PENODI LINDA TOMOS CBE YN GADEIRYDD CYNGOR LLYFRAU CYMRU

Penodwyd Linda Tomos yn Gadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr Cyngor Llyfrau Cymru yn y Cyfarfod Blynyddol a gynhaliwyd ddydd Llun, 25 Gorffennaf. Mae Linda yn olynu’r Athro M. Wynn Thomas, sy’n ymddeol ar ôl arwain y Cyngor am 20 mlynedd.

Cadarnhaodd yr aelodau hefyd y byddai Rona Aldrich yn parhau yn ei rôl fel Is-Gadeirydd y Cyngor Llyfrau, rôl y mae wedi ei chyflawni ers 2015.

Ar ôl ei phenodi, dywedodd Linda Tomos: ‘Rwyf yn edrych ymlaen at gydweithio â’m cyd-ymddiriedolwyr a staff talentog y Cyngor Llyfrau i ddarparu strategaeth gyffrous ac uchelgeisiol ar gyfer y pum mlynedd nesaf, gan gryfhau’r sector a chyrraedd cynulleidfaoedd newydd ar draws Cymru.’

Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: ‘Hoffwn estyn fy llongyfarchiadau gwresog i Linda ar gael ei phenodi i rôl y Cadeirydd. Rwyf i, a chyd-ymddiriedolwyr Linda, eisoes wedi elwa’n fawr o’i chyfraniad fel aelod o’r Bwrdd ers mis Ebrill 2021, ac o’i chefnogaeth i ddatblygu ein strategaeth newydd ar gyfer y pum mlynedd nesaf.

Hoffwn hefyd dalu teyrnged i’r cyfraniad a’r gefnogaeth ddibrin eithriadol a gafwyd gan yr Athro M. Wynn Thomas dros ei gyfnod o 20 mlynedd fel Cadeirydd. Mae ei arweinyddiaeth wedi ein cynorthwyo i lywio’n ffordd drwy rai cyfnodau heriol gan ein cryfhau fel sefydliad ac edrychaf ymlaen at gydweithio gyda Linda, Rona a Bwrdd yr Ymddiriedolwyr i adeiladu ar ei etifeddiaeth.’

Dywedodd yr Athro M. Wynn Thomas: ‘Bu’n fraint ac yn bleser digymysg i fod yn Gadeirydd y Cyngor, ac i’w weld yn tyfu yn gorff cenedlaethol o bwys sy bellach yn gwasanaethu holl ddiwydiant cyhoeddi egnïol y genedl.

Mae arnaf ddyled enfawr i’r swyddogion a fu’n cydweithio â mi, i staff y Cyngor, ac yn arbennig i’r tri Chyfarwyddwr disglair o ddawnus y bûm yn eu cynorthwyo. Fe fu’n addysg ac yn ysbrydoliaeth i’w gwylio wrth eu gwaith. Dymunaf bob llwyddiant i’m holynydd. Wrth gymryd y Gadair gall fod yn berffaith hyderus bod y Cyngor yn mynd o nerth i nerth.’

Mae Linda Tomos yn llyfrgellydd siartredig gyda thros 40 mlynedd o brofiad yn y sector, a bu’n Llyfrgellydd Cenedlaethol rhwng 2015 a 2019 gan arwain y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Mae wedi gweithio fel uwch was sifil gyda Llywodraeth Cymru a hi oedd Cyfarwyddwr cyntaf CyMAL: Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Cymru. Yn aelod o’r Orsedd, anrhydeddwyd Linda â’r CBE yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines yn 2020 am ei gwasanaeth i ddiwylliant Cymraeg.

Ymunodd Rona Aldrich â Phwyllgor Gwaith y Cyngor Llyfrau yn 2011 ac fe’i penodwyd yn Is-Gadeirydd yn 2015. Roedd hi’n Is-Gadeirydd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yng Nghymru cyn ymddeol yn 2021, ac mae hi’n aelod o Banel Ymgynghorol Comisiynydd y Gymraeg. Cyn ymddeol, roedd yn Brif Swyddog Llyfrgelloedd, Gwybodaeth a Diwylliant gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

Bu’r Athro M. Wynn Thomas yn Gadeirydd Cyngor Llyfrau Cymru am ugain mlynedd. Mae’n Athro’r Saesneg ac yn ddeilydd Cadair Emyr Humphreys mewn Ysgrifennu Saesneg yng Nghymru ym Mhrifysgol Abertawe, ac mae’n arbenigwr mewn barddoniaeth Americanaidd ac yn nwy lenyddiaeth Cymru fodern. Fe dderbyniodd anrhydedd uchaf yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2000. Mae’n Gymrawd yr Academi Brydeinig ac yn Gymrawd ac yn gyn Is-lywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

Sefydlwyd Cyngor Llyfrau Cymru yn 1961 i gefnogi’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru. Ei genhadaeth yw cefnogi’r diwydiant cyhoeddi yn y Gymraeg a’r Saesneg, a wneir drwy grantiau a thrwy ddarparu gwasanaethau a chyngor arbenigol i’r sector; a hyrwyddo Darllen er Pleser trwy ddarparu amrywiaeth o raglenni ymgysylltu â darllen.

Mae’n elusen a ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru trwy Gymru Greadigol, ac yn rhannol o weithgareddau masnachol a gwasanaeth cyfanwerthu ei Chanolfan Ddosbarthu.

Dyma ail Gyfarfod Blynyddol Cyngor Llyfrau Cymru yn dilyn ei drosglwyddo i fod yn Sefydliad Corfforedig Elusennol yn 2021. Penodwyd y Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd drwy bleidlais gan aelodau’r elusen.