyfrau Cymru: llyfrau.cymru