Roedd Canolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth dan ei sang gan blant o bob cwr o Gymru ar 25 a 26 Mehefin pan ddaethant yn eu cannoedd i ddathlu darllen yn rowndiau cenedlaethol Darllen Dros Gymru, cystadlaethau a drefnwyd gan Gyngor Llyfrau Cymru ar gyfer plant oedran cynradd.

Roedd 34 o dimau o ysgolion ledled Cymru yn ymgiprys am y teitl Pencampwyr Darllen Dros Gymru 2019.

Rowndiau cenedlaethol y cystadlaethau yw penllanw’r gweithgareddau sy’n digwydd drwy Gymru dros sawl mis, gyda disgyblion yn cystadlu am yr anrhydedd o gynrychioli eu siroedd yn Aberystwyth.

Trafod llyfr oddi ar rhestr ddarllen a chyflwyno perfformiad fydd yn denu eraill at ddarllen y llyfr oedd yr her a osodwyd i’r disgyblion gyda Mair Heulyn Rees a Rhian Cadwaladr yn feirniaid.

Fel rhan o raglen y dydd, cafodd y plant a’r athrawon gyfle i fwynhau sesiynau hwyliog dros ben yng nghwmni’r awdur a’r actor Meilyr Siôn. Bu’n sbarduno’r darllenwyr brwd gyda chyflwyniad o’i lyfr diweddaraf ‘Hufen Afiach’ (Atebol).

Dywedodd Rob Kenyon, athro o Ysgol Sant Baruc, Bro Morgannwg, “Mae’r plant wrth ei boddau yn cael cyfle i drafod y llyfrau ac i gyflwyno’r stori. Mae’n rhoi cyd-destun go iawn i waith datblygu llythrennedd a hynny mewn ffordd hwyliog dros ben. Mae cael y cyfle i gyfarfod ag awdur go iawn yn goron ar y cwbl.”

Disgyblion Blynyddoedd 3 a 4 oedd yn cystadlu ddydd Mawrth, 25 Mehefin. Ysgol Llannon, Sir Gaerfyrddin gipiodd y brif wobr am gyfuniad o’r cyflwyniad gorau a’r trafod gorau. Yr ysgol yma hefyd oedd enillwyr Tlws Coffa Anwen Tydu am y cyflwyniad dramatig gorau, gan seilio’u perfformiad ar Llanast gan Mari Lovgreen (Gomer).

Ysgol y Garnedd, Gwynedd ddaeth yn ail yn y gystadleuaeth, a nhw hefyd enillodd y tlws am y grŵp trafod orau. Aeth y drydedd wobr i Ysgol Y Wern, Caerdydd.

Tro disgyblion Blynyddoedd 5 a 6 oedd hi ddydd Mercher, 26 Mehefin, a bu cystadlu brwd am y Bencampwriaeth. Fe’i henillwyd eleni gan Ysgol Gymraeg Rhydaman, Sir Gaerfyrddin, gydag Ysgol Pen Barras, Sir Ddinbych, yn ail ac Ysgol Sant Baruc, Bro Morgannwg yn drydydd.

Ysgol Pen Barras gipiodd Dlws Coffa Anwen Tydu, gyda’u cyflwyniad yn seiliedig ar y gyfrol Pren a Chansen (Gwasg Carreg Gwalch) gydag Ysgol Gymraeg Rhydaman yn derbyn y tlws am y grŵp trafod gorau.

Dywedodd Helen Jones, Pennaeth Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen Cyngor Llyfrau Cymru: “Mae cystadleuaeth Darllen Dros Gymru yn gyfle arbennig i blant afael mewn copi o lyfr, ei ddarllen a gwir fwynhau’r cynnwys. Gall y plant ddefnyddio eu dychymyg, dadansoddi’r cynnwys a thrafod yr hyn sydd yn digwydd. Diolch i’r trefnwyr ymroddedig am eu gwaith caled yn y rowndiau sirol, ac i’r athrawon a’r cefnogwyr eraill sy’n sicrhau llwyddiant y digwyddiad hwn bob blwyddyn.”

O ganlyniad i gefnogaeth hael nifer o gyhoeddwyr – Gomer, Carreg Gwalch, Y Lolfa a Chyhoeddiadau Rily – cafodd pob plentyn a gymerodd ran yn y rowndiau cenedlaethol ddewis llyfr yn rhad ac am ddim.