Gorau’r Goreuon: Cyflwyno tair stori o’r gorffennol i gynulleidfaoedd ifanc 2021

Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn lansio tri theitl cyntaf Gorau’r Goreuon, detholiad o lyfrau ar gyfer plant a phobl ifanc. Bwriad Gorau’r Goreuon yw cyflwyno detholiad o lyfrau a ystyrir yn glasuron ym maes llenyddiaeth plant a phobl ifanc i genhedlaeth newydd o ddarllenwyr.

Y teitlau fydd yn ymddangos yn y flwyddyn gyntaf yw Dirgelwch y Dieithryn (Elgan Philip Davies), O’r Tywyllwch (Mair Wynn Hughes) a Luned Bengoch (Elizabeth Watkin-Jones).

Yn 2016 comisiynodd Cyngor Llyfrau Cymru Dr Siwan Rosser o Brifysgol Caerdydd i gynnal arolwg o lyfrau plant a phobl ifanc. Mae’r gwaith hwnnw wedi llywio llawer o waith y Cyngor Llyfrau yn y maes hwn ers hynny. Un o’i argymhellion oedd:

Dylid ystyried ailgyhoeddi llyfrau poblogaidd Cymraeg neu ‘glasuron’ o’r gorffennol, a’u diweddaru yn rhan o genre neu gyfres benodol er mwyn creu marchnad ac iddi frand cynhenid cryf sy’n para o un genhedlaeth i’r llall.

Sefydlwyd panel o arbenigwyr ym maes llenyddiaeth plant a phobl ifanc i ddethol o blith y teitlau y gellid eu cynnwys ar y rhestr gychwynnol hon.

Dywedodd Morgan Dafydd, sylfaenydd gwefan Sôn am Lyfra ac aelod o banel y detholwyr: ‘Mae’n siopau llyfrau ar y cyfan yn llawn o lyfrau newydd. A chyn pen dim bydd llyfrau mwy newydd yn cymryd eu lle. Weithiau pan fo pobl yn dweud, ‘does dim digon o ddeunydd ar gyfer pobl ifanc yn Gymraeg’, mae’n hawdd anghofio am bethau gyhoeddwyd y llynedd, heb sôn am y llyfrau gwych gyhoeddwyd flynyddoedd maith yn ôl.’

(Cloriau Luned Bengoch, 2021, 1983 a 1947)

Cyhoeddwyd Luned Bengoch yn wreiddiol ym 1946 gan Wasg y Brython, ac yna diweddarwyd y cynnwys gan Hugh D. Jones a’i ailgyhoeddi gan Wasg Gomer ym 1983. Gwasg Gomer hefyd oedd cyhoeddwyr O’r Tywyllwch ym 1991 a Dirgelwch y Dieithryn ym 1993, y naill yn rhan o gynllun Gwreiddiau a’r llall yn rhan o Gyfres Corryn.

Dwedodd Helen Jones, Pennaeth Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen y Cyngor Llyfrau: ‘Mae’r storïau hyn yn fythol wyrdd, ac ychydig iawn o waith golygyddol oedd ei angen arnynt i’w gwneud yn addas ar gyfer amrywiaeth o gynulleidfaoedd cyfoes. Rhan gwbl allweddol o lwyddiant unrhyw gyfrol yw’r clawr, ac os yw’r Cyngor Llyfrau wedi edrych yn ôl i ganfod y goreuon mae wedi edrych ymlaen trwy gomisiynu tri artist cyfoes i ddylunio’r cloriau: Efa Blosse-Mason, Chris Iliff a Nia Tudor – dau ohonynt yn enwau newydd i’r maes.’

Bydd y Cyngor Llyfrau yn casglu adborth ar y tair cyfrol gyntaf yma yn ystod tymor yr Hydref gan obeithio ychwanegu at y gyfres yn ystod y blynyddoedd nesaf. Bydd yn derbyn argymhellion gan y cyhoeddwyr a’r cyhoedd am deitlau eraill i’w cynnwys yn y casgliad.