Datgelodd Cyngor Llyfrau Cymru y llyfrau Cymraeg sydd wedi cyrraedd Rhestr Fer Gwobrau Tir na n-Og ar raglen Heno ar S4C nos Fercher, 13 Mawrth. Mae’r gwobrau yn dathlu’r gorau o straeon o Gymru a straeon am Gymru a gyhoeddwyd yn 2023.

Gwobrau Tir na n-Og yw’r gwobrau hynaf ar gyfer llenyddiaeth plant a phobl ifanc yng Nghymru. Caiff y gwobrau eu trefnu’n flynyddol gan Gyngor Llyfrau Cymru a’u cefnogi gan CILIP Cymru. Maent yn anrhydeddu ac yn dathlu’r awduron a’r darlunwyr mwyaf creadigol, a’r deunyddiau darllen gorau i blant.

Mae gan y wobr Gymraeg ddau gategori: Cynradd (4–11 oed) ac Uwchradd (11–18 oed).

Er bod ystod eang o themâu, cymeriadau ac arddulliau yn y llyfrau sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni, llyfrau i uniaethu gyda nhw ydyn nhw i gyd. Cawn ddilyn cymeriadau sy’n dod o hyd i gyfeillgarwch, yn darganfod profiadau newydd ac sy’n byw trwy gyfnodau anodd – gan ddysgu sut i ddod i adnabod a derbyn ein gilydd, a ni ein hunain.

RHESTR FER AR GYFER Y CATEGORI CYNRADD:

Jac a’r Angel gan Daf James, darluniwyd gan Bethan Mai (Y Lolfa)
Nofel ddoniol, annwyl a theimladwy. Mae Jac a’r Angel yn stori Nadoligaidd hwyliog. Bydd oedolion a phlant yn gallu mwynhau stori ‘dod i oed’ y bachgen diniwed sy’n defnyddio ei ddychymyg i oresgyn galar a grymoedd tywyll bywyd.

Mari a Mrs Cloch gan Caryl Lewis, darluniwyd gan Valériane Leblond (Y Lolfa)
Mae Mari’n mynd â mins peis at Mrs Cloch drws nesa ar Noswyl Nadolig – hen ddynes fach unig, nad oed neb byth yn galw i’w gweld, yw Mrs Cloch. Mae Mari yn ei helpu i addurno’r goeden Nadolig ag addurniadau o bob cwr o’r byd, ac mae ymwelydd annisgwyl iawn yn galw yn y tŷ …

Wyneb yn Wyneb gan Sioned Wyn Roberts (Atebol)
Mwrddrwg ydy Twm. Dwyn. Twyllo. Bwlio. Mae e’n giamstar ar y cyfan. Ond mae rhywbeth ar goll; mae gwacter yn ei fywyd a does ganddo ddim syniad pam. Un noson dywyll, pan mae Twm y Lleidr wrth ei waith, daw wyneb yn wyneb â’i ffawd, a darganfod gwirionedd ysgytwol sy’n newid cwrs ei fywyd am byth.

Y Gragen gan Casia Wiliam, darluniwyd gan Naomi Bennet (Cyhoeddiadau Barddas)
Dyma stori mewn mydr ac odl am blentyn o’r ddinas fawr yn ymweld â thraeth mewn pentref ar lan y môr am y tro cyntaf. Yno mae’r plant yn chwerthin wrth fwyta hufen iâ, y gwymon yn gwichian a byd natur yn canu’n un.

RHESTR FER AR GYFER Y CATEGORI UWCHRADD:

Astronot yn yr Atig gan Megan Angharad Hunter (Y Lolfa)
Mae Rosie wedi gwirioni ar y gyfres deledu Yr Estronos ac ar ofodwyr, a phan mae llong ofod yn glanio yn yr ardd gefn, mae wrth ei bodd. Nofel am greu cyfeillgarwch, am deithio’n ôl ac ymlaen mewn amser, am dyfu i fyny mewn byd cymhleth ac anodd, ac am wthio ffiniau’r dychymyg i’r eithaf.

Fi ydy Fi gan Sian Eirian Lewis, darluniwyd gan Celyn Hunt (Y Lolfa)
Llyfr gwybodaeth i ferched am dyfu i fyny. Mae pob pennod yn trafod agwedd benodol o’r profiad o dyfu i fyny, gan gynnwys: Pam mae fy nghorff yn aeddfedu?, Hormonau, Bronnau, Blew, Chwysu, Croen, Mislif, Deall fy emosiynau, Fy Nghorff a Ffrindiau.

Sêr y Nos yn Gwenu gan Casia Wiliam (Y Lolfa)
Stori am Leia a Sam yw hon, stori gariad gignoeth, sydd hefyd yn stori am gymuned, am ddysgu, am fentro ac am faddeuant. Ar ôl cael eu gorfodi i fod ar wahân am sbel, gwelwn eu llwybrau’n croesi eto yn y ganolfan gymunedol, lle mae’r stori’n dechrau.

Bob blwyddyn, mae paneli annibynnol yn penderfynu ar y rhestrau byrion ac yn dewis yr enillwyr ar gyfer y gwobrau Cymraeg a Saesneg. Y beirniaid ar y panel Cymraeg eleni oedd Sioned Dafydd (Cadeirydd), Sara Yassine, Siôn Lloyd Edwards a Rhys Dilwyn Jenkins.

Dywedodd Sioned Dafydd, Cadeirydd y Panel: “Roedd cytundeb ymysg y panel fod pawb wedi cael blas ar y darllen a bod plant Cymru yn ffodus iawn o gael y fath ystod o lyfrau safonol i’w mwynhau a’u trysori. Diolch i’r holl weisg, yr awduron a’r dylunwyr am oriau o bleser ac ymgolli!

Credwn bod llyfrau ymysg y casgliad eleni a fydd yn ffefrynnau gan blant Cymru a bydd ambell lyfr yn sicr o gael ei fyseddu a’i ddarllen yn dawel ac ar goedd drosodd a throsodd am flynyddoedd i ddod.”

Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Llongyfarchiadau i’r awduron a’r darlunwyr sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni. Roedd y ceisiadau’n ardderchog unwaith eto eleni a hoffwn ddiolch i’r paneli beirniaid am eu holl waith i ddewis y rhestrau byrion o blith cymaint o deitlau gwych. Rydw i’n edrych ymlaen yn arw at weld pa lyfrau fydd yn fuddugol yn yr haf ac yn dymuno pob lwc i bawb.”

Bydd y rhestr fer ar gyfer y llyfrau Saesneg yn cael ei datgelu am 12pm ddydd Gwener 15 Mawrth gan Ellis Lloyd Jones a’r Cyngor Llyfrau ar eu sianelau cyfryngau cymdeithasol.

Eleni, bydd cyfle unwaith eto i blant a phobl ifanc ddewis enillwyr categori arbennig, sef Gwobr Barn y Darllenwyr: tlws arbennig i lyfrau a ddewisir gan blant a phobl ifanc sy’n cymryd rhan yng nghynllun cysgodi Tir na n-Og. Gall ysgolion, llyfrgelloedd a grwpiau darllen eraill gofrestru i gymryd rhan yn y cynllun a bod yn feirniaid answyddogol i ddewis enillwyr o blith y rhestr fer, gan ddefnyddio’r pecyn cysgodi arbennig. Cewch fanylion ar sut i gofrestru ar wefan y Cyngor Llyfrau, llyfrau.cymru.

Caiff enillwyr y categorïau Cymraeg eu cyhoeddi 1pm ddydd Mercher, 29 Mai, ar Faes Eisteddfod yr Urdd, Meifod; ac enillydd y categori Saesneg ar ddydd Gwener, 17 Mai, yng nghynhadledd CILIP Cymru yng Nghaerdydd.

Bydd siopau llyfrau a llyfrgelloedd yn cynnal Helfeydd Trysor Tir na n-Og yn ystod y gwyliau Pasg gyda chyfle i blant rhwng 4 ac 11 oed gymryd rhan. Gofynnwch i’ch siop lyfrau leol neu lyfrgell am fanylion.

Cewch fwy o wybodaeth am y gwobrau a llyfrau ar y rhestrau byrion ar wefan y Cyngor Llyfrau, llyfrau.cymru