Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn dathlu 60 mlynedd o gefnogi’r diwydiant cyhoeddi a dathlu darllen gydag wythnos o weithgareddau o 1–5 Tachwedd 2021.

O edrych yn ôl at ei wreiddiau fel elusen a sefydlwyd i hybu cyhoeddi llyfrau Cymraeg yn 1961, i gyhoeddi’i weledigaeth am y dyfodol gyda lansiad y Cynllun Strategol pum mlynedd newydd, Cymru: Cenedl o Ddarllenwyr, bydd y Cyngor yn archwilio holl agweddau’r sector yng Nghymru yn ystod wythnos gyfan o ddathlu.

Bydd byd creadigol, bywiog, cyffrous cyhoeddi yng Nghymru yn cael ei ddadlennu trwy gyfrol y dathlu, ffilmiau o’r byd cyhoeddi ar waith, dathlu rhagoriaeth llenyddiaeth Cymru gyda Gwobr Mary Vaughan Jones, ac yna hel atgofion am lyfrau arbennig, Clwb Darllen Sbondonics, a 60 mlynedd o lyncu llyfrau a dathlu darllen.

Meddai Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Mae’n bleser ac yn anrhydedd gen i fod yn arwain y sefyliad hwn wrth i ni ddathlu’r garreg filltir arbennig hon, a ninnau’n gweithio ein ffordd at gyfnod yn dilyn Covid ac at y pum mlynedd nesaf. Mae’r deunaw mis diwethaf wedi amlygu’r cyfraniad aruthrol y mae llyfrau wedi’i wneud i’n lles a’n hiechyd meddwl. Mae cyhoeddi llyfr bob amser yn ffrwyth cydweithio creadigol rhwng yr holl wahanol bobl sy’n rhan o’r diwydiant, sy’n cynnwys y llyfrwerthwyr, a byddwn yn parhau i gefnogi’r diwydiant yma yng Nghymru i sicrhau y bydd y straeon niferus sy’n adlewyrchu ein gwlad yn dal i gael eu hadrodd.”

Bydd rhaglen lawn yn ystod yr wythnos – ewch i wefan llyfrau.cymru am ragor o wybodaeth.

 

Dydd Llun 1 Tachwedd – Pen-blwydd hapus!

Lansio cyfrol ddathlu’r Cyngor Llyfrau, O Hedyn i Ddalen

Bydd yr wythnos yn dechrau gyda lansiad llyfr newydd i ddathlu’r pen-blwydd. Mae O Hedyn i Ddalen yn adrodd stori’r Cyngor dros 60 mlynedd o’i wreiddiau yn y 1960au hyd at heddiw. Wedi’i olygu gan Gwen Davies a gyda darluniau unigryw gan yr argraffydd Molly Brown, mae’r llyfr yn olrhain etifeddiaeth a gwaith y Cyngor trwy gyfraniadau gan yr Athro M. Wynn Thomas a rhai o ffigurau blaenllaw eraill y sector. Mae chwaer-gyfrol, Two Rivers from a Common Spring, ar gael yn Saesneg.

 

Dydd Mawrth 2 Tachwedd – Dathlu rhagoriaeth

Menna Lloyd Williams yn ennill Gwobr Mary Vaughan Jones

Menna Lloyd Williams yw enillydd Gwobr Mary Vaughan Jones 2021, gwobr sy’n ei hanrhydeddu am ei chyfraniad arbennig i faes llenyddiaeth plant. Bydd digwyddiad digidol ar sianel Cyngor Llyfrau Cymru #carudarllen AM amam.cymru/carudarllen am 7pm ddydd Mawrth, 2 Tachwedd fel rhan o ddathliadau’r wythnos.

 

Dydd Mercher 3 Tachwedd – Tuag at y dyfodol

Cymru: Cenedl o Ddarllenwyr – Lansio strategaeth bum mlynedd y Cyngor Llyfrau

Am 60 mlynedd mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi cyflawni ei brif bwrpas, sef cefnogi diwydiant cyhoeddi Cymru a hybu darllen er pleser i bawb.

Wrth gyhoeddi’i strategaeth newydd mae’r Cyngor yn datgan ei uchelgeisiau a’i weledigaeth am y pum mlynedd nesaf. Mae’n amlinellu sut y bydd yn symud ymlaen gyda’i genhadaeth yng nghyd-destun yr adferiad yn dilyn Covid, gan ymateb i Raglen Lywodraethu a Datganiad Llesiant Llywodraeth Cymru a chefnogi’r diwydiant i ymateb i gyfleoedd a heriau’r dyfodol.

 

Dydd Iau 4 Tachwedd – Hel atgofion

Dathlu 60 mlynedd o lyfrau, straeon – a Sbondonics!

Bydd tîm y Cyngor Llyfrau yn pori trwy’r archif ac yn rhannu delweddau ac atgofion o’r 60 mlynedd diwethaf ar ei gyfrifon cymdeithasol @LlyfrauCymru (Trydar / Instagram) a @Llyfr Da / Fab Books (Facebook). O faniau’r Ganolfan Ddosbarthu i gyn-enillwyr Gwobrau Tir na n-Og a Chlwb Sbondonics, cewch flas o weithgaredd y Cyngor Llyfrau dros y 60 mlynedd diwethaf.

 

Dydd Gwener 5 Tachwedd – y diwydiant ar waith
Ein Stori – lleisiau cyhoeddi heddiw
Bydd yr wythnos yn gorffen trwy rannu dwy ffilm fer (10 munud) a gomisiynwyd yn arbennig ar gyfer y dathliad, sef Ein Stori – lleisiau cyhoeddi heddiw ac Our Story – publishing voices today, sy’n arddangos y diwydiant cyhoeddi a’r byd llyfrau yng Nghymru. Trwy leisiau Manon Steffan Ros, Jon Gower, Myrddin ap Dafydd ac eraill, mae’r ffilmiau yn archwilio rôl a chyfraniad y Cyngor Llyfrau at y maes arbennig hwn dros y 60 mlynedd diwethaf a’i gefnogaeth barhaus wrth i’r diwydiant edrych tuag at y dyfodol.