Dau gylchgrawn newydd Cymraeg i ddod yn 2023

Bydd dau gylchgrawn newydd ar gael yn y Gymraeg eleni, ar ôl i Wasg Carreg Gwalch a Golwg ennill grantiau gan y Cyngor Llyfrau i beilota dau deitl newydd.

Bydd Gwasg Carreg Gwalch yn lansio cylchgrawn hanes poblogaidd, Hanes Byw, ym mis Medi a bydd Golwg yn lansio cylchgrawn digidol ar chwaraeon erbyn yr hydref.

Cafodd y ddau deitl eu sefydlu trwy gyllideb gan y Cyngor Llyfrau, sy’n cefnogi cylchgronau Cymru yn y Gymraeg ac yn Saesneg ar bynciau o bob math, diolch i arian grant gan Cymru Greadigol.

Dywedodd Owain ap Myrddin, o Wasg Carreg Gwalch: “Yr hyn a anelir ato yw codi straeon o hanes ac archaeoleg, gwreiddiau geiriau a chwedlau, traddodiadau a chelfyddyd sy’n berthnasol o hyd i’n bywydau heddiw, yn taflu golau ar ambell broblem gyfoes. Bydd hefyd yn cynnwys elfennau storïol, hanes llawr gwlad y byddai trwch y gymdeithas Gymraeg yn medru ymhyfrydu ynddo a theimlo’n gyfforddus i gyfrannu iddo. Bydd prif faes yr erthyglau yn perthyn i’r 250 mlynedd diwethaf. Bydd pwyslais ar blethu’r gorffennol gyda heddiw – bod dylanwad ddoe i’w ganfod ym mywyd y dydd hwn.”

Bydd cylchgrawn Hanes Byw yn cael ei lansio ar 28 Medi, gyda 4 rhifyn y flwyddyn ar gael mewn siopau llyfrau neu trwy danysgrifio ar wefan Carreg Gwalch.

Bydd Golwg yn lansio eu cylchgrawn chwaraeon newydd erbyn yr hydref. Dywedodd Owain Schiavone, Prif Weithredwr Golwg Cyf: “Mae Golwg yn falch iawn o’r cyfle i arbrofi gyda chylchgrawn chwaraeon newydd ac mae’r cynlluniau sydd gennym yn rai cyffrous. Rydym yn awyddus i geisio datblygu gwasanaeth sy’n arloesol yn y Gymraeg ac sy’n cynnig sylwebaeth arbenigol ar nifer o gampau gwahanol – o’r rhai prif ffrwd a phoblogaidd i chwaraeon llai amlwg. Byddwn yn cyhoeddi mwy o wybodaeth am union natur y cylchgrawn, ond rydym yn awyddus i glywed gan unrhyw un sy’n awyddus i gyfrannu at y prosiect, trwy e-bostio owainschiavone@golwg.cymru

Dywedodd Arwel Jones, Pennaeth Datblygu Cyhoeddi’r Cyngor Llyfrau: “Rydym ni’n falch iawn o gefnogi peilot ar gyfer y ddau gylchgrawn yma sy’n ychwanegu pynciau newydd i’r farchnad cylchgronau Cymraeg. Sylwodd y panel annibynnol, sy’n dyfarnu’r grant cylchgronau, ar fwlch yn y ddarpariaeth ar gyfer cylchgronau’n ymwneud â chwaraeon a hanes poblogaidd. Felly rydym ni wedi gallu cynnig grant un flwyddyn o £30,000 yr un i beilota cylchgronau newydd ar y pynciau hyn ac i ehangu’r dewis i ddarllenwyr.”