Ydy llyfrau yn gallu helpu i leddfu problemau iechyd meddwl? Dyna’r cwestiwn a gaiff sylw eleni yn nigwyddiad blynyddol Diwrnod y Llyfr sy’n cael ei drefnu gan Gyngor Llyfrau Cymru.

Yn Venue Cymru yn Llandudno ddydd Iau 5 Mawrth 2020, bydd panel o chwech arbenigwr yn trafod manteision ‘bibliotherapi’ lle caiff llyfrau hunangymorth eu defnyddio i gefnogi iechyd meddwl a lles.

Mae ystod eang o lyfrau i’w cael fel rhan o gynllun Darllen yn Well – Llyfrau ar Bresgripsiwn, sy’n cyhoeddi cyfresi o lyfrau defnyddiol yn cefnogi iechyd a lles ar amrywiaeth o bynciau gan gynnwys iechyd meddwl a dementia.

Asiantaeth The Reading Agency sy’n gyfrifol am y cynllun ar draws Prydain mewn partneriaeth â llyfrgelloedd cyhoeddus ar draws Cymru a Lloegr, gyda Chyngor Llyfrau Cymru’n sicrhau bod detholiad o’r llyfrau ar gael yn Gymraeg yn ogystal â’r Saesneg.

Mae’r cynllun Darllen yn Well – Llyfrau ar Bresgripsiwn ar gyfer iechyd meddwl yn cynnig gwybodaeth a chymorth defnyddiol ar gyfer rheoli cyflyrau iechyd meddwl cyffredin, neu ddelio â theimladau a phrofiadau anodd.

Mae rhai llyfrau hefyd yn cynnwys straeon personol gan bobl sy’n byw gyda rhywun ag anghenion iechyd meddwl neu’n gofalu amdano.

Y golygydd a’r adolygydd llyfrau Bethan Mair sy’n cadeirio’r drafodaeth banel ar Ddiwrnod y Llyfr.

“Llyfrau yw fy mywyd”, meddai Bethan “ond mae fy mywyd hefyd wedi cynnwys cyfnodau o iselder a gorbryder difrifol. Dyw hi ddim bob amser yn hawdd siarad am y pethau hyn, ac mae hynny’n fwy anodd fyth pan ydych chi wedi arfer gwisgo mwgwd ‘popeth-yn-iawn’ ar gyfer y cyhoedd. Ond mae gwybod nad ydych chi ar eich pen eich hun, a bod pobl eraill wedi dioddef fel chi, ac wedi dod drwyddi, yn gallu bod yn gysur mawr.

“Mae hunan-wella’n elfen bwysig o bob triniaeth iechyd meddwl,” ychwanegodd hi “ac eto, rhaid cael help llaw – ac mae llyfr yn gymorth hawdd ei gael ar unrhyw adeg. Mae llyfrau Darllen yn Well – Llyfrau ar Bresgripsiwn yn dod ymhob lliw a llun, ar gyfer pob math o achlysur, a dim ond daioni all ddeillio o’r ddarpariaeth arloesol hon yn Gymraeg. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gadeirio trafodaeth fywiog, ddeallus a datgelol ar faes sy’n cyffwrdd â chynifer o bobl.”

Mae aelodau eraill y panel yn cynnwys:

• Manon Elin James – un o sylfaenwyr meddwl.org, sef gwefan sy’n cynnig cefnogaeth a gwybodaeth am anhwylderau iechyd meddwl drwy gyfrwng y Gymraeg.

• Bethan Hughes – Prif Lyfrgellydd Sir Ddinbych sy’n arwain ym maes lles a chynllun Darllen yn Well – Llyfrau ar Bresgripsiwn ar draws Cymru.

• Sharon Marie Jones – awdur plant sydd wedi ysgrifennu’n helaeth am ei galar a’i hiechyd meddwl ers i’w mab pump oed gael ei ladd mewn damwain car yn 2016.

• Dr Harri Pritchard – meddyg teulu profiadol sy’n aml yn trafod materion meddygol ar y cyfryngau.

• Angharad Tomos – awdur arobryn sydd wedi ysgrifennu am yr iselder difrifol a ddioddefodd yn dilyn genedigaeth ei phlentyn.

Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru, Helgard Krause: “Mae Diwrnod y Llyfr yn gyfle i ddathlu’r gair ysgrifenedig a sut mae darllen yn gallu bod yn llesol i ni ar sawl lefel. Mewn cyfnod o drafod cynyddol am broblemau iechyd meddwl, rydyn ni yn y Cyngor Llyfrau yn falch iawn o fod yn gweithio gyda’r Asiantaeth Ddarllen a Llywodraeth Cymru i hyrwyddo’r cynllun Darllen yn Well – Llyfrau ar Bresgripsiwn yng Nghymru. Mae pob un o’r llyfrau hunangymorth yn y cynllun hwn wedi’u cymeradwyo gan arbenigwyr iechyd ac mae sicrhau bod deunydd safonol o’r fath hefyd ar gael yn y Gymraeg yn hollbwysig.”

Dywedodd Debbie Hicks MBE, Cyfarwyddwr Creadigol The Reading Agency: “Bydd un ymhob pedwar ohonon ni yn wynebu problem iechyd meddwl rhywbryd yn ein bywydau. Ar Ddiwrnod y Llyfr, rydym wrth ein bodd yn tynnu sylw at y budd cydnabyddedig a ddaw yn sgil darllen i helpu pobl ddeall a rheoli eu lles a’u hiechyd meddwl. Rydym yn falch o weithio gyda Chyngor Llyfrau Cymru a llyfrgelloedd cyhoeddus i ddod â Darllen yn Well – Llyfrau ar Bresgripsiwn i Gymru, gan sicrhau fod y cynllun yn cyrraedd hyd yn oed mwy o bobl yn y Gymraeg a’r Saesneg.”

Bydd digwyddiad Diwrnod y Llyfr yn dechrau am 6yh gyda derbyniad yn Venue Cymru yn Llandudno nos Iau 5 Mawrth 2020, gyda’r drafodaeth banel am 6.30yh.

Mae mynediad yn rhad ac am ddim ac mae croeso i bawb. Y cyfan sydd angen ei wneud i gadw lle yw ebostio menai.williams@llyfrau.cymru.

Mae teitlau yn y gyfres Darllen yn Well – Llyfrau ar Bresgripsiwn ar gael i’w benthyg o lyfrgelloedd cyhoeddus ar hyd a lled Cymru.

Gall gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd neu ofal cymdeithasol hefyd argymell y llyfrau ar bresgripsiwn fel rhan o driniaeth unigolyn.

Mae manylion pellach am weithgareddau Cyngor Llyfrau Cymru i nodi Diwrnod y Llyfr i’w gweld ar ein gwefan.