Cyngor Llyfrau Cymru i ariannu dau wasanaeth newyddion digidol Cymraeg o Ebrill 2022

Bydd gan Gymru fwy o sianeli newyddion digidol pwrpasol yn y Gymraeg o Ebrill 2022 ymlaen wrth i Gyngor Llyfrau Cymru gyhoeddi pwy fydd yn derbyn cyllid y gwasanaeth newyddion digidol am y 4 blynedd nesaf.

Bydd Golwg 360 a Corgi Cymru yn derbyn cyllid blynyddol o £100,000 yr un dan y cytundeb newydd, a fydd yn parhau o Ebrill 2022 tan Fawrth 2026.

Dyfarnwyd y grantiau yn dilyn proses dendro agored, sy’n gwahodd ceisiadau i ddarparu gwasanaeth newyddion digidol pwrpasol yn y Gymraeg. Gweinyddir y grant gan Gyngor Llyfrau Cymru ar ran Llywodraeth Cymru, gyda phanel annibynnol yn dyfarnu’r cyllid.

Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Pwrpas y grant yma ydy galluogi darpariaeth newyddion yn y Gymraeg a fydd yn gwneud cyfraniad sylweddol i ansawdd ac amrywiaeth newyddiaduraeth yng Nghymru. Y nod yn y pen draw ydy cynyddu nifer y bobl, yn enwedig pobl ifanc, sy’n ymgysylltu â’r newyddion trwy gyfrwng y Gymraeg.

“Cyflwynodd y ddau gwmni gynigion cyffrous a gwahanol i’r panel grantiau annibynnol gan ddangos sut y bydden nhw’n darparu gwasanaethau newyddion o ansawdd uchel a fydd yn apelio at ddarllenwyr ar draws Cymru, gyda straeon a chynnwys sydd yn berthnasol, yn hygyrch a chyda llais Cymreig cryf.

“Rydym ni’n falch iawn i allu dyfarnu’r cyllid grant i’r ddau gwmni a rhoi mwy o ddewis nag erioed i bobl dderbyn eu newyddion dyddiol yn y Gymraeg trwy amrywiaeth o blatfformau digidol.”

Dywedodd Owain Schiavone, Prif Weithredwr Dros Dro Golwg Cyf: “Mae Golwg yn falch o’r cyfle i barhau i gynnig gwasanaeth newyddion digidol yn y Gymraeg trwy golwg360.cymru. Mae gennym gynlluniau cyffrous ynglŷn â sut i symud y gwasanaeth i gyfeiriad ychydig yn wahanol, gan ymateb i’r hyn rydym wedi’i ddysgu am y gynulleidfa ers lansio golwg360 yn 2009, yn ogystal â’r modd y mae’r byd newyddion wedi esblygu ers hynny. Rydym yn hyderus yng ngallu ein tîm profiadol i barhau i ddarparu gwasanaeth o’r safon uchaf yn y Gymraeg dros y blynyddoedd sydd i ddod.”

Dywedodd Huw Marshall, Cyhoeddwr Corgi Cymru: “Rydym yn ddiolchgar i Gyngor Llyfrau Cymru sydd wedi croesawu ein gweledigaeth ar gyfer creu gwasanaeth newyddion digidol Cymraeg newydd a fydd yn targedu cenhedlaeth newydd o siaradwyr Cymraeg mewn cymunedau Cymreig ôl-ddiwydiannol, yn ogystal â’r rheini sy’n byw mewn cymunedau Cymraeg mwy traddodiadol.

“Bydd y buddsoddiad gan Gyngor Llyfrau Cymru yn ein galluogi, gobeithio, i ddatblygu gwasanaeth masnachol hyfyw yn yr iaith Gymraeg ac ychwanegu at luosogrwydd o fewn tirwedd y cyfryngau yng Nghymru.”

Gallwch chi ddilyn newyddion Golwg 360 ar Golwg360 – Newyddion, materion cyfoes, chwaraeon a chelfyddau – y diweddara yn ddi-dor yn y Gymraeg.

Bydd Corgi.Cymru yn cael ei lansio ar 25 Ebrill 2022. Gallwch chi ddilyn newyddion Corgi ar www.corgi.cymru

Facebook.com/corgicymru
Instagram.com/corgicymru
https://www.tiktok.com/@corgicymru