Ar 20 Tachwedd 2020, fe gollodd Cymru un o’i llenorion mawr pan fu farw Jan Morris yn 94 oed.

Ar 20 Tachwedd 2020, fe gollodd Cymru un o’i llenorion mawr pan fu farw Jan Morris yn 94 oed.

Yn newyddiadurwr, yn nofelydd, yn awdur llyfrau teithio ac yn hanesydd, fe ysgrifennodd dros 40 o lyfrau yn ystod ei hoes, yn cynnwys trioleg ar hanes yr Ymerodraeth Brydeinig, Pax Britannica (Faber, 1968, 1973, 1978); The Matter of Wales: Epic Views of a Small Country (Oxford University Press, 1984) a Conundrum (Faber & Faber, 2002), hunangofiant lle mae’n cofnodi’r broses o newid ei rhywedd o fod yn ddyn i fod yn ddynes, o James i Jan Morris.

Cafodd ei geni yn Lloegr yn 1926 ond roedd ei thad yn hanu o Gymru ac fe symudodd yma yn y 1980au, gan ymgartrefu gyda’i theulu yn Llanystumdwy ar Benrhyn Llŷn.

Roedd Jan Morris yn Llywydd Anrhydeddus Cyfeillion Cyngor Llyfrau Cymru ac yma mae’n Cadeirydd, yr Athro M Wynn Thomas, ein Prif Weithredwr, Helgard Krause, ac Ion Thomas, Cadeirydd Cyfeillion y Cyngor, yn talu teyrnged i’r awdur talentog.

“Yn ystod ei bywyd rhyfeddol, cyhoeddodd Jan Morris ddigon o lyfrau i gynnal diwydiant cyhoeddi y Deyrnas Unedig gyfan. Ac er ei bod yn fyd-enwog am ei phortreadau o gynifer o wledydd a dinasoedd, ac yn deithwraig ddihafal i bedwar ban, fe ddewisodd fwrw angor yma yng Nghymru am iddi syrthio dros ei phen a’i chlustiau mewn cariad â’n gwlad. Mae ei hymadawiad yn ein hamddifadu o un o’r mwyaf oll o’n hawduron, ac fe wêl y Cyngor Llyfrau eisiau un o’i gymwynaswyr mwyaf teyrngar” – Yr Athro M Wynn Thomas.

“Roedd Jan Morris yn arloesydd ymhob ystyr y gair. Roedd hi’n saer geiriau heb ei hail ac yn groniclydd huawdl o fywyd, diwylliant a thirwedd Cymru. Bydd colled enfawr ar ei hôl ond mae’n gadael gwaddol cyfoethog yn ei thoreth o lyfrau, ysgrifau ac erthyglau newyddiadurol” – Helgard Krause

“Os oes rhywun yn haeddu’r enw ‘Cyfaill’ Jan Morris oedd honno. Cyfeillgarwch a charedigrwydd wedi’r cyfan oedd y nodweddion a fawrygai fwyaf. Bu’n gyfaill trwy ei geiriau i gymaint o bobl a chymaint o lefydd. Yr oedd yn Llywydd Anrhydeddus y Cyfeillion, a bydd ei chyfraniad i’n llên a’i chefnogaeth i’r iaith, i’n diwylliant a’n hunaniaeth ynghyd â’n dyneiddiaeth yn aros. Diolch, Jan, am ein tywys gyda gwên a chraffter meddwl i gopaon byd llên” – Ion Thomas