Mae Cyfeillion Cyngor Llyfrau Cymru yn chwilio am syniadau am nofelau i oedolion ifanc mewn cystadleuaeth arbennig sy’n cynnig gwobr hael.

Gofynnir i awduron anfon penodau cyntaf nofel Gymraeg i oedolion ifanc, yn ogystal â synopsis o weddill y nofel, drwy ebost erbyn 20 Chwefror 2020.

Beirniedir y gystadleuaeth gan yr awdur Meinir Pierce Jones, y cyfansoddwr a’r cyn-lyfrgellydd Robat Arwyn Jones, a Gwawr Maelor, darlithydd mewn Addysg Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor, mewn ymgynghoriad â chriw o ddarllenwyr ifanc.

Bydd yr enillydd yn derbyn gwobr o £1000 gan Gyfeillion y Cyngor Llyfrau, gyda’r gobaith y bydd y nofel fuddugol yn cael ei chyhoeddi o fewn y flwyddyn.

Mae’r gystadleuaeth yn agored i bawb, yn awduron newydd ac yn awduron profiadol.

Gofynion y gystadleuaeth yn llawn

Ysgrifennu penodau cyntaf nofel Gymraeg i oedolion ifanc, ynghyd â synopsis o weddill y nofel.

Y beirniaid fydd Meinir Pierce Jones, Robart Arwyn Jones, Gwawr Maelor. Bydd y beirniaid hefyd yn ymgynghori â darllenwyr ifanc er mwyn cael eu barn.

Gwobr

£1,000, gyda’r gobaith y bydd y nofel fuddugol yn cael ei chyhoeddi o fewn y flwyddyn. Bydd y beirniaid yn rhannu eu hadborth â gweisg Cymru yn y gobaith y caiff y goreuon eu comisiynu.

Dyddiad Cau

Dylid anfon y penodau cyntaf a’r synopsis dan ffugenw at cyfeillion@llyfrau.cymru erbyn 20 Chwefror 2020. Derbynnir ceisiadau electronig yn unig.

Cyhoeddi’r enillydd

Bydd enw’r enillydd yn cael ei gyhoeddi yn ystod Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2020, gyda’r gobaith o gyhoeddi’r nofel lwyddiannus o fewn y flwyddyn. Am fwy o fanylion, cysylltwch â cyfeillion@llyfrau.cymru