DIWNROD O DDATHLU I DARLLENWYR O BOB CWR O GYMRU

Roedd Canolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth dan ei sang gan blant o bob cwr o Gymru ar 21–23 Mehefin pan ddaethant i gymryd rhan yn rowndiau cenedlaethol Darllen Dros Gymru a BookSlam, sef cystadlaethau darllen a drefnwyd gan Gyngor Llyfrau Cymru ar gyfer plant ysgolion cynradd yng Nghymru.

Gwelwyd 35 o dimau o ysgolion ledled Cymru yn cystadlu am wobrau arbennig trwy drafod ystod eang o lyfrau, a chyflwyno perfformiadau’n seiliedig ar gyfrolau penodol a ddarllenwyd ganddynt.

Rowndiau cenedlaethol y cystadlaethau yw penllanw’r gweithgareddau sy’n digwydd drwy Gymru dros sawl mis, gyda disgyblion yn cystadlu am yr anrhydedd o gynrychioli eu siroedd.

Disgyblion Blynyddoedd 3 a 4 oedd yn cystadlu yn erbyn ei gilydd ddydd Mawrth, 21 Mehefin. Ysgol Melin Gruffydd, Caerdydd gipiodd y brif wobr am drafodaeth ar Y Ferch Newydd a hysbyseb i hyrwyddo’r gyfrol Y Crwt yn y Cefn. Llongyfarchiadau hefyd i Ysgol Bro Cernyw, Sir Conwy a ddaeth yn ail yn y gystadleuaeth, gyda’r drydedd wobr yn mynd i Ysgol Pennant, Powys.

Tro disgyblion Blynyddoedd 5 a 6 oedd hi ddydd Mercher, 22 Mehefin, a bu cystadlu brwd am y brif wobr. Fe’i henillwyd eleni gan Ysgol Bro Cernyw, Sir Conwy, am drafodaeth ar Dyddiadur Dripsyn: Oes yr Arth a’r Blaidd a hysbyseb i hyrwyddo’r llyfr Dirgelwch y Dieithryn. Daeth Ysgol Pant Pastynog, Sir Ddinbych, yn ail ac Ysgol Henry Richard, Ceredigion, yn drydydd.

Fel rhan o weithgareddau’r rowndiau cenedlaethol, cafodd y plant a’r athrawon gyfle i fwynhau sesiynau yng nghwmni’r awdur Caryl Lewis.

Wedi diwrnod o gystadlu brwd ar 23 Mehefin, dyfarnwyd Ysgol Llandysilio, Powys yn bencampwyr BookSlam, ar ôl iddynt greu argraff arbennig wrth drafod y nofel The Black Pit of Tonypandy. Yn rownd y cyflwyniadau, fe wnaethant blesio’r beirniad gyda’u hysbyseb hyrwyddo ar gyfer Where the Wilderness Lives. Cipiwyd yr ail safle gan Ysgol y Wern, Caerdydd, a’r trydydd safle gan Ysgol Sychdyn, Sir y Fflint.

Yn ystod y dydd, cafodd yr holl blant a’r athrawon gyfle hefyd i fwynhau sesiynau hwyliog yng nghwmni’r awdur Medi Jones-Jackson.

Eleni, Morgan Dafydd oedd yn beirniadu trafodaethau Darllen Dros Gymru, Liz Kennedy oedd yn beirniadu trafodaethau BookSlam, gyda Lleucu Siôn yn beirniadu’r holl gyflwyniadau.

Dywedodd Helen Jones, Pennaeth Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen Cyngor Llyfrau Cymru: ‘Mae cystadleuaeth Darllen Dros Gymru yn gyfle arbennig i blant afael mewn copi o lyfr, ei ddarllen a gwir fwynhau’r cynnwys. Gall y plant ddefnyddio eu dychymyg, dadansoddi’r cynnwys a thrafod yr hyn sydd yn digwydd. Rhaid diolch i’r trefnwyr ymroddedig am eu gwaith caled yn y rowndiau sirol, ac i’r athrawon a’r cefnogwyr eraill sy’n sicrhau llwyddiant y digwyddiad hwn bob blwyddyn.’

O ganlyniad i gefnogaeth hael nifer o gyhoeddwyr, cafodd pob plentyn a gymerodd ran yn y rowndiau cenedlaethol ddewis llyfr yn rhad ac am ddim.