Cyhoeddi’r Rhestr Fer Gymraeg ar gyfer gwobr llyfrau plant hynaf Cymru – Gwobrau Tir na n-Og 2023

Datgelodd Cyngor Llyfrau Cymru pa lyfrau Cymraeg sydd wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Tir na n-Og ar raglen Heno ar S4C nos Iau, 23 Mawrth. Mae’r gwobrau yn dathlu’r straeon gorau o Gymru a’r straeon am Gymru a gyhoeddwyd yn 2022.

Mae’r rhestr fer eleni yn dathlu’r ystod helaeth o fformatau sydd wedi’u cyhoeddi dros y flwyddyn ddiwethaf i ysbrydoli darllenwyr ifanc. O’r llyfrau stori-a-llun, odlau llawn hiwmor i blant bach, i nofel graffeg, straeon byrion a nofelau – mae rhywbeth at ddant pawb.

Gwobrau Tir na n-Og yw’r gwobrau hynaf a mwyaf poblogaidd o’u bath ar gyfer llenyddiaeth plant a phobl ifanc yng Nghymru. Caiff y gwobrau eu trefnu’n flynyddol gan Gyngor Llyfrau Cymru a’u noddi gan CILIP Cymru. Maent yn anrhydeddu ac yn dathlu’r awduron a’r darlunwyr mwyaf creadigol a’r deunyddiau darllen gorau i blant, naill ai yn y Gymraeg neu drwy gyfrwng y Saesneg gyda dimensiwn Cymreig dilys.

Dros y blynyddoedd, mae’r gwobrau wedi’u hennill gan rai o’n prif awduron a darlunwyr gan gynnwys Manon Steffan Ros, Jac Jones, Caryl Lewis a Gareth F. Williams. Nod y gwobrau ydy dathlu darllen er pleser ac ysbrydoli dewisiadau darllen i ddarllenwyr ifanc. Trwy’r gwobrau gall plant a phobl ifanc fwynhau a chael eu hysbrydoli gan straeon ac ysgrifennu o Gymru neu am Gymru.

Mae gan y wobr Gymraeg ddau gategori: Cynradd (4-11 oed) ac Uwchradd (11-18 oed).

Rhestr Fer Cynradd

Dros y Môr a’r Mynyddoedd, awduron amrywiol, darluniwyd gan Elin Manon (Gwasg Carreg Gwalch)
Casgliad hynod o brydferth o straeon Celtaidd rhyngwladol. Er bod pob stori’n unigryw ac yn wahanol, mae un peth yn gyffredin rhyngddynt – y merched cryf a phenderfynol sy’n arwain pob stori.

Dwi Eisiau Bod yn Ddeinosor, Huw Aaron a Luned Aaron (Atebol)
Llyfr modern, doniol a lliwgar sy’n llawn direidi ond yn trafod neges bwysig ar yr un pryd – rwyt ti’n ddigon da fel ag yr wyt ti.

Enwogion o Fri: Nye – Bywyd Angerddol Aneurin Bevan, Manon Steffan Ros, darluniwyd gan Valériane Leblond (Llyfrau Broga)
Y cyfuniad perffaith o air a llun yn dod at ei gilydd i ddweud hanes un bachgen swil o dde Cymru, a lwyddodd i helpu miliynau o bobl drwy ei waith yn sefydlu un o’n trysorau cenedlaethol.

Rhestr Fer Uwchradd

Gwlad yr Asyn, Wyn Mason, darluniwyd gan Efa Blosse Mason (Gwasg Carreg Gwalch)
Dyma nofel graffeg anghyffredin a ffraeth iawn yn seiliedig ar ddrama lwyfan. Stori am asyn sydd wedi hen arfer bod o gwmpas pobl, ond erbyn y diwedd daw i gwestiynu ei hunaniaeth ei hun!

Manawydan Jones: Y Pair Dadeni, Alun Davies (Y Lolfa)
Antur ffantasïol llawn dirgelwch, sy’n croesi’r ffin rhwng y byd go iawn a’r byd hudol. Dehongliad modern a ffres o hen chwedlau’r Mabinogi sy’n eu cyflwyno i genhedlaeth newydd o ddarllenwyr.

Powell, Manon Steffan Ros (Y Lolfa)
Nofel deimladwy, bwysig ac amserol iawn sy’n taflu goleuni ar bwnc anghyfforddus i feddwl amdano – rôl Cymru yn y diwydiant caethwasiaeth. Fel sy’n nodweddiadol o waith yr awdur, y cymeriadau sydd wrth wraidd y stori bob amser.

Bob blwyddyn, mae paneli annibynnol yn penderfynu ar y rhestrau byrion ac yn dewis yr enillwyr ar gyfer y gwobrau Cymraeg a Saesneg. Y beirniaid ar y panel Cymraeg eleni oedd Morgan Dafydd (Cadeirydd), Sara Yassine, Francesca Sciarrillo, Sioned Dafydd (uwchradd) a Siôn Edwards (cynradd) – rhai sydd â phrofiad helaeth ac angerdd ynglŷn â llenyddiaeth i blant.

Dywedodd Morgan Dafydd, Cadeirydd y Panel Cymraeg: “Er bod yr argyfwng costau byw yn brathu, o edrych ar yr arlwy eleni gallwn weld fod y diwydiant llyfrau yn dal ei dir a bod creadigrwydd yn ffynnu. Eleni, gwelsom gymysgedd o awduron newydd ynghyd â rhai cyfarwydd ym maes llyfrau i blant. Yn fy nhrydedd flwyddyn ar y panel, gallaf ddweud â sicrwydd bod y safon yn uchel iawn eleni – yn wir, mae’n parhau i godi bob blwyddyn.”

Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Llongyfarchiadau mawr i bawb sydd wedi cyfrannu at greu’r llyfrau rhagorol ar y rhestrau byrion eleni. Mae’n galonogol iawn gweld llyfrau gwreiddiol Cymraeg mewn cymaint o wahanol fformatau i apelio at ddarllenwyr ifanc. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld pa lyfrau fydd yn fuddugol eleni.”

Bydd y rhestr fer ar gyfer llyfrau Saesneg yn cael ei datgelu am 18:30 ddydd Gwener, 24 Mawrth ar y Radio Wales Arts Show.

Eleni, bydd categori newydd, sef Gwobr Barn y Darllenwyr: tlws arbennig sy’n cael ei ddewis gan blant a phobl ifanc sy’n cymryd rhan yng nghynllun cysgodi Tir na n-Og. Gall ysgolion, llyfrgelloedd a grwpiau darllen eraill gofrestru i gymryd rhan yn y cynllun a bod yn feirniaid answyddogol i ddewis enillydd o blith y rhestr fer, gan ddefnyddio’r pecyn cysgodi arbennig. Cewch fanylion ar sut i gofrestru ar wefan y Cyngor Llyfrau.

Caiff enillwyr y categorïau Cymraeg eu cyhoeddi ddydd Iau, 1 Mehefin yn Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin, ac enillydd y categori Saesneg ddydd Gwener, 2 Mehefin ar y Radio Wales Arts Show.

Bydd siopau llyfrau’n cynnal Helfa Drysor Tir na n-Og yn ystod gwyliau’r Pasg gyda chyfle i ennill tocyn llyfr £15 i blant rhwng 4 ac 11 oed. Holwch yn eich siop lyfrau leol am fanylion.

Cewch fwy o wybodaeth am y gwobrau a’r llyfrau ar y rhestrau byrion ar wefan y Cyngor Llyfrau: Books.Wales