Dathlu Diwrnod y Llyfr yng Nghymru 2024

Mae elusen Diwrnod y Llyfr yn cynnal ei dathliad blynyddol ar ddydd Iau 7 Mawrth, ac yn annog plant ledled y wlad i fwynhau darllen, gan dderbyn tocyn llyfr £1 i’w gyfnewid am un o’r llyfrau £1 a gyhoeddwyd yn arbennig ar gyfer y cynllun AM DDIM, neu i’w roi tuag at lyfr arall o’u dewis.

Y llyfr Cymraeg eleni, a gefnogir gan y Cyngor Llyfrau ac a gyhoeddwyd gan Gyhoeddiadau Rily, yw Ffeithiau Ffiaidd: Y Corff. Wedi’i ysgrifennu a’i ddylunio gan Kev Payne, mae’r llyfr gweithgaredd hynod erchyll hwn yn llawn ffeithiau, posau a gemau sy’n mynd â’r darllenydd ar daith i archwilio’r corff dynol ffiaidd ac afiach.

Fe addaswyd y llyfr i’r Gymraeg gan yr awdur a’r bardd arobryn Mari George, ac mae’r llyfr yn profi mor boblogaidd gyda darllenwyr, mae eisoes wedi cael ei ailargraffu. Gallwch gasglu’ch copi chi o’ch siop lyfrau leol.

Dywedodd Mari: “Dwi mor falch bod fy addasiad Ffeithiau Ffiaidd: Y Corff wedi cael ei ddewis fel llyfr Cymraeg ar gyfer Diwrnod y Llyfr 2024. Gobeithio y bydd yn ysbrydoli plant i fynd ati i ddarllen llyfrau eraill – rhywbeth rwy’n teimlo’n angerddol amdano.”

Dywedodd Helgard Krause Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Rydym yn falch iawn o weithio mewn partneriaeth â Diwrnod y Llyfr, i sicrhau bod llyfrau ar gael i blant ac i ysbrydoli cariad at ddarllen. Mae addasiad gwych Mari George o Ffeithiau Ffiaidd: Y Corff yn siŵr o blesio a diflasu darllenwyr ifanc ar yr un pryd! Diolch hefyd i Gyhoeddiadau Rily am eu gwaith caled yn sicrhau bod teitl arall o safon uchel ar gael i ddarllenwyr ifanc ei fwynhau yn y Gymraeg fel rhan o’r cynllun llyfrau £1.”

Mae tri llyfr Cymraeg arall ar gael am £1 eleni: Lledrith yn y Llyfrgell (Y Lolfa) gan Anni Llŷn, Ha Ha Cnec! (Broga) gan yr awdur a’r darlunydd Huw Aaron, a Gwisg Ffansi Cyw (Y Lolfa) gan Anni Llŷn. Mae’r llyfrau yma, yn ogystal â Ffeithiau Ffiaidd: Y Corff, ar gael o siopau llyfrau lleol.

Wrth i ysgolion ddosbarthu’r tocyn £1 a pharatoi eu gweithgareddau Diwrnod y Llyfr, mae gan y Cyngor Llyfrau ystod eang o adnoddau ac ysbrydoliaeth i helpu ysgolion a darllenwyr i ddathlu llyfrau a darllen – nid yn unig ar gyfer Diwrnod y Llyfr, ond trwy gydol y flwyddyn. Mae’r gweithgareddau amrywiol – 80 ohonynt – yn cynnwys gemau, cystadlaethau, ymarferion ysgrifennu, crefftau a pherfformiadau, er mwyn dod â llyfrau’n fyw i blant Cymru ac er mwyn ysbrydoli darllenwyr ifanc. Gallwch ddod o hyd i’r holl adnoddau hyn ar wefan y Cyngor Llyfrau: llyfrau.cymru.

Yr hyn sydd wrth wraidd y gwaith o newid bywydau drwy ddarllen ar gyfer Diwrnod y Llyfr yw’r cyfle i bob plentyn gael ei lyfr ei hun. Gyda darllen er pleser yn parhau i amlygu ei hun fel y prif beth sy’n dangos llwyddiant plentyn yn y dyfodol – mwy nag amgylchiadau teuluol, cefndir addysgol y rhieni a’u hincwm,[1] nod Diwrnod y Llyfr yw cyrraedd cymunedau, teuluoedd, a phlant mewn ardaloedd o amddifadedd uchel a llythrennedd isel. Er mwyn rhoi hwb pellach i’w chyrhaeddiad a’i heffaith, mae strategaeth newydd yr elusen ar gyfer 2023–2027[2] yn nodi sut y bydd yn annog mwy o blant, o bob cefndir, i ddatblygu arfer gydol oes o ddarllen er pleser, ac elwa o’r cyfleoedd bywyd gwell a ddaw yn sgil hyn.

Dywedodd Cassie Chadderton, Prif Weithredwr Diwrnod y Llyfr: “Ein nod ar gyfer Diwrnod y Llyfr 2024 yw dod â’r hwyl o ddarllen i fwy o blant, i ddathlu eu dewisiadau ac annog pawb i ddarllen fel mae nhw eisiau! Mae llai o blant a theuluoedd yn mwynhau darllen, yn union pan fod angen y buddion sy’n newid eu bywydau fwyaf.

“Rydym yn falch iawn bod plant yn gallu dewis Ffeithiau Ffiaidd: Y Corff, neu benderfynu ar lyfr arall o’r rhestr gyffrous o lyfrau £1/€1.50 ar gyfer 2024. Rydym yn hyderus y bydd y llyfrau hwyliog ac ysbrydoledig hyn yn tanio diddordeb plant mewn darganfod mwy o lyfrau a darllen er pleser!”

Gallwch ddarganfod mwy am lyfrau £1 Diwrnod y Llyfr ar wefan Diwrnod y Llyfr worldbookday.com, a sut mae’r Cyngor Llyfrau yn cefnogi Diwrnod y Llyfr yng Nghymru ar Diwrnod y Llyfr | Cyngor Llyfrau Cymru

 

 

[1] https://www.oecd.org/pisa/pisaproducts/pisainfocus/48624701.pdf

[2] World-Book-Day-Impact-Report-2023.pdf (worldbookday.com)