Pecynnau lles ar gyfer gofalwyr ifanc yng Ngheredigion yr haf hwn

Mae 80 pecyn o lyfrau yn cael eu hanfon at ofalwyr ifanc ledled Ceredigion i gefnogi eu lles ac annog eu taith ym myd darllen yr haf hwn. Mae gofalwyr ifanc yn wynebu’r anhawster o gydbwyso’u cyfrifoldebau gofalu â rhai bywyd bob dydd, gan gynnwys eu haddysg eu hunain. Bydd y pecynnau lles hyn yn hwb iddynt ac yn gydnabyddiaeth o’r gwaith rhagorol y maent yn ei wneud o ddydd i ddydd.

Mae’r pecynnau hyn wedi eu darparu mewn partneriaeth rhwng Uned Gofalwyr Cyngor Sir Ceredigion a Chyngor Llyfrau Cymru, ac yn cynnwys chwe llyfr darllen, pecyn o hadau blodau fydd yn denu gwenyn, potel ddŵr y gellir ei hailddefnyddio, siocled Cymreig blasus, ynghyd â Dyddlyfr Sgiliau Gofalydd Ifanc.

Nod cynllun Caru Darllen Ceredigion yw cefnogi iechyd, lles a datblygiad darllen grwpiau bregus o blant a phobl ifanc, yn enwedig yn wyneb y galwadau a’r anawsterau cynyddol a wynebir yn sgil pandemig y coronafirws. Yr haf diwethaf anfonwyd 100 o becynnau at 100 o deuluoedd â phlant a dderbyniodd wasanaethau cymorth trwy’r awdurdod lleol.

Dywedodd y Cynghorydd Catherine Hughes, Aelod o Gabinet Cyngor Sir Ceredigion gyda chyfrifoldeb am y Porth Gofal, Cymorth Cynnar, Canolfannau Lles a Diwylliant: “Rwy’n falch iawn o’r fenter wych hon rhwng Cyngor Llyfrau Cymru a’r Awdurdod Lleol i ddarparu pecynnau lles mor ystyrlon i’n gofalwyr ifanc. Mae bod yn ofalwr ifanc yn heriol ar y gorau, ond bu pwysau ychwanegol arnynt dros y misoedd diwethaf oherwydd y pandemig. Gobeithiwn y bydd y pecynnau lles yn dod â phleser mawr i’n gofalwyr ifanc wrth inni gydnabod eu gwaith rhagorol.”

Dywedodd Angharad Sinclair, Rheolwr Datblygu Prosiect yr Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen yng Nghyngor Llyfrau Cymru: “Mae’n hyfryd cael gweithio gyda Chyngor Sir Ceredigion eto ar fenter mor werthfawr a fydd yn rhoi hwb i hyder y gofalwyr ifanc ac yn gydnabyddiaeth o’r hyn maent wedi ei gyflawni yn ystod y cyfnod arbennig o anodd yma. Gall dianc rhwng cloriau llyfr fod yn ffordd mor effeithiol i ni i gyd gymryd seibiant oddi wrth bwysau beunyddiol bywyd, a gobeithiwn y bydd y pecynnau llyfrau hyn yn annog eu taith hwythau hefyd ym myd darllen.”

Mae’r rhan fwyaf o’r llyfrau yn y pecynnau wedi’u cyhoeddi yng Nghymru ac yn cynrychioli’r goreuon ym maes ysgrifennu a darlunio i ddarllenwyr rhwng 8 a 18 oed.