Datgelodd Cyngor Llyfrau Cymru a’r cyflwynydd, y dylanwadwr a’r llyfrbryf Ellis Lloyd Jones y teitlau sydd wedi cyrraedd rhestr fer llyfrau Saesneg Gwobrau Tir na n-Og ddydd Gwener, 15 Mawrth am 12pm ar eu cyfrifon Instagram a TikTok. Mae’r gwobrau yn dathlu’r gorau o straeon o Gymru a straeon am Gymru a gyhoeddwyd yn 2023.

Gwobrau Tir na n-Og yw’r gwobrau hynaf ar gyfer llenyddiaeth plant a phobl ifanc yng Nghymru. Caiff y gwobrau eu trefnu’n flynyddol gan Gyngor Llyfrau Cymru a’u cefnogi gan CILIP Cymru. Maent yn anrhydeddu ac yn dathlu’r awduron a’r darlunwyr mwyaf creadigol, a’r deunyddiau darllen gorau i blant.

Bydd Ellis yn datgelu’r llyfrau ar y rhestr fer o leoliad siop lyfrau arbennig. Eleni mae’r tair stori yn dathlu popeth sydd yn fwganaidd, yn fwystfilaidd ac yn ddirgel, a byddan nhw’n mynd â darllenwyr ifanc ar anturiaethau anhygoel sydd wedi’u gwreiddio yn hanes a mytholeg Cymru.

Dyma’r rhestr fer ar gyfer llyfr Saesneg gyda dimensiwn Cymreig dilys:

The Ghosts of Craig Glas Castle gan Michelle Briscombe (Candy Jar Books)
Dilynwch Flora ac Archie wrth iddynt ymchwilio i gyfrinachau arswydus y gorffennol yng Nghastell Craig Glas. Tra bod Dad yn prisio’r hen bethau, a fydd ysbrydion y castell yn rhoi digon o gliwiau i Flora ac Archie ddarganfod cyfrinachau’r ardd ddirgel ac unioni camweddau’r gorffennol? Stori gyflym a chyffrous sy’n llawn ffantomau, cyfeillgarwch a theulu.

Vivi Conway and the Sword of Legend gan Lizzie Huxley-Jones (Knights of)
Mae’r llyn wedi bod yn galw ar Vivi Conway, sy’n ddeuddeg oed. Ar y diwrnod y bydd hi a’i Mamau yn symud o Gymru i Lundain, mae hi’n sleifio allan i ymchwilio i’r hyn sy’n ei galw yno. Yn hytrach na nofio’n dawel, mae’n dod o hyd i Excalibur (sy’n llawer llai na’r disgwyl), anghenfil ffyrnig (llawer mwy dychrynllyd mewn bywyd go iawn nag yn ei llyfrau mytholeg), ffrind newydd (nad yw hi eisiau o gwbl) o’r enw Dara a chi ysbryd o’r enw Gelert (sy’n gallu siarad). Stori wych, gynhwysol yn llawn mythau a chwedlau Cymreig sy’n eich hudo ar daith anturus afaelgar.

Where the River Takes Us gan Lesley Parr (Bloomsbury Publishing Ltd)
Chwefror 1974. Mae sibrydion yn adleisio drwy’r dyffryn – hanesion am fwystfil gwyllt yn crwydro’r mynyddoedd. Pan gynigir gwobr am brawf o’i fodolaeth, mae Jason a’i ffrindiau yn benderfynol o ddod o hyd i’r creadur yn gyntaf. Ond i Jason, mae’n fwy na chwest – mae’r arian yn ffordd iddo fe a’i frawd aros gyda’i gilydd. Felly cychwynnodd y pedwar ffrind, gan ddilyn yr afon i’r gogledd, heb sylweddoli y bydd y daith hon yn eu gwthio i’w terfynau. Mae antur anhygoel yn aros amdanynt …

Clod Arbennig
Roedd y beirniaid hefyd eisiau rhoi cydnabyddiaeth arbennig i’r pedair cyfrol gyflwynwyd o’r gyfres Welsh Wonders (Broga); cyfres o lyfrau sydd yn dathlu bywydau a chyflawniadau Cymry adnabyddus, a’u dylanwad parhaol yng Nghymru a thu hwnt.

Ann (gan Menna Machreth, darluniwyd gan Emily Kimbell), Laura (gan Mari Lovgreen, darluniwyd gan Sara Rhys), Betty (gan Nia Morais, darluniwyd gan Anastasia Magloire), a Wallace (gan Aneirin Karadog, darluniwyd gan Alyn Smith).

Bob blwyddyn, mae paneli annibynnol yn penderfynu ar y rhestrau byrion ac yn dewis yr enillwyr ar gyfer y gwobrau Cymraeg a Saesneg. Y beirniaid ar y panel Saesneg eleni oedd Simon Fisher (Cadeirydd), Elizabeth Kennedy, Karen Gemma Brewer a Katie Rees.

Meddai Simon Fisher, Cadeirydd y Panel Saesneg: “Mae’r beirniaid wrth eu boddau gyda’r rhestr fer eleni. Yr hyn sydd wrth wraidd gwobr Tir na n-Og yw pwnc Cymraeg dilys – ac mae hynny’n amlwg yn y tair stori hon. Mae’r beirniaid o’r farn bod y rhestr fer yn berthnasol ac yn gyfarwydd i blant ledled Cymru a bod yr ysgrifennu hyderus yn darparu profiad darllen hudolus a phleserus. Mae gan y tri theitl hunaniaeth unigryw a pharhaol sy’n caniatáu i ddarllenwyr archwilio a deall pynciau emosiynol, gan ychwanegu at hunaniaeth ddiwylliannol gyffredin hefyd.”

Meddai Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Llongyfarchiadau i’r awduron a’r darlunwyr sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni. Roedd y ceisiadau’n ardderchog unwaith eto eleni a hoffwn ddiolch i’r paneli beirniaid am eu holl waith i ddewis y rhestrau byrion o blith cymaint o deitlau gwych. Rydw i’n edrych ymlaen yn arw at weld pa lyfrau fydd yn fuddugol yn yr haf ac yn dymuno pob lwc i bawb.”

Meddai Ellis Lloyd Jones: “Rydw i wrth fy modd yn darllen, a does dim byd gwell na llyfr sydd yn gwneud i chi wenu, sydd yn mynd â chi ar anturiaethau ac yn eich cludo chi i fydoedd gwahanol. A’r peth gorau am wobrau Tir na n-Og ydy eu bod nhw’n dathlu llyfrau o Gymru! Nid yw rhestr fer eleni yn siomi – mae pob llyfr yn llawn dirgelwch, antur, a hud a lledrith.”

 Gallwch weld y cyhoeddiad ar

Instagram: xellislloydjonesx a books.wales

TikTok: @ellislloydjones

Cyhoeddwyd y rhestrau byrion ar gyfer llyfrau Cymraeg Gwobrau Tir na n-Og ar raglen Heno ar S4C nos Fercher 13 Mawrth.

Eleni, bydd cyfle unwaith eto i blant a phobl ifanc ddewis enillwyr categori arbennig, sef Gwobr Barn y Darllenwyr: tlws arbennig i lyfrau a ddewisir gan blant a phobl ifanc sy’n cymryd rhan yng nghynllun cysgodi Tir na n-Og. Gall ysgolion, llyfrgelloedd a grwpiau darllen eraill gofrestru i gymryd rhan yn y cynllun a bod yn feirniaid answyddogol i ddewis enillwyr o blith y rhestr fer, gan ddefnyddio’r pecyn cysgodi arbennig. Cewch fanylion ar sut i gofrestru ar wefan y Cyngor Llyfrau, llyfrau.cymru

Bydd y Cyngor Llyfrau yn cyhoeddi enillydd y categori Saesneg ar ddydd Gwener, 17 Mai, yng nghynhadledd CILIP Cymru Wales yng Nghaerdydd, ac enillwyr y categorïau Cymraeg am 1pm ddydd Mercher, 29 Mai, ar Faes Eisteddfod yr Urdd, Meifod.

Bydd siopau llyfrau a llyfrgelloedd yn cynnal Helfeydd Trysor Tir na n-Og yn ystod y gwyliau Pasg gyda chyfle i blant rhwng 4 ac 11 oed gymryd rhan. Gofynnwch i’ch siop lyfrau leol neu lyfrgell am fanylion.

Cewch fwy o wybodaeth am y gwobrau a llyfrau ar y rhestrau byrion ar wefan y Cyngor Llyfrau, llyfrau.cymru