Bu farw un o brif lenorion Cymru, yr awdur a’r bardd Emyr Humphreys, ar ddydd Mercher, 30 Medi 2020. Yn 101 oed, bu’n cyhoeddi ei waith dros gyfnod o saith degawd. Dyma deyrnged Cadeirydd y Cyngor Llyfrau, yr Athro M. Wynn Thomas, i’r gŵr a oedd yn gyfaill agos iddo ac yn un o Lywyddion Anrhydeddus Cyfeillion y Cyngor Llyfrau.

Roedd Emyr Humphreys yn blentyn y Rhyfel Byd Cyntaf, yn un o’r mawrion llên mwyaf yn ein hanes hen, a’i yrfa ddisglair fel awdur o fri cydwladol yn rhychwantu saith deg o flynyddoedd. Yn ogystal â chyhoeddi dros ddau ddwsin o nofelau, roedd yn awdur dramâu a cherddi ac ysgrifau diwylliannol nodedig, yn ymgyrchydd diwylliannol eofn, ac yn gynhyrchydd radio a theledu arloesol.

Disgrifiodd ei arwr Saunders Lewis fel ‘ffigur anhepgor’, ac roedd yr un peth yn wir amdano yntau. Fe adnabuwyd ei ddawn gyntaf gan Graham Greene, ac aeth yn ei flaen i weithio gyda Richard Burton, Siân Phillips a Peter O’Toole. Ymhlith ei ffrindiau roedd R.S. Thomas, Kate Roberts a John Gwilym Jones, ac roedd ei gariad at yr Eidal yn ail agos i’w gariad at Gymru.

Roedd yn Gymro Ewropeaidd, ac yn awdur a ddylanwadwyd gan fawrion llên y Cyfandir. Fe welai fod y diwylliant Cymraeg dan fygythiad cyson yn y byd modern, a sylweddolodd ei fod felly yn rhannu cyflwr pobloedd ‘ymylol’ dros y byd.

Ef oedd cynrychiolydd olaf y cyfnod euraidd yn ein hanes pryd y gwnaeth cynifer o’n llenorion pennaf ni ymrwymo i wasanaethu Cymru.

Mae ei golli yn golygu colli amddiffynnydd ymroddedig a llinyn mesur gwerthfawrocaf ein diwylliant llên.

Heddwch i’w lwch, ac na foed i’n cof amdano bylu byth.

Catalog Canmlwyddiant

Cafodd catalog arbennig o waith Emyr Humphreys ei gyhoeddi gan y Cyngor Llyfrau ar achlysur ei ben-blwydd yn 100 oed yn 2019: http://www.cllc.org.uk/7892.file.dld