Llongyfarchiadau gwresog i’n Prif Weithredwr, Helgard Krause, wrth iddi ymuno â Gorsedd y Beirdd am ei chyfraniad i’r celfyddydau yng Nghymru.

Yn wreiddiol o Pfalz yn ne’r Almaen ac yn amlieithog, mae gan Helgard gyfoeth o brofiad ym maes cyhoeddi yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.

Daeth i Gymru yn 2005 a dechrau gweithio i’r Cyngor Llyfrau fel Swyddog Gwerthu Rhyngwladol. Dysgodd Gymraeg er mwyn ymgymryd â rôl Pennaeth Gwerthu a Marchnata, ac yr oedd yn rhugl o fewn ychydig fisoedd. Bu’n Gyfarwyddwr Gwasg Prifysgol Cymru o 2010–2017, cyn dychwelyd i’r Cyngor Llyfrau yn 2017 yn Brif Weithredwr.

Dywedodd Helgard: ‘Rwy’n teimlo’n hynod freintiedig ac emosiynol o dderbyn yr anrhydedd hon a chael ymuno â chylch disglair o feirdd, awudron ac unigolion creadigol eraill sydd wedi cyfrannu cymaint at yr iaith a’r diwylliant Cymraeg. Mae’n bleser cael llwyfan i hybu’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru ymhellach a thynnu sylw at bwysigrwydd llyfrau a darllen yn gyffredinol.’

 

Yn y llun gwelir yr Archdderwydd, Myrddin ap Dafydd yn croesawu Helgard i’r Orsedd.