Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a Chyngor Llyfrau Cymru yn dathlu carreg filltir arbennig eleni wrth i’r gyfres boblogaidd o lyfrau i ddysgwyr, cyfres Amdani, gyrraedd ei phumed pen-blwydd. Yn ystod 2023 bydd pob teitl yn y gyfres ar gael fel llyfr llafar am y tro cyntaf.

Mae 40 o lyfrau yn y gyfres, gan amrywiol weisg, a gomisiynwyd drwy grantiau’r Cyngor Llyfrau.

Mae’r llyfrau wedi eu graddoli ar bedair lefel dysgu – Mynediad, Sylfaen, Canolradd ac Uwch, a nod y gyfres yw rhoi cyfle i ddysgwyr Cymraeg fwynhau darllen am amrywiaeth o bynciau. Mae’r gyfres yn ffrwyth partneriaeth lwyddiannus rhwng y Ganolfan Genedlaethol a’r Cyngor Llyfrau.

Mae Gŵyl Amdani, sy’n cael ei chynnal yn rhithiol rhwng 27 Chwefror a 3 Mawrth, yn dathlu’r gyfres, ac yn rhoi cyfle i ddysgwyr fwynhau gweithgareddau a digwyddiadau yn ymwneud â darllen yn y Gymraeg.

Mae’r teitlau yng nghyfres Amdani yn cynnwys:

            

Lefel Mynediad: Wynne Evans – O Gaerfyrddin i Go Compare gan Elin Meek (Atebol)
Bywgraffiad y canwr a’r cyflwynydd Wynne Evans. Darlun personol a gonest iawn o hanes Wynne a’i deulu, ei brofiadau fel tenor enwog, a’i siwrne i ddysgu Cymraeg fel oedolyn.

Lefel Sylfaen: Yn ei Gwsg gan Bethan Gwanas (Atebol)
Nofel fywiog sy’n dilyn dirgelwch damwain car. Mae Dafydd, sy’n cerdded yn ei gwsg, yn deffro’n waed i gyd … ond pwy sydd ar fai?

Lefel Canolradd: 20 o Arwyr Cymru gan J. Richard Williams (Gwasg Carreg Gwalch)
Llyfr sydd yn dathlu 20 o arwyr arbennig Cymru, a’u cyfraniadau pwysig. Darganfyddwch straeon am Betsi Cadwaladr, Ray Gravell, Kate Roberts, ac eraill.

Lefel Uwch: Cawl a Straeon Eraill (Y Lolfa)
Casgliad o straeon byrion gan awduron adnabyddus, yn cynnwys Sarah Reynolds, Mihangel Morgan a Lleucu Roberts.

Dywedodd Arwel Jones, Pennaeth Datblygu Cyhoeddi’r Cyngor Llyfrau: “Bum mlynedd yn ôl doedd dim llyfrau ar gyfer dysgwyr oedd wedi eu cynhyrchu yn benodol i gyd-fynd â’r lefelau dysgu cenedlaethol. Penderfynodd y Cyngor Llyfrau, mewn cydweithrediad â’r Ganolfan, gomisiynu 20 o lyfrau pwrpasol o bob math a’u galw yn gyfres Amdani. Bellach mae’r cyhoeddwyr yn cyhoeddi llyfrau Amdani yn rheolaidd ac mae 40 ohonyn nhw ar gael. Diolch i Grant Cynulleidfaoedd Newydd a ddarparwyd gan Gymru Greadigol, rydyn ni wedi cefnogi creu fersiwn llafar o bob llyfr fel y bydd yn fuan fodd eu mwynhau trwy wrando yn ogystal â’u darllen.”

Dywedodd Helen Prosser, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:  “Mae creu cyfleoedd i’n dysgwyr fwynhau defnyddio eu Cymraeg y tu allan i’r dosbarth yn rhan hollbwysig o’n gwaith yn y Ganolfan, ac mae’r gyfres Amdani yn boblogaidd tu hwnt.

“Mae’r dewis eang o lyfrau difyr yn golygu y bydd llyfr i chi ei fwynhau, p’un a ydych chi newydd ddechrau dysgu, neu’n siaradwr hyderus.

“Bydd y llyfrau llafar yn galluogi’n dysgwyr i fagu hyder trwy glywed yr iaith, ac edrychwn ymlaen at barhau i gydweithio gyda’r Cyngor Llyfrau i gyflwyno hyd yn oed mwy o deitlau i’r gyfres.”

Mae llyfrau Amdani ar gael o’ch siop lyfrau leol neu i’w benthyg o’ch llyfrgell leol. Mae fformatau digidol, megis e-lyfrau a llyfrau llafar, ar gael o Ffolio.cymru gyda rhagor o lyfrau llafar yn cyrraedd yn ystod 2023. Mae modd i siopwyr ddewis siop lyfrau benodol i elwa o’u pryniant ar Ffolio.