Mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi penodi saith Ymddiriedolwr newydd i arwain gwaith yr elusen yn cefnogi’r diwydiant cyhoeddi a hyrwyddo darllen.

Bydd Rajvi Glasbrook Griffiths, Alwena Hughes Moakes, Lowri Ifor, yr Athro Carwyn Jones, Linda Tomos, yr Athro Gerwyn Wiliams a Dr Caroline Owen Wintersgill yn cymryd eu lle ar Fwrdd Ymddiriedolwyr newydd y Cyngor ar 1 Ebrill 2021.

Bydd y Bwrdd yn gyfrifol am lywodraethiant y Cyngor Llyfrau ac am oruchwylio cyfeiriad a strategaeth yr elusen genedlaethol.

Bydd pedwar o Ymddiriedolwyr presennol y Cyngor Llyfrau hefyd yn trosglwyddo o’r Pwyllgor Gwaith i fod yn aelodau o’r Bwrdd newydd, sef yr Athro M. Wynn Thomas (Cadeirydd), Rona Aldrich (Is-Gadeirydd), yr Athro Jane Aaron (Ysgrifennydd Mygedol) Chris Macey (Trysorydd Mygedol).

Dywedodd yr Athro M. Wynn Thomas, Cadeirydd y Cyngor Llyfrau: “A’r corff bellach yn dathlu ei ben-blwydd yn drigain, mae’n bleser cyhoeddi bod Cyngor Llyfrau Cymru wedi penodi arbenigwyr amlwg ym meysydd busnes, llywodraeth a chyhoeddi rhyngwladol ynghyd â rheolwyr cyrff diwylliannol i Fwrdd Ymddiriedolwyr a fydd yn cefnogi’r tîm mewnol o swyddogion profiadol sy’n gwasanaethu’r byd cyhoeddi yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae hwn yn ddatblygiad hynod gyffrous arall a fydd yn sicrhau bod gan y Cyngor system reoli briodol ar gyfer gofynion heriol diwydiant sydd bellach yn fythol gyfnewidiol.”

Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr y Cyngor Llyfrau: “Wrth i’r Cyngor nodi ei ben-blwydd yn 60 oed eleni, rwy’n edrych ymlaen at gydweithio â’r Bwrdd newydd wrth i ni bennu strategaeth ar gyfer y cyfnod heriol hwn a sicrhau ffyniant y diwydiant cyhoeddi yng Nghymru at y dyfodol. Fel elusen, rydym yn hynod o werthfawrogol o’r cyfraniad pwysig a wneir gan ein Hymddiriedolwyr, sy’n rhoi o’u hamser a’u harbenigedd yn gwbl wirfoddol er mwyn cefnogi’r byd llyfrau.”

Ymddiriedolwyr Newydd

Rajvi Glasbrook Griffiths: Yn Bennaeth Ysgol Gynradd High Cross yng Nghasnewydd sy’n gweithio ym maes addysg yng Nghymru ers 2009, mae Rajvi Glasbrook Griffiths hefyd yn Gyfarwyddwr gŵyl Llenyddiaeth Caerllion ers 2014, yn Gyfarwyddwr Prosiect Porth Caerllion ers 2016, ac yn aelod o Fwrdd Ymgynghorol y cychlgrawn Planet. Mae’n aelod o Bwyllgor Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol Llywodraeth Cymru yn ogystal â’i Gweithgor Cymunedau, Cyfraniadau a Chynefin Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn y Cwricwlwm Newydd.

Alwena Hughes Moakes: Mae Alwena Hughes Moakes yn Bennaeth Byd-eang Cyfathrebu ac Ymgysylltu â’r Gweithlu i gwmni amaeth rhyngwladol â’i bencadlys yn Basel, y Swistir. Cyn adleoli i’r Swistir, bu Alwena’n gweithio am rai blynyddoedd mewn swyddi rheoli ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn fwyaf diweddar fel Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Marchnata a Materion Cyhoeddus. Yn wreiddiol o’r Wyddgrug, mae Alwena yn gyfathrebwraig brofiadol a chanddi dros ugain mlynedd o brofiad o weithio ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat.

Lowri Ifor: Yn gyn-athrawes, mae Lowri Ifor yn gweithio i Amgueddfa Lechi Cymru ers 2018 fel Swyddog Addysg a Digwyddiadau ac mae hefyd yn dysgu dosbarth Cymraeg i Oedolion. Bu’n Olygydd Llyfrau Plant gyda Gwasg Carreg Gwalch rhwng 2018 a 2019 ac mae’n un o olygyddion y cylchgrawn Codi Pais ers 2018, yn ogystal ag yn aelod o bwyllgor Noson Pedwar a Chwech sy’n trefnu digwyddiadau cerddorol a llenyddol Cymraeg yn ardal Caernarfon.

Yr Athro Carwyn Jones: Mae’r Athro Carwyn Jones yn gyn-Brif Weinidog Cymru (2009–2018) a bu’n Aelod o’r Senedd dros Ben-y-bont ar Ogwr rhwng 1999 a 2021. Ar ôl graddio yn y gyfraith o Brifysgol Aberystwyth, aeth yn ei flaen i hyfforddi fel bargyfreithiwr yn Llundain gan weithio mewn practis cyfreithiol yn Siambrau Gŵyr, Abertawe am 10 mlynedd. Cafodd ei benodi yn Athro rhan-amser yn Adran y Gyfraith a Throseddeg, Prifysgol Aberystwyth yn 2019.

Linda Tomos: Yn llyfrgellydd siartredig ers 1975, bu Linda Tomos yn Llyfrgellydd Cenedlaethol Cymru rhwng 2015 a 2019 gan arwain straetgaeth y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Cyn hynny, bu’n uwch-was sifil gyda Llywodraeth Cymru ac yn Gyfarwyddwr cyntaf CyMAL: Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Cymru o fewn yr Adran Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth. Yn gyn-Gadeirydd Cyngor Gwasanaethau Llyfrgell a Gwybodaeth Cymru, bu’n Gadeirydd Cyngor Darlledu Addysgol BBC Cymru rhwng 1999 a 2003 ac yn Gadeirydd Bwrdd Ymgynghorol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru rhwng 2016 a 2020.

Yr Athro Gerwyn Wiliams: Mae Gerwyn Wiliams yn Athro yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor ers 2005, a bu’n gweithio yn Ysgol y Gymraeg ers 1989. Mae’n aelod o Fwrdd Ymgynghorol y cylchgrawn O’r Pedwar Gwynt ers 2019 ac yn aelod o Fwrdd Cyfarwyddwyr Theatr Bara Caws ers 2018. Yn gyn-enillydd Coron yr Eisteddfod Genedlaethol (1994) a Gwobr Llyfr y Flwyddyn (1997), mae hefyd wedi beirniadu nifer o gystadlaethau llenyddiaeth, yn cynnwys Medal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2017 a Llyfr y Flwyddyn yn 2011. Bu’n aelod o Fwrdd Cyngor Celfyddydau Cymru rhwng 2010 a 2016.

Dr Caroline Owen Wintersgill: Mae Dr Caroline Owen Wintersgill yn Ddarlithydd mewn Cyhoeddi yng Ngholeg Prifysgol Llundain (UCL) ac yn Gyfarwyddwr Rhaglen ar y radd MA mewn Cyhoeddi. Mae ganddi ddoethuriaeth ar ddarllen, ysgrifennu a chyhoeddi ffuglen gyfoes, oedd yn cynnwys gweithio gyda grwpiau darllen ar draws y Deyrnas Unedig yn ogystal â chyfweliadau gydag awduron a chyhoeddwyr. Cyn symud i’r maes academaidd, bu’n gweithio am dros 25 mlynedd i rai o gyhoeddwyr blaenllaw Prydain, yn cynnwys Routledge, Bloomsbury a Manchester University Press. Ochr yn ochr â’i gwaith dysgu, mae’n Olygydd Arbennig gyda Biteback Publishing ac yn Uwch-olygydd Ymgynghorol gyda Lynne Rienner Publishers yn Colorado ers 2015.

Cyfarfodydd

Bydd cyfarfodydd llawn o’r Bwrdd Ymddiriedolwyr yn cael eu cynnal bedair gwaith y flwyddyn.

Ar 1 Ebrill 2021, bydd y Cyngor Llyfrau yn trosglwyddo o fod yn elusen anghofrestredig i fod yn Sefydliad Corfforedig Elusennol (SCE).

Bydd aelodau Cyngor y Cyngor Llyfrau, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o’r awdurdodau sir a sefydliadau eraill, yn trosglwyddo’n aelodau o’r elusen ac yn cwrdd yn ffurfiol unwaith y flwyddyn mewn Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.