AM Y TRO CYNTAF, LLYFR WEDI’I GYFIEITHU YN ENNILL MEDAL YOTO CARNEGIE AM YSGRIFENNU;
NOFEL GRAFFIG YN ENNILL Y FEDAL AM DDARLUNIO AM YR AIL FLWYDDYN YN OLYNOL

LLYFRAU AROBRYN SY’N CYNNIG CYFLE I DDARLLENWYR IFANC YMGOLLI YN Y PROFIAD O DDARLLEN, A’U HANNOG I EDRYCH I’R DYFODOL

yotocarnegies.co.uk | #YotoCarnegies23 | @CarnegieMedals

Dydd Mercher 21 Mehefin 2023: Heddiw, mewn seremoni wedi’i ffrydio’n fyw o’r Barbican, cyhoeddwyd enillwyr gwobrau Yoto Carnegie – y gwobrau hynaf a mwyaf poblogaidd o’u bath ym myd llyfrau plant a phobl ifanc yn y DU.

Am y tro cyntaf ers i’r gwobrau gael eu cyflwyno 90 o flynyddoedd yn ôl, rhoddir Medal Yoto Carnegie am Ysgrifennu i lyfr wedi’i gyfieithu, sef The Blue Book of Nebo (Firefly Press), a ysgrifennwyd a’i gyfieithu gan Manon Steffan Ros. Cyflwynir y naratif, sydd wedi’i osod ym mhentref ôl-apocalyptig Nebo, gan y fam a’r mab bob yn ail. Mae’r stori “rymus, gredadwy” hon yn archwilio hunaniaeth a diwylliant Cymreig a Chymraeg, ac yn cynnig portread hardd o iaith. Enillodd y gyfrol Gymraeg wreiddiol, Llyfr Glas Nebo, wobrau niferus, gan gynnwys Llyfr y Flwyddyn yng Nghymru yn 2019.

Enillydd Medal Yoto Carnegie am Ddarlunio yw Jeet Zdung am Saving Sorya: Chang and the Sun Bear, (Kingfisher, rhan o Macmillan Children’s Books). Dyma’r ail flwyddyn yn olynol i nofel graffig gipio’r wobr. Dr Trang Nguyen, y cadwriaethwr bywyd gwyllt o Vietnam, a ysgrifennodd ac ysbrydoli’r lluniau arddull manga “prydferth” – gan gynnwys golygfeydd mewn dyfrlliw a brasluniau manwl mewn pensil – ac mae’r cyfuniad yn cynnig “rhywbeth newydd i’w ddarganfod ar bob darlleniad” ac yn ysbrydoli ac addysgu pobl ifanc sy’n ymgyrchu dros fywyd gwyllt.

Mae gwobrau Yoto Carnegie yn dathlu llwyddiant eithriadol ym maes ysgrifennu a darlunio llyfrau i blant, ac maent yn unigryw am eu bod yn cael eu beirniadu gan banel arbenigol o lyfrgellwyr plant a phobl ifanc, gan gynnwys 12 llyfrgellydd o Grŵp Llyfrgelloedd Ieuenctid CILIP, y gymdeithas llyfrgelloedd a gwybodaeth.

Dewiswyd yr enillwyr o blith rhestr fer o saith llyfr yn achos y naill, a rhestr fer o chwe llyfr yn achos y llall. Canmolodd y beirniaid y ddau enillydd am roi cyfle i blant “ymgolli” yn y profiad o ddarllen, ac am ymdrin â chwestiynau am ein ffordd ni o fyw a sut y gallai hyn effeithio ar y dyfodol – trwy’r portread o fywyd bob dydd yn The Blue Book of Nebo, a thrwy’r ymgais yn Saving Sorya: Chang and the Sun Bear i warchod anifeiliaid a’r amgylchedd.

Bob blwyddyn mae miloedd o grwpiau darllen mewn ysgolion a llyfrgelloedd yn y DU a ledled y byd yn cymryd rhan yn y Gwobrau, gyda phlant a phobl ifanc yn ‘cysgodi’ y broses o feirniadu, trwy drafod a dewis eu henillwyr eu hunain. Maent wedi pleidleisio am eu ffefrynnau o blith y rhestr eleni, ac wedi dewis rhoi Medal Grŵp Cysgodi Yoto Carnegie am Ysgrifennu i I Must Betray You gan Ruta Sepetys, a Medal Grŵp Cysgodi Yoto Carnegie am Ddarlunio i The Comet gan Joe Todd-Stanton.

Enillodd Sepetys Fedal Carnegie am Ysgrifennu yn 2017 am Salt to the Sea, a chyrhaeddodd ei The Fountains of Silence y rhestr fer yn 2021. Nofel ar gyfer oedolion ifanc, wedi’i gosod yn ystod y Chwyldro yn Romania, yw I Must Betray You. Fe’i disgrifiwyd gan Grace o The Abbey Readers fel nofel “rymus” a “gafaelgar” y mae’n “rhaid ei darllen”, a dywedodd Giselle, o grŵp Cysgodi Carnegie HAEC Books and Biscuits, ei bod yn nofel hanes “bwerus a theimladwy …. Mae’r awdur yn archwilio themâu fel rhyddid, brad, a gobaith mewn ffordd sy’n gwneud i ni feddwl ac sydd hefyd yn berthnasol i’n bywydau ni ein hunain.”

Llyfr stori-a-llun tyner am dad a merch sy’n symud o gefn gwlad i’r ddinas mewn ymgais i ddod o hyd i ymdeimlad o gartref yw The Comet. Fe’i canmolwyd gan Darcy-Belle o Chandlings Prep School am y “lluniau lliwgar a llachar”, a chan Logan o The Great Bookish Club am ei fod “yn llawn dychymyg ac antur”. Cyrhaeddodd The Secret of Black Rock gan Todd-Stanton restr hir y Fedal am Ddarlunio 2018.

Datgelwyd yr enillwyr mewn seremoni a gynhaliwyd yn y Barbican, ac a gafodd ei ffrydio’n fyw a’i gwylio gan grwpiau cysgodi ledled y wlad. Cyflwynydd y gwobrau oedd y cyn-Fardd Plant, Lauren Child CBE, a enillodd Fedal Carnegie am Ddarlunio – sef Medal Kate Greenaway bryd hynny – yn 2000 am I Will Not Ever Never Eat a Tomato, llyfr cyntaf cyfres Charlie a Lola.

Dywedodd Janet Noble, Cadeirydd Beirniaid Gwobrau Yoto Carnegie 2023: “Gan fod y rhestr fer mor anhygoel o gryf, mae ein panel beirniaid wedi trafod yn hir ac yn helaeth cyn dewis dau enillydd haeddiannol ar gyfer Medalau Yoto Carnegie 2023.

Yn The Blue Book of Nebo, mae’r ffordd fedrus y caiff y cysyniad o adeiladu byd ei gyfleu, a lleisiau nodedig y ddau brif gymeriad, sef y mab a’i fam, yn gorfodi’r darllenydd i gwestiynu ei berthynas ei hun â’r byd modern. Mae Saving Sorya: Chang and the Sun Bear yn stori brydferth, wedi’i hadrodd yn goeth, ac yn plethu gwedd fyd-eang ar gadwraeth a stori rymus go iawn am ferch ysbrydoledig sy’n gweithredu dros yr amgylchedd, a hynny trwy gyfrwng arlunwaith manga a dyfrlliw trawiadol. Mae Jeet wedi saernïo pob darlun fel bod y darllenydd yn ymgolli’n llwyr yn y llyfr, fel y mae Manon wedi denu’r darllenydd i’r stori gyda’i hysgrifennu pwerus a phwrpasol.

Diolch i ddarllenwyr ifanc ar hyd a lled y wlad am ystyried ein rhestri byrion ac am bleidleisio am eu dewis hwy o enillwyr haeddiannol ar gyfer Medalau’r Grŵp Cysgodi. Llongyfarchiadau enfawr i bob un o’r pedwar sydd wedi ennill medalau Yoto Carnegie eleni; mae eu gwaith yn dangos ysgrifennu a darlunio llyfrau plant o bob math ar ei orau.”

Mae’r awdur adnabyddus Manon Steffan Ros yn byw yn Nhywyn yng ngogledd Cymru. Mae hi wedi ysgrifennu 23 o lyfrau i oedolion a phlant, ac wedi ennill Gwobr Llyfrau Plant Tir na n-Og bedair gwaith. The Blue Book of Nebo yw’r nofel Saesneg gyntaf ar gyfer oedolion ifanc i Manon ei chyhoeddi, a hynny gan Firefly Press, enillydd Gwobr Gwasg Fechan y Flwyddyn yng Nghymru gan y British Book Awards. Roedd y beirniaid yn edmygu’r “gwerthfawrogiad o iaith, darllen a llenyddiaeth” ac yn ei disgrifio fel “torcalonnus”, “teimladwy” ac yn “gyfoethog o ran diwylliant Cymreig”. Yn sgil llwyddiant The Blue Book of Nebo mae Firefly wedi sicrhau dau deitl arall gan yr awdur ar gyfer oedolion ifanc, sef Feather (Pluen), a Me and Aaron Ramsey (Fi ac Aaron Ramsey), i’w cyhoeddi yn Saesneg yn 2024.

Dywedodd Manon Steffan Ros, enillydd Medal Yoto Carnegie am Ysgrifennu: “Roeddwn i’n arfer gweld y gair ‘Carnegie’ ar gloriau fy hoff lyfrau pan oeddwn yn blentyn, ac mae’r ffaith fod The Blue Book of Nebo yn awr wedi derbyn yr anrhydedd honno’n golygu mwy nag y galla i ei gyfleu – ac rydw i wrth fy modd mai hwn yw’r tro cyntaf i lyfr wedi’i gyfieithu ennill Medal Yoto Carnegie am Ysgrifennu. Un o freintiau pennaf fy mywyd oedd y fraint o gael fy magu drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae cael mynediad i ddwy iaith wedi rhoi cymaint o bleser a chyfleoedd i mi. Mae’n anrhydedd cael bod yn rhan o fwrlwm diwylliant Cymraeg enfawr, bywiog, a ffyniannus. Mae pob iaith yn ehangu a chynnig persbectif unigryw ar y byd, ac felly mae gan lenyddiaeth wedi’i chyfieithu y potensial i wir gyfoethogi ein bywydau. Efallai nad yw eich hoff lyfr wedi cael ei gyfieithu hyd yn hyn i iaith rydych chi’n ei deall.”

Magwyd yr arlunydd comic a’r darlunydd Jeet Zdung yn Hanoi, Vietnam, ac mae’n dal i fyw yno. Mae’n defnyddio arddulliau darlunio amrywiol, o ddarluniau realistig i arddulliau cartŵn, manga, a gwerin Vietnam a Japan, i greu gweithiau amlffurf ar gyfer darllenwyr o bob oed. Mae wedi ennill sawl gwobr, gan gynnwys Gwobr Rhagoriaeth Silent Manga Audition am y manga Stand Up and Fly. Ochr yn ochr ag enillydd y Fedal am Ddarlunio y llynedd, sef Danica Novgorodoff am Long Way Down, a ysgrifennwyd gan Jason Reynolds, dengys y ddwy nofel graffig hyn pa mor hyblyg yw’r ffurf hon wrth adrodd stori. Rhoes y beirniaid ganmoliaeth i Zdung am ei “ddefnydd clyfar o banelu”, a’r ffordd y plethodd arddulliau nofel graffig ac arddulliau manga i greu “drama ac effaith”, yn ogystal â “chyfuniad perffaith” rhwng y gweledol a’r testun.

Dywedodd Jeet Zdung, enillydd Medal Yoto Carnegie am Ddarlunio: “Pan oeddwn yn blentyn, roeddwn bob amser yn dymuno creu fy ffilmiau cartŵn fy hun. Taith i fodloni’r ysfa honno i greu ffilm afaelgar ar bapur trwy ddefnyddio dylanwadau comic a manga oedd y broses o greu Saving Sorya: Chang and the Sun Bear. Trwy rannu ein gwybodaeth am yr hyn rydym yn ei garu ac yn poeni amdano, gobaith Trang Nguyen a minnau yw y bydd y llyfrau hyn yn cyfrannu at warchod bywyd gwyllt. I mi, mae hon yn daith hir, barhaus. Mae ennill y fedal hon yn anrhydedd fawr. Rydyn ni’n gobeithio y bydd effaith ennill y wobr i’w theimlo’n eang ac y bydd yn tynnu sylw at yr argyfwng sy’n wynebu Arth yr Haul a bywyd gwyllt yn gyffredinol.”

Bydd yr enillwyr yn derbyn gwerth £500 o lyfrau i’w rhoi i lyfrgell o’u dewis, Gwobr Colin Mears o £5,000, a medal aur wedi’i dylunio o’r newydd. Am y tro cyntaf eleni, derbyniodd enillwyr y Grwpiau Cysgodi fedalau aur hefyd.

Bydd Manon Steffan Ros yn rhoi’r llyfrau i lyfrgell Tywyn yng Ngwynedd, ei llyfrgell leol lle yr ysgrifennodd rai o’i llyfrau ar adeg pan nad oedd ganddi ryngrwyd yn ei chartref. Mae Trang Nguyen a’i mudiad WildAct wedi sefydlu llyfrgelloedd i blant mewn ardaloedd gerllaw parciau cenedlaethol yn Vietnam, er mwyn gwella eu sgiliau darllen a’u gwybodaeth am gadwraeth; bydd cyfraniad Zdung yn mynd at yr achos hwnnw.

Yoto, y platfform llafar, di-sgrin arloesol yw prif noddwr y Gwobrau. Mae Gwobrau Yoto Carnegie yn cael eu noddi gan ALCS a Scholastic, sef y cyflenwr llyfrau swyddogol, tra bod First News yn gweithredu fel y partner swyddogol i weithio gyda’r cyfryngau am 2023.