Mae gwasg Rily ar fin cyhoeddi cyfrol arloesol sy’n cyflwyno hanfodion amryw o emosiynau sylfaenol, gan gynnwys dicter, hapusrwydd, cenfigen, ofn a phryder.

Wrth i ystadegau diweddar awgrymu bod gorbryder ar gynnydd ymhlith plant ifanc, mae’n amlwg fod yna angen gwirioneddol am adnoddau a llenyddiaeth addas i geisio helpu plant i ddod i ddeall a dygymod â’u teimladau, er lles eu hiechyd meddwl.

Mae gwasg Rily ar fin cyhoeddi cyfrol arloesol sy’n cyflwyno hanfodion amryw o emosiynau sylfaenol, gan gynnwys dicter, hapusrwydd, cenfigen, ofn a phryder. Mae’n trin a thrafod digwyddiadau all godi ym mywydau plant sy’n gallu sbarduno emosiynau dwys, er enghraifft tor priodas, mynychu ysgol newydd a marwolaeth anifail anwes.

Meddai Elin Meek, addasydd y gyfrol, ‘Gobeithio’n fawr y bydd plant yn cael budd o’r ffordd syml a hygyrch y mae’r llyfr yn ymdrin â’u teimladau. Beth sy’n bwysig yma hefyd yw’r arweiniad sydd yn y gyfrol o ran derbyn sut maen nhw’n teimlo – does dim beirniadaeth o gwbl, a does dim emosiwn nad yw’n ‘iawn’ i blant ei deimlo. Mae’r adran am ddicter yn esbonio sut gall dicter fod yn beth iach o’i sianelu’n gywir; gall fod yn sbardun i ddal at egwyddorion, a gweithredu dros gyfiawnder.’

‘Roedden ni’n teimlo bod angen mawr am y math hwn o lyfr,’ medd Lynda Tunnicliffe, Prif Weithredwr gwasg Rily. ‘Mae’r rhan fwyaf o’r staff sydd ar dîm Rily yn rhieni, ac roedden nhw i gyd yn gyffrous ac yn awyddus iawn ein bod ni’n cyhoeddi’r addasiad hwn o My Mixed Emotions er mwyn darparu adnodd pwysig i genhedlaeth sydd wir ei angen. Tua mis yn ôl fe wnaethon ni gyhoeddi ar ein gwefannau cymdeithasol bod y llyfr hwn ar ddod, ac mae’r ymateb wedi bod yn galonogol dros ben.’

Yn y llyfr mae yna argymhellion ymarferol, er enghraifft sut i ddod dros pwl o ddicter, ymarferion anadlu, ioga, myfyrdodau, a bod yn ddiolchgar. Gall cynnwys y llyfr fod yn sbardun i drafodaeth gydag oedolyn, gofalwr neu athro yn yr ysgol, neu gall plentyn ddarllen ar ei ben ei hun, a phrosesu’r cynnwys.