Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn gwahodd ceisiadau am gytundeb pedair blynedd (2024–28) ar gyfer cylchgrawn llenyddol Saesneg newydd sbon, wrth iddo agor y broses dendro heddiw, 4 Mawrth 2024.

Mae £80,000 y flwyddyn ar gael i ddatblygu a sefydlu un cylchgrawn newydd. Cylch gorchwyl y cylchgrawn fydd cylchgrawn llenyddol Saesneg ei iaith gyda ffocws cryf ar ffuglen a rhyddiaith ffeithiol greadigol, yn cynnwys adolygiadau a sylwebaeth gadarn, ac sydd â model busnes cynaliadwy a hyblyg yn greiddiol iddo.

Ariennir y cylchgrawn hwn gan Lywodraeth Cymru trwy Cymru Greadigol. Bydd ymhlith nifer o gyhoeddiadau eraill sydd yn derbyn y Grant Cyfnodolion Diwylliannol dros y cyfnod ariannu.

Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr y Cyngor Llyfrau: “Dyma gyfle cyffrous i ymgeiswyr gyflwyno eu syniadau am gylchgrawn newydd sbon, gyda’r nod o gyhoeddi’r rhifyn cyntaf erbyn diwedd y flwyddyn. Rydym yn chwilio am gylchgrawn gyda model busnes cadarn ac uchelgeisiol a fydd yn gwneud cyfraniad sylweddol i ddiwylliant Cymru a cheisio denu’r darllenwyr ehangaf posib, a hefyd yn cefnogi datblygu sgiliau fel rhan o’r ecosystem gyhoeddi ehangach.”

Mae’r canllawiau a ffurflen gais ar gael ar wefan y Cyngor Llyfrau, llyfrau.cymru
Tendrau | Cyngor Llyfrau Cymru. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau cam 1 yw 15 Ebrill 2024, gyda’r ceisiadau ar y rhestr fer yn mynd i ail gam yn yr haf.