Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi buddsoddiad o £5m ar gyfer rhaglenni darllen a rhoi llyfr yn anrheg i blant a phobl ifanc ledled Cymru

 

Mae Cyngor Llyfrau Cymru’n croesawu’r cyhoeddiad y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu arian ychwanegol sylweddol er mwyn cefnogi’r ymgyrch rhoi llyfr yn anrheg #CaruDarllenYsgolion o wanwyn 2022 ymlaen. Fel rhan o’r buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd ar gyfer ymgysylltu â darllen, bydd detholiad o 50 o lyfrau’n cael ei anfon i bob ysgol wladol yng Nghymru, yn ogystal â llyfr unigol i bob disgybl ei gadw. Bydd y cynllun yn golygu bod gan ddysgwyr ledled Cymru fynediad cyfartal i ystod amrywiol o lenyddiaeth apelgar o safon, yn Gymraeg a Saesneg, sydd wedi’i dewis yn benodol ar gyfer plant a phobl ifanc.

Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Mae’r buddsoddiad sylweddol hwn gan Lywodraeth Cymru yn tanlinellu pwysigrwydd ymgysylltu â darllen yn ystod plentyndod, a gwyddom fod yr arfer o ddarllen ymhlith y ffactorau sy’n cael yr effaith fwyaf ar gyrhaeddiad addysgol. Rydym yn falch iawn o gefnogi ymgyrchoedd Llywodraeth Cymru i roi llyfr yn anrheg gan eu bod yn gwneud cymaint o wahaniaeth i ysgolion a disgyblion ledled Cymru, ac mae’r cyllid ychwanegol hwn yn ein galluogi i ddosbarthu mwy o lyfrau i fwy o ddisgyblion i danio cariad at ddarllen y byddant yn elwa ohono drwy gydol eu hoes.

Mae ein strategaeth 5 mlynedd sydd newydd ei chyhoeddi yn amlinellu gweledigaeth y Cyngor Llyfrau ar gyfer Cymru fel Cenedl o Ddarllenwyr ac yn tanlinellu ein hymrwymiad ni ein hunain i gynyddu ymgysylltu â darllen ac ehangu’r rhaglenni rhoi llyfr yn anrheg. Rwy’n falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi cyndabod pwysigrwydd y cylch gwaith yma ac rydym yn edrych ymlaen at gydweithio â nhw i gefnogi’r rhaglen gyffrous ac uchelgeisiol hon.”

Wrth gyhoeddi’r cyllid newydd, dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg: Mae sgiliau siarad, gwrando a darllen yn chwarae rôl hanfodol yn ein bywydau bob dydd. Os ydyn ni am gau’r bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion o gefndiroedd difreintiedig a’u cyfoedion, mae gwella sgiliau darllen yn hanfodol.

“Rhaid inni ysgogi cariad at ddarllen ymhlith plant ifanc er mwyn inni allu sicrhau bod ganddyn nhw’r sgiliau a’r arferion y bydd eu hangen arnyn nhw yn nes ymlaen mewn bywyd.

“Mae darllen yn hanfodol i sicrhau bod pob dysgwr yn cael cyfle i fanteisio ar ehangder y Cwricwlwm newydd i Gymru. Ac mae nodau’r cwricwlwm yn seiliedig ar wella llythrennedd a llafaredd ein dysgwyr iau.

Ychwanegodd y Gweinidog: Rwy’n hynod falch fy mod i’n gallu dangos yr effaith bwysig y gall llyfrau, darllen a llafaredd ei chael ar wireddu potensial plant drwy roi llyfr i bob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru: yn ogystal â chyllid ar gyfer mwy o lyfrau mewn ysgolion ac i deuluoedd.”