Straeon cyfoes am ddewrder dwy ferch mewn sefyllfaoedd heriol ond gwahanol iawn sydd wedi cipio’r prif wobrau ar gyfer llyfrau Cymraeg i blant a phobl ifanc yng Ngwobrau Tir na n-Og 2021.

Casia Wiliam sy’n fuddugol yn y categori cynradd am ei nofel Sw Sara Mai (Y Lolfa), gyda #helynt gan Rebecca Roberts (Gwasg Carreg Gwalch) yn dod i’r brig yn y categori uwchradd. Dyma’r tro cyntaf i’r ddwy ennill Gwobr Tir na n-Og.

Cyhoeddwyd enwau’r enillwyr ar raglen Heno ar S4C am 19:00 nos Iau, 20 Mai, ac mae’r awduron yn derbyn gwobr ariannol o £1,000 yr un yn ogystal â cherdd gomisiwn gan Fardd Plant Cymru, Gruffudd Owen.

Mae Gwobrau Tir na n-Og yn dathlu’r gorau o blith llyfrau i blant ac oedolion ifanc a gyhoeddwyd yn ystod 2020. Fe’u trefnir yn flynyddol gan Gyngor Llyfrau Cymru a’u noddi gan gymdeithas y llyfrgellwyr, CILIP Cymru.

Enillydd y categori cynradd

Stori gyfoes yw Sw Sara Mai am ferch tua naw oed o’r enw Sara Mai sy’n byw yn sw ei rhieni ac sy’n ei chael hi’n haws i ddeall ymddygiad creaduriaid rhyfeddol y lle nag ymddygiad merched eraill ei dosbarth ysgol.

Wrth drafod y llyfr, dywedodd Cadeirydd y panel beirniaid, T Hywel James: “Dyma nofel sydd yn ymdrin â phwnc cyfoes gan ddelio â bwlio a rhagfarn yn erbyn pobl o gefndir neu dras wahanol. Mae’n gyfrol sydd yn llenwi bwlch pwysig yn y ddarpariaeth ar gyfer yr oedran ac yn gam yn y cyfeiriad cywir er mwyn adlewyrchu yn well y Gymru amrywiol a chynhwysol o’n cwmpas.”

Dywedodd Casia Wiliam, sy’n byw yng Nghaernarfon: “Dwi wedi gwirioni! Dwi’n darllen gwaith gan awduron sydd wedi ennill Gwobr Tir na n-Og ers ’mod i’n ddim o beth, a dwi’n methu coelio ’mod i yn yr un cae â nhw! Rydw i hefyd yn hynod o falch o Sara Mai – hi ydi’r enillydd go iawn. Mae mor bwysig bod Cymry bach sydd yn ddu neu’n hil-gymysg yn gweld eu hunain yn brif gymeriadau mewn llyfrau Cymraeg, felly mae’n golygu cymaint i mi fod y llyfr wedi derbyn y gydnabyddiaeth arbennig yma.”

Cafodd y ddau lyfr arall ar y rhestr fer Gymraeg yn y categori cynradd ganmoliaeth uchel gan y beirniaid, sef Ble Mae Boc? Ar Goll yn y Chwedlaugan Huw Aaron (Y Lolfa) lle mae angen dod o hyd i’r ddraig fach, Boc, sy’n cuddio ar bob tudalen, a Mae’r Cyfan i Ti gan Luned Aaron (Atebol) lle caiff plentyn ei gyflwyno i ryfeddodau byd natur.

Enillydd y categori uwchradd

Nofel ar gyfer plant yn eu harddegau hŷn a enillodd y categori uwchradd. Mae #helynt gan Rebecca Roberts yn adrodd stori merch yn ei harddegau a’r hyn sydd yn digwydd iddi ar ôl colli’r bws i’r ysgol un bore – digwyddiad digon cyffredin ond un sydd yn newid cwrs ei bywyd.

Dywedodd Cadeirydd y panel beirniaid, T Hywel James: “Dyma stori sydd yn cydio o’r dechrau i’r diwedd gan gyfleu rhywfaint o realiti effaith tlodi a thrais yn y cartref ar berson ifanc yn y Gymru cyfoes. Mae portread sensitif a chynnil iawn o brif gymeriad gydag anabledd wedi ei gynnwys yn grefftus iawn yn y stori – ond merch ddewr, nid ei hanabledd, yw ffocws y dweud. Fel panel credwn fod y nofel hon yn esiampl ardderchog, ‘clasurol’ hyd yn oed, o genrellenyddiaeth i’r arddegau – ac nid camp hawdd yw cyflawni hynny.”

Dywedodd Rebecca Roberts, sy’n byw ym Mhrestatyn: “Mae #helynt yn stori am garu dy hun, am fod yn wahanol ac yn falch o’r ffaith – neges dwi’n meddwl mae angen i bobl ifanc ei chlywed yn aml. Mae Rachel mor agos at fy nghalon, felly roeddwn i wrth fy modd o glywed bod y beirniaid yn teimlo’r un fath â minnau. Mae wir yn anrhydedd ac yn uchafbwynt anhygoel. Mawr yw fy niolch i bawb a helpodd i ddwyn #helynt i’r byd.”

Roedd canmol hefyd ar y ddwy nofel arall ar y rhestr fer uwchradd Gymraeg, sef Llechi gan Manon Steffan Ros (Y Lolfa), am lofruddiaeth Gwenno berffaith, brydferth, glyfar ym Methesda, ac Y Castell Siwgr gan Angharad Tomos (Gwasg Carreg Gwalch), am brofiadau dirdynnol caethferch ifanc ar blanhigfa teulu’r Penrhyn yn Jamaica a morwyn sy’n gweithio yng Nghastell Penrhyn yng Ngwynedd.

Dywedodd Helen Jones, Pennaeth Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen y Cyngor Llyfrau: “Llongyfarchiadau gwresog i awduron a chyhoeddwyr y llyfrau buddugol, a’r holl deitlau gwych eraill a gyhoeddwyd yn ystod 2020. Nid tasg hawdd oedd i’r beirniaid ddewis dau enillydd o blith y cyfrolau rhagorol a ddaeth i law yn y categorïau cynradd ac uwchradd Cymraeg, ac mae hynny’n dyst i’r cyfoeth o dalent sydd gennym ar draws pob agwedd o’r sector llyfrau yng Nghymru.”

Dywedodd Amy Staniforth o CILIP Cymru: “Rydym wrth ein bodd yn noddi gwobrau uchel eu bri Tir na n-Og unwaith eto eleni, gan helpu plant a phobl ifanc i ganfod profiadau darllen newydd sy’n adlewyrchu bywyd drwy lens Gymreig. Llongyfarchiadau mawr i’r enillwyr ar eu llwyddiant arbennig ac i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r broses o ddod â’r llyfrau gwych yma i’n silffoedd.”

Dywedodd Prif Weithredwr y Cyngor Llyfrau, Helgard Krause: “Mae Gwobrau Tir na n-Og wedi bod yn anrhydeddu’r llyfrau gorau i blant a phobl ifanc yng Nghymru ers bron i hanner canrif bellach, gan gynnig llwyfan i ddathlu a hyrwyddo doniau awduron a darlunwyr sy’n creu deunydd unigryw yn Gymraeg. Diolch o galon i’r rheiny sydd wedi bod yn rhan o’r gystadleuaeth eleni ac i bawb sy’n creu cynnwys rhagorol i’n hysbrydoli, ein haddysgu a’n diddanu fel darllenwyr yn ystod blwyddyn eithriadol o heriol.”

Caiff enillydd rhestr fer Saesneg Gwobrau Tir na n-Og 2021 ei ddatgelu ar raglen y Radio Wales Arts Show am 18:30 nos Wener, 21 Mai 2021. Mae tri theitl ar y rhestr fer sef Where the Wilderness Lives gan Jess Butterworth (Orion), The Short Knife gan Elen Caldecott (Andersen Press), a The Quilt gan Valériane Leblond (Y Lolfa).

Mae holl lyfrau Gwobrau Tir na n-Og ar gael yn eich siop lyfrau neu eich llyfrgell leol.

Rhagor o wybodaeth am yr awduron buddugol

Rebecca Roberts: Mae Rebecca yn byw ym Mhrestatyn gyda’i gŵr a’i phlant. Mynychodd Ysgol Glan Clwyd ac yna Brifysgol Bangor, lle graddiodd mewn Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol yn 2006. Mae hi’n gyfieithydd i’r Mudiad Meithrin, a hefyd yn cynnal seremonïau dyneiddiol, digrefydd. Cyhoeddwyd Mudferwi, ei nofel gyntaf i oedolion, gan Wasg Carreg Gwalch yn 2019, ac fe’i dilynwyd ar gychwyn 2020 gan nofel Saesneg, Eat. Sleep. Rage. Repeat.(Gwasg Gomer). #helynt yw ei nofel gyntaf i bobl ifanc. Yn ei hamser rhydd mae hi’n hoffi cerdded, darllen ffuglen, ac yn debyg i Rachel (prif gymeriad #helynt) mae hi wrth ei bodd yn gwrando ar gerddoriaeth roc.

Casia Wiliam: Mae Casia yn fardd ac yn awdur sydd hefyd wedi addasu nifer o gyfrolau i’r Gymraeg. Mynychodd Ysgol Botwnnog ac yna Prifysgol Aberystwyth, lle graddiodd mewn Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol. Casia oedd Bardd Plant Cymru 2017–19, a Sw Sara Mai yw ei hail nofel wreiddiol i blant. Pan nad yw’n sgwennu, mae’n gweithio i’r elusen Disasters Emergency Committee sy’n codi arian i helpu pobl pan mae trychinebau’n digwydd yn rhai o wledydd tlota’r byd.

Ynghylch y gwobrau

  • Sefydlwyd Gwobrau Tir na n-Og yn 1976 i wobrwyo’r llyfrau gorau i blant a phobl ifanc, a thrwy hynny hybu prynu a darllen llyfrau da. Cyngor Llyfrau Cymru sy’n eu trefnu.
  • Ers 1976, mae rhai o awduron mwyaf blaenllaw Cymru wedi ennill y wobr gan gynnwys Emily Huws, T Llew Jones, Caryl Lewis, Gareth F Williams, Manon Steffan Ros ac Angharad Tomos.
  • Cyflwynir tair gwobr o £1,000 i enillwyr y tri chategori.
  • Mae’r gwobrau’n cael eu noddi gan CILIP Cymru, Sefydliad Siartredig Llyfrgellwyr a Gweithwyr Gwybodaeth Cymru.
  • Y panel beirniaid ar gyfer y gwobrau Cymraeg: Hywel James (Cadeirydd y panel a chyn-Brif Lyfrgellydd Cyngor Gwynedd), Morgan Dafydd (sylfaenydd gwefan Sôn am Lyfra), Alun Horan (cynhyrchydd teledu, Tinopolis) a Nia Morais (awdur a chynorthwyydd dysgu).